Neidio i'r prif gynnwy

Canslo tair sesiwn galw heibio

Rydym wedi canslo tri sesiwn galw heibio yn ymwneud â chynlluniau mynediad i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.

Roedd y sesiynau sydd wedi’u canslo wedi’u trefnu i redeg rhwng 11am a 7.30pm ar:

  • Ddydd Iau 19 Mawrth
  • Ddydd Gwener 20 Mawrth
  • Ddydd Sadwrn 21 Mawrth

Rydym wedi gwneud y penderfyniad yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru i amddiffyn pobl rhag y Coronafeirws.

Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra yn yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Gallwch weld ein cynlluniau ar y dudalen hon o’r wefan: https://velindre.nhs.wales/velindre-futures/news/tcs-news/plans-to-access-new-velindre-cancer-centre/

Os oes gennych gwestiwn neu sylw, anfonwch e-bost at Contact.Velindre@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 029 2052 2694

Gallwch wneud sylwadau ar ein cynlluniau ar gyfer y brif fynedfa yn Asda erbyn dydd Sul 22 Mawrth, drwy e-bostio info@theurbanists.net neu drwy ysgrifennu at The Urbanists, The Creative Quarter, 8a Morgan Arcade, Caerdydd, CF10 1AF.

Gallwch wneud sylwadau ar ein cynlluniau ar gyfer y ffordd mynediad dros dro i draffig adeiladu ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd drwy e-bostio Contact.Velindre@wales.nhs.uk neu drwy ysgrifennu at Brosiect Newydd Canolfan Ganser Felindre, Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL.