Perfformiadau misol gan gerddorion o safon fyd-eang yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ein hadran SACT wrth i gleifion dderbyn eu triniaeth chemo.
I ddarganfod mwy neu i archebu lle, e-bostiwch cardiff@maggies.org .
Arddangosfeydd cymunedol newidiol rheolaidd sy’n taflu goleuni ar dalent greadigol staff, cleifion a chymuned Felindre. Mae'r man arddangos wedi'i leoli yn y coridor rhwng yr adrannau Cleifion Allanol a Radiotherapi.
Grŵp cymorth canser misol yw Anadlu sy’n cyfarfod ar y pedwerydd dydd Iau o’r mis yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r sesiynau’n cynnwys taith gerdded ystyriol o’r safle neu olwg agosach ar wrthrych yn y casgliad, gyda gweithgaredd creadigol i ddilyn.
I ymuno â'r sesiwn nesaf, e-bostiwch sally.thelwell@wales.nhs.uk .
Sesiynau ysgrifennu grŵp, a gyflwynir mewn partneriaeth â Seicoleg Glinigol, sy'n arwain cleifion trwy gyfres o dechnegau ysgrifennu sy'n helpu i brosesu eu profiadau a chysylltu â'u creadigrwydd.
I gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at sally.thelwell@wales.nhs.uk.