Neidio i'r prif gynnwy

Cais Cynllunio Amlinellol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yn cael ei wrthod gan Gyngor Caerdydd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas a Sir Caerdydd wedi gwrthod cais cynllunio amlinellol Ymddiriedolaeth GIG Felindre i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd.

Yn gynharach y prynhawn yma (dydd Mercher, 13 Rhagfyr), daeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor a Dinas Sir Caerdydd at ei gilydd i ystyried cais cynllunio amlinellol Ymddiriedolaeth GIG Felindre i adeiladu Canolfan Ganser newydd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

Meddai Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Felindre: “Yn anffodus, cafodd ein cais i adeiladu Canolfan Ganser newydd yn yr Eglwys newydd, Caerdydd ei wrthod gan y pwyllgor cynllunio.

“Er bod y Ganolfan Ganser bresennol wedi ein gwasanaethu ni a’n cleifion yn dda am fwy na 60 mlynedd, nid yw’n addas i’r pwrpas rhagor. Mae mwy a mwy o bobl ar draws De Ddwyrain Cymru angen triniaeth canser a gofal gennym ni, ac oherwydd y cynnydd parhaus hwnnw yn y galw ar ein gwasanaethau, mae’n rhaid inni wneud pethau’n wahanol.

“Mae hyn yn siomedig iawn, ond nid yw canlyniad heddiw yn newid ein huchelgais i drawsnewid gwasanaethau canser er gwell i boblogaeth De Ddwyrain Cymru.

“Bydd angen i ni edrych yn awr ar ganlyniad heddiw, ac ystyried ein camau nesaf cyn gynted ag y gallwn.”