Neidio i'r prif gynnwy

procarbazine, lomustine a vincristine

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw PCV.  Bydd yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am PCV ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi PCV?

Triniaeth cemotherapi yw hon, sy’n cynnwys tri chyffur:

 

  • Procarbazine (tabledi)
  • Lomustine, sydd hefyd yn cael ei alw’n CCNU (tabledi)
  • Vincristine (rhoddir fel drip)

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi PCV?

Mae eich meddyg wedi argymell y math hwn o gemotherapi gan y gwyddom ei fod yn gallu bod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

  • Bydd y vincristine yn cael ei roi i chi unwaith bob chwe wythnos.
  • Caiff y tabledi lomustine eu cymryd am ddiwrnod.
  • Caiff y tabledi procarbazine eu cymryd am 10 diwrnod ar ôl y pigiad vincristine.

 

Caiff y driniaeth hon ei hailadrodd bob chwe wythnos hyd at uchafswm o chwe thriniaeth. Caiff pob cyfnod o chwe wythnos ei adnabod fel cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

Mae’n arferol cael sgan MRI i asesu effaith eich triniaeth. Byddwch yn cael y sgan ar ddiwedd eich triniaeth cemotherapi. Bydd rhai cleifion hefyd yn cael un yn ystod eu triniaeth. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi cyn i chi ddechrau eich triniaeth.

 

 

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, argymhellir eich cemotherapi.

 

 

Sut caiff fy nghemotherapi vincristine ei roi?

Bydd y cemotherapi vincristine yn cael ei roi trwy ddrip sydd wedi’i gysylltu wrth nodwydd fach sy’n cael ei rhoi yn eich llaw neu’ch braich. Byddwn hefyd yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi trwy’r drip cyn eich cemotherapi.

Pa mor hir fyddaf i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad clinig fel arfer. Bydd yn cymryd tua 30 munud i roi’r feddyginiaeth wrthgyfog a’r vincristine. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

Os ydych chi’n byw ym mhell i ffwrdd, gellir trefnu eich cemotherapi ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob tro rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty rhwng pedair a chwe awr.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant ifanc.

 

 

Sut dylwn i gymryd y tabledi cemotherapi?

Dylid llyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu’n fân. Mae’n bwysig eich bod yn golchi’ch dwylo’n drylwyr ar ôl cymryd eich tabledi.

 

Dylid cymryd lomustine pan fyddwch ar fin mynd i’r gwely, ar stumog wag (o leiaf awr ar ôl bwyta). Dylech gymryd y dabled gwrthgyfog (ondansetron) a’r dabled cysgu (temazepam) 30 munud cyn cymryd y lomustine.  Bydd hyn yn lleihau’r risg o chwydu. 

 

Dylid cymryd capsiwlau procarbazine unwaith y dydd am 10 diwrnod gan ddechrau ar yr un diwrnod â vincristine. Gallwch ddewis faint o’r gloch i’w cymryd ond ceisiwch gadw at oddeutu’r un amser bob dydd. Ni ddylech yfed   alcohol tra byddwch yn cymryd y cwrs 10 diwrnod o dabledi procarbazine, nac am ychydig ddyddiau ar ôl hynny, oherwydd gall procarbazine gydag alcohol achosi chwydu difrifol a gwneud i chi deimlo’n sâl iawn.

 

 

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd hyn yn amrywio i bob unigolyn. Bydd y nifer y mae angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch i weld faint o dabledi y mae angen i chi eu cymryd.

 

 

Beth ddylwn i wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn 4 awr i’r amser arferol, cymerwch nhw nawr.
  • Os yw dros 4 awr yn hwyr, peidiwch â chymryd y dos a chysylltwch â Felindre am gyngor.

 

 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

 

Sut dylwn i storio fy nhabledi cemotherapi?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn lle diogel ymhell o afael plant. Dylech eu cadw mewn lle sych ac oer.

 

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu’ch fferyllfa leol i’w gwaredu’n ddiogel. 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Caiff y math hwn o gemotherapi ei oddef yn dda iawn fel arfer, ac nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn cael llawer o sgîl-effeithiau.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda chemotherapi PCV. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai cleifion yn teneuo.

 

Salwch

Mae’r driniaeth hon yn achosi cyfog (teimlo’n sâl) neu chwydu i rai cleifion.  Efallai y byddwch yn chwydu yn enwedig am y diwrnod cyntaf neu’r ail ddiwrnod ar ôl y cemotherapi lomustine. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi i helpu atal hyn. 

 

Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd tabledi gwrthgyfog yn rheolaidd, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Rhaid i chi ddweud wrth y meddyg os ydych chi’n cysgu llawer mwy na’r arfer. Ond cofiwch os ydych chi wedi gorffen cwrs o radiotherapi yn ddiweddar y gall hynny hefyd wneud i chi deimlo’n flinedig iawn, felly gall fod yn anodd penderfynu beth sy’n effeithio arnoch chi. Gallwch drafod hyn gyda’ch meddyg yn eich apwyntiadau.

 

Symptomau sy’n debyg i’r ffliw

Bydd rhai cleifion yn cael symptomau tebyg i’r ffliw gyda’r driniaeth hon. Mae’r symptomau hyn fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir. Gallai’r symptomau gynnwys twymyn, oerni, poen yn y cyhyrau, pen tost a blinder. Os yw eich tymheredd yn uwch na 37.5oC, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Effeithiau ar eich nerfau

Gall vincristine niweidio’r nerfau yn eich bysedd a’ch bysedd traed. Efallai y byddwch yn teimlo fferdod neu binnau bach.  Gall y driniaeth effeithio ar y nerfau i’ch coluddyn hefyd, ac achosi rhwymedd. Bydd rhai cleifion yn cael poen yn eu gên neu ben tost os bydd yn effeithio ar y nerfau i’r pen. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad clinig.

 

Sgîl-effeithiau prin

Yn achlysurol iawn, gall tabledi procarbazine achosi sgîl-effeithiau anarferol mewn rhai pobl sy’n sensitif iddo.

 

Os byddwch yn sylwi eich bod yn teimlo bod y bendro arnoch, eich bod yn cysgu mwy na’r arfer neu eich bod yn cael pen tost neu rithwelediadau, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg ysbyty ar eich ymweliad nesaf. Os nad yw eich ymweliad nesaf am sawl wythnos, cysylltwch â swyddfa eich ymgynghorydd i ofyn am gael dod â’r apwyntiad ymlaen.

 

Gwybodaeth arall

Gall y cemotherapi hwn effeithio ar eich gallu i gael plant. Byddwch yn cael y cyfle i drafod hyn gyda’ch meddyg cyn i’r driniaeth ddechrau.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn cenhedlu plentyn tra byddwch yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni. 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn darparu gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau. Gallant fod yn anodd eu darllen hefyd. Gofynnwch os hoffech gopi.

             

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

Paratowyd Mawrth 2004    

Adolygwyd Mai 2011