Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd aer

Rydym yn monitro ansawdd aer yn yr ardal o amgylch y safle ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd. Cyn y gwaith galluogi, rydym wedi bod yn casglu data i bennu darlleniadau sylfaenol. 

Ansawdd aer yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio pa mor llygredig yw'r aer a anadlwn. Pan fydd ansawdd yr aer yn wael, gall llygryddion yn yr aer fod yn beryglus i bobl.

Mae monitro Ansawdd Aer yn amod sy'n rhan o'n Caniatâd Cynllunio ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd.  Yn wir, mae'n amod cynllunio safonol ar gyfer datblygiadau seilwaith mawr fel y ganolfan newydd. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiadau monitro i'r cyhoedd eu gweld.

Yn y ddau adroddiad fe welwch Dabl Mynegai Ansawdd Aer DEFRA sy'n nodi targedau ar gyfer ansawdd aer. Mae'r safonau ansawdd aer yn lefelau a argymhellir gan y Panel Arbenigol ar Safonau Ansawdd Aer (EPAQS) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o ran gwybodaeth wyddonol gyfredol am effeithiau pob llygrydd ar iechyd a'r amgylchedd.

Mae'r data'n cael ei gasglu yn seiliedig ar wybodaeth a gaiff ei ddal drwy unedau ansawdd aer rydym wedi'u lleoli yn ardal yr Eglwys Newydd. Y rhain yw:

1.dwy uned Zephyr sydd wedi'u lleoli ar lampau ar Heol y Parc a'r Hollybush Inn ag uned DM11 Pro sydd hefyd wedi'i lleoli ar Park Road sy'n monitro crynodiadau o ddeunydd gronynnol ar gyfer NO2, PM10 a PM2. 5 yn yr awyr. Mae’r data hwn yn cael ei gasglu'n fyw a'i adrodd yn ddyddiol. Cyflwynir y data mewn fformat darllenadwy a bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n fisol. 
2.    chwe uned tiwb gwasgaredig i fonitro NO2 yn yr awyr. Cymerir samplau bob mis a'u hanfon i'r labordy i'w dadansoddi. Caiff yr adroddiad hwn ei gynhyrchu a'i gyhoeddi bob chwarter.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni drwy Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk