Paratowyd ym mis Ebrill 2004
Adolygwyd ym mis Mehefin 2016
Gwybodaeth am oeri croen y pen
Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am oeri croen y pen. Mae oeri croen y pen yn cael ei ddefnyddio i geisio lleihau faint o wallt sydd yn cael ei golli o'r pen, sydd yn gallu digwydd gyda rhai cyffuriau cemotherapi. Bydd y daflen yn esbonio'n gryno pam mae cemotherapi’n gwneud i bobl golli eu gwallt. Bydd yn esbonio beth yw oeri croen y pen, sut mae'n gweithio, pa mor hir mae'n ei gymryd a’r sgîl-effeithiau neu’r problemau posibl sy'n gysylltiedig gydag oeri croen y pen. Mae rhifau ffôn a gwefannau defnyddiol ar ddiwedd y daflen os hoffech ragor o wybodaeth.
Pam mae cemotherapi’n gwneud i bobl golli eu gwallt?
Mae triniaeth cemotherapi’n gweithio trwy ladd celloedd yn y corff sy'n tyfu. Mae celloedd canser yn ymrannu drwy’r amser, a dyna pam rydyn ni'n defnyddio cemotherapi fel triniaeth ar gyfer canser. Mae eich ffoliglau gwallt wedi'u gwneud o gelloedd sy'n tyfu drwy’r amser hefyd, a dyna pam y gall rhai triniaethau cemotherapi wneud i chi golli eich gwallt.
Mae rhai pobl yn ystyried bod colli gwallt yn sgîl-effaith anodd iawn sy’n gysylltiedig â thriniaeth cemotherapi. Mae oeri croen y pen yn cael ei ddefnyddio i leihau neu atal colli gwallt a achosir gan rai cyffuriau cemotherapi. Yn anffodus, nid yw'n gweithio ar gyfer pob math o gyffuriau cemotherapi neu ar gyfer bob math o ganser. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.
Sut mae oeri croen y pen yn gweithio?
Mae oeri croen y pen yn gostwng tymheredd croen y pen. Mae hyn yn gwneud y pibellau gwaed yn llai, felly mae llai o waed yn llifo trwyddynt. Mae hyn yn golygu bod nifer y cyffuriau sydd yn gallu cyrraedd gwreiddiau'r gwallt yn cael ei leihau. O ganlyniad, nid yw'r gwallt yn dod i gysylltiad llawn gydag effaith y cyffuriau cemotherapi. Dim ond y gwallt ar eich pen mae oeri croen y pen yn amddiffyn. Efallai y byddwch yn dal i golli gwallt eich corff.
Sut mae oeri croen y pen yn cael ei wneud?
Oerydd croen y pen Paxman: mae'n defnyddio peiriant sy'n pwmpio gel wedi'i oeri o amgylch cap sy’n ffitio’n glyd. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn rhoi gwybodaeth i chi am oeri croen y pen yn eich clinig cemotherapi.
Er mwyn i oeri croen y pen weithio, mae angen i groen eich pen fod yn oer cyn, yn ystod ac ar ôl eich triniaeth cemotherapi. Mae hyn yn golygu y bydd eich apwyntiadau ar gyfer pob triniaeth yn hirach.
Bydd angen dechrau oeri croen y pen 15-30 munud cyn y driniaeth cemotherapi. Bydd y cap yn aros ymlaen yn ystod y cemotherapi ac yna, am hyd at 45 munud ar ôl y driniaeth. Gall yr amseroedd hyn amrywio ychydig gyda gwahanol fathau o gemotherapi. Gall eich nyrs esbonio hyn yn fwy manwl.
A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?
Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.
Sut ddylwn i baratoi ar gyfer oeri croen y pen?
Rydym yn argymell na ddylech olchi'ch gwallt am 24 - 48 awr cyn oeri croen y pen.
Os ydych yn defnyddio'r Paxman, rydym yn argymell eich bod yn lleithio ac yn llyfnu eich gwallt yn yr ysbyty ychydig cyn i’r cap gael ei osod. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy cyfforddus os oes gennych chi het neu sgarff i'w gwisgo pan fyddwch chi'n mynd adref.
Byddwn yn rhoi pecyn cychwynnol i chi gan gynnwys band pen; efallai y byddwch eisiau ei ddefnyddio i atal yr oerfel ar eich talcen rhag achosi cur pen. Mae sachets o sebon llyfnu a thaflenni defnyddiol yn cael eu cynnwys hefyd.
Sut ddylwn i ofalu am fy ngwallt ar ôl oeri croen y pen?
Dylech fod wedi cael llyfryn ar golli gwallt gyda'r wybodaeth hon; os nad oes gennych un o'r llyfrynnau hyn, gofynnwch i'ch nyrs. Mae'r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth fanwl am sut i ofalu am eich gwallt.
Oes unrhyw sgîl-effeithiau yn gysylltiedig ag oeri croen y pen?
Mae sgîl-effeithiau oeri croen y pen yn brin iawn. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dioddef o gur pen, pendro a chyfog.
Er ei fod yn brin iawn, mae wedi cael ei adrodd, oherwydd bod oeri croen y pen yn atal cemotherapi rhag cyrraedd yr holl bibellau gwaed i groen y pen, y gallai fod risg o ganser eilaidd yng nghroen eich pen. Mae'n bwysig trafod unrhyw bryderon am hyn gyda'ch meddyg ysbyty.
Ydy oeri croen y pen yn anghyfforddus?
Efallai y bydd y cap yn drwm i'w wisgo, neu efallai y bydd yn teimlo'n anghyfforddus. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n oer wrth oeri croen y pen, felly efallai y bydd angen i chi wisgo siwmper. Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech chi gael blanced. Bydd diodydd poeth yn helpu i wneud i chi deimlo'n gynhesach hefyd. Gall y band pen meddal helpu i amddiffyn eich talcen a'ch clustiau.
Os byddwch yn gweld oeri croen y pen yn rhy anghyfforddus, gallwn roi’r gorau i’r driniaeth ar unwaith. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi roi cynnig arno cyn i chi ddechrau eich cemotherapi, fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl.
Pa mor effeithiol ydy oeri croen y pen?
Mae oeri croen y pen yn gallu bod yn effeithiol iawn i leihau neu atal colli gwallt. Fodd bynnag, mae llawer o bobl sydd yn cael triniaeth oeri croen y pen yn dal i sylwi bod eu gwallt yn teneuo neu eu bod yn colli eu gwallt. Yn anffodus, ni fyddwch yn gwybod os ydy’r driniaeth yn mynd i weithio i chi nes i chi roi cynnig arni.
Rhifau Ffôn Cyswllt
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am oeri croen y pen, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Llinell gymorth canser Rhadffôn Tenovus
0808 808 1010
www.tenovus.com
Macmillan
0808 808 0000
www.macmillan.org.uk
Ymchwil Canser y DU
www.cancerhelp.org.uk
Mae’r daflen hon wedi cael ei hysgrifennu gan weithwyr iechyd proffesiynol.
Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.
Mae’r daflen yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd.