Neidio i'r prif gynnwy

Taflen wybodaeth ar Radiolawfeddygaeth Stereotactig ar gyfer cyflyrau'r ymennydd

Taflen wybodaeth ar Radiolawfeddygaeth Stereotactig ar gyfer cyflyrau'r ymennydd

 

 

Mae'r daflen hon yn rhoi manylion am driniaeth radiotherapi a elwir yn radiolawfeddygaeth stereotactig (SRS).

 

Cofiwch ddod â rhestr o'ch meddyginiaethau cyfredol bob tro y byddwch yn dod i Felindre.

 

Ni chaniateir ysmygu ar dir Canolfan Ganser Felindre nac y tu mewn i’r ganolfan. Gofynnwch os hoffech gael cymorth i roi'r gorau iddi.

 

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi yn ystod eich triniaeth oherwydd gall radiotherapi niweidio babi sy'n datblygu. Os ydych yn meddwl y gallech fod yn feichiog, dywedwch wrth y radiograffwyr ar unwaith.

 

Os oes gennych chi reolydd calon neu ddyfais gardiaidd wedi’i mewnblannu (ICD) rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg neu radiograffydd cyn neu yn ystod eich apwyntiad cynllunio cyntaf.

 

 

 

Beth yw radiolawfeddygaeth stereotactig (SRS/SRT)?

Mae'n fath manwl iawn o driniaeth radiotherapi a roddir i ran fach o'r ymennydd. Rhoddir yr holl radiotherapi fel arfer mewn un driniaeth (neu ffracsiwn) neu gwrs byr o driniaethau. Rydyn ni'n ei roi fel hyn oherwydd ei fod yn lleihau effaith yr ymbelydredd ar feinwe normal eich ymennydd. Mae hefyd yn helpu i leihau'r risg o sgîl-effeithiau hwyr.

I wneud yn siŵr eich bod yn yr un ystum ar gyfer pob triniaeth, bydd angen i chi wisgo mwgwd arbennig (cragen) yn ystod y driniaeth. Bydd y gragen hon yn teimlo'n dynn, ond dyma sydd ei angen arnom i sicrhau bod eich triniaeth yn gywir. Os yw'n annifyr neu'n boenus, rhowch wybod i'r radiograffwyr. Fel arfer mae angen hyd at dri ymweliad cynllunio cyn i chi ddechrau eich triniaeth.

 

Yr ymweliad cynllunio cyntaf - sgan MRI

Efallai y bydd angen i chi gael sgan MRI. Bydd hyn yn cael ei wneud cyn i ni wneud eich mwgwd. Bydd yn ein helpu i gynllunio eich triniaeth. 

 

Yr ail ymweliad cynllunio - gwneud eich mwgwd.

Mae'r mwgwd a ddefnyddir ar gyfer eich triniaeth yn cael ei wneud yn yr ystafell fowldio. Mae'r ystafell fowldio yn rhan o'r adran gynllunio ar gyfer triniaeth radiotherapi. Fe'i lleolir ger yr adran cleifion allanol, yn wyneb blaen ysbyty Felindre.

 

 

 

full mask

Beth yw mwgwd triniaeth?

Mwgwd plastig yw'r mwgwd triniaeth y byddwch chi'n ei wisgo bob dydd pan fyddwch chi'n cael eich triniaeth radiotherapi.

 

 

Sut mae'r mwgwd yn cael ei wneud?

Byddwn yn defnyddio plastig cynnes (dim poeth) i wneud argraff o gefn eich pen ac yna blaen eich pen, o'ch talcen i'ch gên. Mae'r ddalen blastig yn llawn tyllau bach, felly byddwch chi'n gallu anadlu'n normal trwy eich trwyn a'ch ceg. Mae'r plastig yn gynnes wrth iddo gael ei osod ar eich wyneb a bydd yn cael ei adael i oeri. Nid yw hyn yn anghyfforddus.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei weld yn eithaf braf.

 

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae'n cymryd tua 45 munud i wneud yr argraff, ond gofynnwn i chi ganiatáu awr ar gyfer eich apwyntiad cyfan.

