Wedi clywed llawer am Ganolfan Ganser newydd Felindre ac eisiau cymryd rhan? Dyma sut!
Cymrwch ran yn Panel Cymunedol Lleisiau Felindre.
Fel aelod o’n panel cymunedol, fe'ch gwahoddir i ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled rhanbarth Felindre – gan arddangos agweddau gwahanol o'n gwaith. Byddwch hefyd yn gyntaf i gael cynnig cyfle i gymryd rhan yn ein gweithgareddau gwirfoddoli gwyrdd a'n prosiectau celfyddydol, ac i roi eich barn ar y gwaith sydd ar y gweill.
Mae gennym gymaint o brosiectau cyffrous o'n blaenau ac rydym am i chi ymuno â ni!
Fe fyddwch chi eisiau cymryd rhan os:
- Mae gennych chi ddiddordeb mawr yng ngwaith Felindre
- Rydych chi’n barod i rannu eich barn yn barchus a chael dweud eich dweud ar sut mae'r prosiect yn cael ei weithredu
- Rydych chi’n awyddus i hyrwyddo cyfranogiad cymunedol i'ch grwpiau cynrychioliadol
Byddwn ni’n:
- Darparu gofod cynhwysol a diogel lle gall y rhai sydd â diddordeb yn y ganolfan newydd i gael dweud eu dweud, cynnig adborth ar gynlluniau, gwneud awgrymiadau a chael llais wrth wneud penderfyniadau
- Gweithio mewn partneriaeth ag aelodau'r gymuned, cleifion a staff ar faterion sy'n ymwneud â’r ganolfan newydd
- Gwrando gyda nod cyffredin I sicrhau bod y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn gweithio i bob un o'n cymunedau
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Cofrestrwch yma a dewis Panel Cymunedol. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!