Neidio i'r prif gynnwy

Panel Cymunedol Felindre

Wedi clywed llawer am Ganolfan Ganser newydd Felindre ac eisiau cymryd rhan? Dyma sut!

 

Cymrwch ran yn Panel Cymunedol Lleisiau Felindre.

Fel aelod o’n panel cymunedol, fe'ch gwahoddir i ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled rhanbarth Felindre – gan arddangos agweddau gwahanol o'n gwaith. Byddwch hefyd yn gyntaf i gael cynnig cyfle i gymryd rhan yn ein gweithgareddau gwirfoddoli gwyrdd a'n prosiectau celfyddydol, ac i roi eich barn ar y gwaith sydd ar y gweill.

Mae gennym gymaint o brosiectau cyffrous o'n blaenau ac rydym am i chi ymuno â ni!

Fe fyddwch chi eisiau cymryd rhan os:

  • Mae gennych chi ddiddordeb mawr yng ngwaith Felindre
  • Rydych chi’n barod i rannu eich barn yn barchus a chael dweud eich dweud ar sut mae'r prosiect yn cael ei weithredu
  • Rydych chi’n awyddus i hyrwyddo cyfranogiad cymunedol i'ch grwpiau cynrychioliadol

Byddwn ni’n:

  • Darparu gofod cynhwysol a diogel lle gall y rhai sydd â diddordeb yn y ganolfan newydd i gael dweud eu dweud, cynnig adborth ar gynlluniau, gwneud awgrymiadau a chael llais wrth wneud penderfyniadau
  • Gweithio mewn partneriaeth ag aelodau'r gymuned, cleifion a staff ar faterion sy'n ymwneud â’r ganolfan newydd
  • Gwrando gyda nod cyffredin I sicrhau bod y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn gweithio i bob un o'n cymunedau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Cofrestrwch yma a dewis Panel Cymunedol. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!