 

 

Y trydydd ymweliad cynllunio – sgan CT

Yn ystod yr apwyntiad hwn, byddwch yn trio eich mwgwd plastig. Yna bydd angen sgan cynllunio CT arnoch gyda’r mwgwd ar eich wyneb. Bydd hyn o leiaf 4 awr ar ôl eich sesiwn yn yr ystafell fowldio

 

 

Ar un o'ch ymweliadau â'r ystafell fowldio neu'n ystod un o’r sesiynau cynllunio, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen gydsynio. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn i chi. Gofynnwch unrhyw gwestiynau neu trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda’r ymgynghorydd.

 

Pryd fyddaf yn dechrau’r driniaeth?

Mae’r driniaeth fel arfer yn dechrau tua dwy i bedair wythnos ar ôl yr ymweliadau cynllunio hyn.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn dod i'n gweld, ffoniwch yr ystafell fowldio ar 029 2031 6213 a byddwch yn gallu siarad ag aelod o staff yr ystafell fowldio.

 

Triniaeth

Defnyddir peiriant o’r enw cyflymydd llinellol (linear accelerator neu LA) i roi’r driniaeth i chi. Bydd eich radiograffwyr yn gosod eich mwgwd triniaeth a byddant yn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl. Byddant yn symud y gwely, i’w gael yn y lle iawn ar gyfer eich triniaeth a fydd yn defnyddio laserau a goleuadau yn yr ystafell.

mr 016

Yna byddant yn gosod yr aráe driniaeth drosoch (fel yn y llun). Mae gan yr aráe driniaeth beli isgoch ynghlwm wrthi, sy’n caniatáu i'r radiograffwyr eich gosod yn yr ystum cywir gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol.

Bydd y feddalwedd arbenigol hon hefyd yn caniatáu i'r gwely symud i sawl cyfeiriad a gogwyddo i sicrhau eich bod yn yr union ystum sydd ei angen i'ch trin yn gywir.

 

Yna bydd eich radiograffwyr yn gadael yr ystafell i droi'r peiriant ymlaen. Rhoddir y driniaeth o sawl cyfeiriad. Gelwir pob cyfeiriad yn “pelydr”. Bydd y driniaeth gyfan yn cymryd rhwng 30 a 45 munud. Bydd eich radiograffwyr yn eich gwylio'n ofalus ar fonitorau teledu cylch cyfyng. Os cewch unrhyw broblemau yn ystod y driniaeth, gellir diffodd y peiriant ar unrhyw adeg. Dim ond chwifio eich llaw sydd angen.

 

Ni fyddwch yn gweld nac yn teimlo unrhyw beth pan fyddwch yn cael eich triniaeth, er efallai y byddwch yn clywed y peiriant yn gwneud sŵn.

 

 

mr 018

Llun o beiriant cyflymydd llinellol

Sgil-effeithiau

Nid ydym yn disgwyl i chi gael llawer o sgîl-effeithiau oherwydd bod yr ardal yr ydym yn ei thrin yn fach. Dyma rai o sgîl-effeithiau radiotherapi stereotactig y gallech eu profi yn y tymor byr.

·       Blinder neu lesgedd - Mae'n gyffredin iawn teimlo'n flinedig am ychydig ddyddiau ar ôl cael triniaeth radiotherapi stereotactig (SRS/SRT). Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael i chi'ch hun orffwys. 

·       Mae cur pen yn gyffredin ar ôl triniaeth. Gall cymryd cyffuriau lleddfu poen fel paracetamol/ibuprofen yn rheolaidd helpu.

·       Cyfog a phendro - Mae rhai pobl yn teimlo'n gyfoglyd, yn benysgafn neu'n wan yn syth ar ôl y driniaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn anghyffredin gan fod y sgîl-effeithiau hyn yn cael eu hachosi gan yr ymennydd yn chwyddo ac mae meddygon yn aml yn rhoi steroidau cyn neu'n syth ar ôl eich triniaeth i helpu i atal hyn.

·       Colli gwallt - Os oedd eich tiwmor yn agos at arwyneb eich penglog, efallai y byddwch chi'n colli rhywfaint o wallt, ond anaml y mae colli gwallt yn un o sgîl-effeithiau triniaeth SRS/SRT.

·       Trawiadau - Mae posibilrwydd bychan hefyd y gallech gael trawiad ar ôl triniaeth radiolawfeddygaeth stereotactig (SRS/SRT). Mae hyn yn fwy tebygol ymhlith pobl sydd wedi cael trawiadau cyn y driniaeth.

