- Y cert celf – Sesiwn greadigol bob wythnos i gleifion ar ward y llawr cyntaf, dan arweiniad ymarferydd profiadol ym maes y celfyddydau mewn iechyd. Bydd modd i gleifion gymryd rhan wrth ymyl eu gwely mewn gweithgareddau gofalgar syml.
- Cyrsiau celf yn Maggie's – Mae'r cyrsiau celf therapiwtig yn para dros wyth wythnos ac yn agored i unrhyw un sydd wedi wynebu effaith canser. Bydd cyfle i gael blas ar wahanol fathau o gelfyddyd a gwahanol dechnegau mewn amgylchedd tawel a chefnogol yng Nghanolfan Maggie's ar y safle.
I gael wybod mwy neu i ymuno, e-bostiwch cardiff@maggies.org .