Ni chaniateir i staff ac ymwelwyr ysmygu o fewn adeiladau na thiroedd y ganolfan ganser. Cyflwynwyd deddfwriaeth ddi-fwg yn cwmpasu mannau cyhoeddus, gweithleoedd a cherbydau yng Nghymru ar 2 Ebrill 2007.
Helpa Fi i Stopio
Mae Helpa Fi i Stopio yn un man cyswllt ar gyfer smygwyr sydd eisiau stopio smygu yng Nghymru.
Bydd pob gwasanaeth Helpa fi i Stopio yn rhoi cymorth strwythuredig i chi wedi’i deilwra i’ch anghenion. Caiff sesiynau eu cyflwyno gan arbenigwr rhoi’r gorau i smygu hyfforddedig a bydd yn cwmpasu pynciau yn ymwneud â pharatoi i roi’r gorau iddi, stopio, peidio ag ailddechrau ac eich dyfodol di-fwg. Cymerir eich darlleniad carbon monocsid ym mhob apwyntiad; bydd hyn yn eich helpu i fonitro eich cynnydd o smygwr i rywun nad yw’n smygu ac yn helpu eich cymhelliad. Mae nifer o wasanaethau yng Nghymru i gefnogi eich ymgais i roi’r gorau iddi. I ddarganfod pa wasanaeth sydd orau i chi edrychwch ar y rhestr isod yn dangos beth mae gwasanaethau gwahanol yn ei gynnig. Pan rydych chi’n dewis gwasanaeth Fy Helpu I Stopio, bydd eich arbenigwr ar stopio ysmygu’n trafod y gwahanol fathau o foddion stopio ysmygu sydd ar gael i’ch helpu chi i stopio.
Ffoniwch: 0808 250 4024
Tudalen Gartref - Help Me Quit (helpafiistopio.cymru)