Mae unrhyw sgîl-effeithiau yn gyffredinol yn  para am gyfnod byr. Weithiau, os oes gennych symptomau niwrolegol cyn y driniaeth, gall y symptomau hyn waethygu. Os ydych yn poeni, siaradwch â'ch ymgynghorydd.

 

Sgîl-effeithiau tymor hir 

·       Necrosis ar ôl triniaeth ymbelydredd - Gan fod triniaethau SRT yn cynnwys dos uchel iawn o ymbelydredd, gall rhai pobl ddatblygu ardal o gelloedd marw yn yr ardal sydd wedi'i thrin. Gelwir hyn yn 'necrosis ar ôl triniaeth ymbelydredd.' Gall hyn ddigwydd o fisoedd i ddegawdau ar ôl y driniaeth, ond yn gyffredinol mae'n digwydd chwe mis i ddwy flynedd ar ôl y driniaeth SRT. Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl sy'n datblygu necrosis ymbelydredd unrhyw symptomau gan y bydd yr ardal yn fach iawn.

·       Os bydd symptomau'n ymddangos oherwydd chwyddo, gellir rhoi steroidau i drin hyn. Os oes gennych unrhyw bryderon, trafodwch nhw gyda'ch ymgynghorydd.

 

Bydd unrhyw sgil-effaith tymor hir arall sy'n gysylltiedig â'ch triniaeth yn cael ei drafod gyda'ch ymgynghorydd cyn i chi roi cydsyniad.

 

Gall fod cyfyngiadau ar yrru ar ôl radiollawfeddygaeth. Gofynnwch i'ch tîm meddygol roi gwybod a oes cyfyngiadau yn eich achos chi.

 

Bydd y tîm adolygu radiograffeg yn cysylltu â chi i holi am unrhyw symptomau neu sgîl-effeithiau. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i ymdopi ag unrhyw sgîl-effeithiau. Efallai y bydd angen cwrs o dabledi steroid arnoch yn ystod eich triniaeth radiotherapi i helpu gyda'r sgîl-effeithiau hyn. Bydd y tîm adolygu yn cysylltu â chi i drafod hyn neu efallai y bydd yn cael ei drafod yn eich apwyntiad cyntaf.

 

Gofal dilynol

Rhoddir manylion am eich apwyntiad dilynol i chi ar ddiwedd eich triniaeth. Byddwch yn cael eich apwyntiad dilynol ychydig wythnosau ar ôl radiotherapi. Efallai y bydd y tîm adolygu'n eich ffonio'n rheolaidd ar ôl eich triniaeth i fynd drwy rai cwestiynau.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y dyddiadau hyn yn nes at yr amser.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Ysbyty Felindre                               02920 615 888

 

Radiograffwyr yr Ystafell Fowldio     029 2031 6213

 

Tîm Adolygu Radiograffeg               029 2061 5888 est 6421

                           

Cludiant o Ferthyr                    

Cymorth Canser Merthyr                 01685 379633

                      

Cludiant o'r Rhondda

Cynon Taff Rowan Tree                   01443 479369

 

Llinellau cymorth a gwefannau

 

Llinell Gymorth Gofal Canser Tenovus            

www.tenovuscancercare.org.uk              0808 808 1010

 

Cymorth Canser Macmillan                     0808 808 0000    

www.macmillan.org.uk

 

Maggie's Caerdydd                                029 2240 8024

www.maggies.org/our-centres/maggies-cardiff

 

Dim Smygu Cymru                                 0808 250 6061

www.helpmequit.wales

 

Mae gwybodaeth i gleifion hefyd ar gael ar wefan Felindre.

Ewch i: https://felindre.gig.cymru/gwasanaeth-canser-felindre/

Cyfarwyddiadau i gyrraedd Felindre

 

Y gorsafoedd trên agosaf yw: Coryton (10 munud ar droed) neu Landaf (20 munud ar droed).

 

Bysus rhifau 24 a 25 o ganol Caerdydd i Ysbyty Felindre a rhifau 21 a 23 i bentref yr Eglwys Newydd.

 

Mae mannau parcio ar gyfer cynllunio radiotherapi o flaen yr ysbyty. Parciwch yn y cefn pan fyddwch yn cael triniaeth. Mae pob man parcio ar gyfer cleifion wedi’i farcio â P.

map

F.PI 43                                                         Rhifyn 5                                             Ionawr 24