Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi dechrau gwasanaeth digidol newydd i gasglu asesiadau iechyd yn uniongyrchol gan ein cleifion ar draws y Gwasanaeth Canser. Mae'r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y gwasanaeth yn gyffredinol a sut i gael mynediad at adnoddau mewn perthynas â phrosesu eich data. 

Caiff yr Offeryn Asesu Iechyd Digidol ei reoli o dan gontract i'r Ymddiriedolaeth gan gwmni o'r enw Promptly Health. Mae'r Cwmni wedi cael gwiriadau llym cyn dyfarnu’r contract ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi rhoi dogfennaeth gytundebol ac asesiadau risg diogelu data ar waith fel bod sicrwydd gennym y bydd eich data yn cael ei brosesu'n gyfreithlon gan Promptly Health (a elwir y Darparwr).   

Mae sefydliadau eraill y GIG yng Nghymru hefyd yn defnyddio'r un darparwr. Felly efallai y byddwch yn derbyn ceisiadau i gwblhau asesiadau gan fwy nag un tîm clinigol. 

Mae'n wasanaeth a fydd yn gwella cyfathrebu rhyngoch chi a thîm Gwasanaeth Canser Felindre sy'n gyfrifol am eich gofal. 

Bydd y gwasanaeth yn rhoi mynediad i chi at holiaduron ar-lein y gallwch eu cwblhau o gartref ar eich ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur. Bydd eich tîm clinigol yn gweld yr holiaduron hyn cyn eich apwyntiad. 

Bydd yr holiaduron ar-lein yn gofyn am eich: 

  • Symptomau 

  • Iechyd Corfforol 

  • Ansawdd Bywyd 

Sut fydd Asesiadau Iechyd Digidol yn fy helpu? 

Bydd monitro eich symptomau drwy ffurflenni digidol yn helpu eich tîm gofal iechyd i ddeall eich iechyd yn well.  

Bydd yn gwella sut rydym yn darparu gofal i chi ac yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a dewis y driniaeth orau.  

Gwyddom o waith blaenorol yn y maes hwn y gallai mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sydd gennych yn gynt arwain at dderbyniadau i’r ysbyty’n llai aml, gwell ansawdd bywyd a gwell goroesiad. 

Paratoi ar gyfer Asesiadau Iechyd Digidol 

Er mwyn i ni allu cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf bosibl, gwnewch yn siŵr bod gennym eich rhif ffôn symudol a'ch cyfeiriad e-bost cyfredol.  Os bydd yn newid yn ystod eich triniaeth gyda ni, rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i ni.  Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyswllt gyfredol gyda'n tîm cofnodion meddygol i sicrhau cywirdeb data.   

Pan fydd gennych asesiad iechyd digidol newydd i'w gwblhau, byddwch yn derbyn neges gennym ni. Y neges gyntaf fydd neges groeso gan GIG Cymru drwy neges destun neu e-bost. 

Yn fuan wedyn, byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost arall yn gofyn i chi gwblhau eich asesiad iechyd digidol a fydd yn cynnwys eich dolen unigryw sy'n dechrau gyda https://nhs-wales.promptly.health/  

Cliciwch ar eich dolen unigryw a llenwch y ffurflen mor gywir ac onest ag y gallwch. Gofynnwn i chi gyflwyno'r ffurflen ar y diwedd. Dyma sut y gall eich tîm clinigol weld eich ymatebion. 

Noder - Bydd eich ymatebion yn cael eu cadw'n awtomatig am 48 awr. Mae hyn yn rhoi amser i chi ddod yn ôl at y ffurflen pan fyddwch chi'n barod. Fodd bynnag, os cymerwch fwy na 48 awr i gwblhau'r ffurflen bydd yn rhaid i chi ei dechrau eto gan y bydd eich ymatebion blaenorol wedi'u dileu'n awtomatig. 

PWYSIG: Dim ond pan fyddwch chi'n clicio CYFLWYNO y bydd eich tîm gofal iechyd yn gallu gweld eich ymatebion. 

Ar ôl i chi gyflwyno eich asesiad iechyd digidol, byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost diolch sy'n cadarnhau bod eich ymatebion wedi dod i law. Bydd dolen i'ch galluogi i weld eich ymatebion gorffenedig wedi'i chynnwys yn y neges ddiolch. I gael mynediad at y neges, cliciwch ar y ddolen a rhowch eich rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost. Anfonir cod untro atoch i fewnbynnu a chael mynediad at eich ymatebion asesiad iechyd digidol. 

Mae hyd y ffurflen yn amrywio yn dibynnu ar y set y byddwch yn ei derbyn ar gyfer eich cyflwr. Dylai'r holiadur gymryd rhwng 5-15 a 15 munud i'w gwblhau. 

Pam nad ydw i wedi derbyn Asesiad Iechyd Digidol eto? 

Rydym yn ehangu'r defnydd o Asesiadau Iechyd Digidol ar draws ein harbenigeddau. Efallai nad yw eich cyflwr wedi'i ffurfweddu eto. Mae'r meysydd canlynol bellach yn defnyddio systemau digidol:  

  • Yr Ysgyfaint 

  • Niwro-oncoleg 

  • Prostad 

Os ydych chi'n credu y dylech chi dderbyn asesiad digidol, ond nad ydych chi wedi gwneud hynny eto, rhowch wybod i'ch clinigwr neu cysylltwch â'r tîm drwy e-bost VBHC.VUNHST@wales.nhs.uk fel y gallwn ni ymchwilio. 

Sut i optio allan o'r gwasanaeth 

Mae'n bosibl optio allan o dderbyn y ceisiadau hyn drwy ddewis "datdanysgrifio" o'r ddewislen gosodiadau. Ar ôl i chi ddatdanysgrifio, ni fyddwch yn gallu cwblhau holiaduron iechyd digidol fel y gofynnwyd gan y tîm clinigol. Os hoffech ail-danysgrifio, rhowch wybod i'ch clinigwr neu cysylltwch â'r tîm drwy e-bostioVBHC.VUNHST@wales.nhs.uk

Gwybodaeth Diogelu Data  

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi ymrwymo'n gryf i ddiogelu data personol. Mae'r ddolen i'n Hysbysiad Preifatrwydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth os bydd ei hangen arnoch. Fel arall, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data (DPO) yn: 

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, 
Uned 2, 
Cwrt Charnwood, 
Parc Nantgarw, 
Nantgarw, 
Caerdydd 
CF15 7QZ 
E-bost: VelindreInformationGovernance@wales.nhs.uk 

I gael cyngor annibynnol am faterion diogelu data, preifatrwydd a rhannu data, neu os fyddwch chi byth yn anfodlon â'r ffordd y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi trin eich data personol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO): 

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru 
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill, 
Ffordd Churchill 
Caerdydd 
CF10 2HH 
Rhif Ffôn: 029 2067 8400 
Ffacs: 029 2067 8399 
E-bost: wales@ico.org.uk 

Manylion prif swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth– Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Swydd Gaer  
SK9 5AF 
Rhif Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545745 
Ffacs: 01625 524510 
Gwefan: www.ico.gov.uk