Neidio i'r prif gynnwy

Paclitaxel and carboplatin and radiotherapy

754

Taflen wybodaeth ynghylch paclitaxel (Taxol)

a carboplatin gyda radiotherapi

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o'r enw paclitaxel (Taxol) a carboplatin sy’n cael ei roi gyda radiotherapi.   Fe gewch chi daflen ar wahân hefyd am y radiotherapi. Bydd y daflen cemotherapi hon yn egluro beth yw cemotherapi a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn esbonio sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn yn cael eu rhoi ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi Taxol a carboplatin?

Mae cemotherapi taxol a carboplatin yn cynnwys y ddau gyffur Taxol a carboplatin.  Mae Taxol yn tarddu o risgl y goeden Ywen Ewropeaidd. 

 

 

 

Pam rydw i'n cael cemotherapi Taxol a carboplatin gyda radiotherapi?

Mae eich meddyg wedi argymell y driniaeth hon am ei bod wedi’i gweld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser. Gall triniaethau radiotherapi a chemotherapi roi canlyniadau gwell o'u rhoi gyda'i gilydd na gyda'r naill driniaeth neu'r llall yn unig. Yr enw ar hyn yw triniaeth gyfunol.

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy nhriniaeth?

Dylai'r radiotherapi a'r cemotherapi ddechrau tua'r un pryd â'i gilydd.

 

Bydd radiotherapi yn cael ei roi bum diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener am bum wythnos.

 

Bydd y cemotherapi, sef y taxol a'r carboplatin, yn cael ei roi'n wythnosol am bum wythnos, ar ddiwrnod 1, diwrnod 8, diwrnod 15, diwrnod 22 a diwrnod 29.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch chi’n gweld y tîm arbenigol yn rheolaidd i wirio sut rydych chi’n teimlo a thrafod unrhyw broblemau a allai fod gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Bydd eich cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich.  Mewn rhai amgylchiadau efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw PICC yn cael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Bydd hwn yn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

 

Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC os oes angen.

 

Cyn eich cemotherapi byddwn yn rhoi cyffuriau ichi drwy eich drip sy'n lleihau'r risg y byddwch chi’n cyfogi neu'n datblygu adwaith alergaidd i'ch cemotherapi.  Yna byddwn ni’n rhoi'r Taxol ichi ac wedyn y carboplatin.

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad yn y clinig.  Bydd eich cemotherapi yn cael ei roi mewn un o'r mannau trin achosion dydd.

 

Mae eich radiotherapi yn cael ei roi bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd eich meddyg yn trafod pa mor hir y bydd eich triniaeth yn para gyda chi.

 

Pan fyddwch chi’n dechrau’ch radiotherapi byddwch yn ymweld â'r ysbyty bob dydd (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae'ch llyfryn radiotherapi yn dweud wrthoch chi sut mae eich triniaeth radiotherapi wedi'i chynllunio, sut mae’n cael ei rhoi a'r sgil-effeithiau posibl y gallech eu profi. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich radiotherapi, siaradwch â'ch radiograffwyr.

 

Bydd eich cemotherapi yn cael ei roi bob wythnos am bum wythnos.  Bydd eich cemotherapi yn cymryd rhyw dair i bedair awr.  Bydd eich samplau gwaed yn cael eu cymryd cyn pob triniaeth.

 

Bydd y nyrsys yn yr uned cemotherapi yn rhoi gwybod ichi ble a phryd i roi’ch samplau gwaed.

 

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd gyda'r cemotherapi hwn.  Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Dim ond dros dro y byddwch chi'n colli unrhyw wallt.  Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben.  Weithiau mae modd defnyddio dull o’r enw 'oeri croen y pen' neu 'gap oer' i atal colli gwallt. 

 

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn gweld rhywfaint o deneuo ar eu gwallt. Ond, i rai cleifion gall y teneuo ar eu gwallt fod yn sylweddol ac fe allech chi golli’ch gwallt.  

 

Gallwn drefnu wig os hoffech chi gael un.  Os hoffech chi wybod mwy am oeri croen y pen neu wigiau siaradwch â'ch nyrs.  Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Cyfogi

Mae cyfogi a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-gyfogi ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrth-gyfogi yn rheolaidd pan fyddwch chi gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Niwed i'r croen a’r feinwe

Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os byddan nhw’n gollwng y tu allan i'ch gwythïen.  Yr enw ar hyn yw elifiad.  Mae'n eithriadol o brin ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod.  Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs.  Os byddwch chi'n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith ac mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch chi’n datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Dyw dolur rhydd ddim yn gyffredin gyda'r cemotherapi hwn.  Ond os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud ichi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

 

Effeithiau ar nerfau eich dwylo a'ch traed

Gall taxol effeithio ar nerfau eich dwylo a'ch traed.  Gall hyn arwain at golli teimlad, tinglo neu binnau bach.  Gall y symptomau hyn gynyddu wrth ichi gael mwy o gylchoedd o gemotherapi.  Mae'n bwysig bod yn hynod ofalus wrth amlygu'ch dwylo a'ch traed i dymheredd poeth neu oer. Mae'r symptomau hyn fel arfer yn diflannu o fewn ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.

 

 

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.  Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para.  Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Yr alcohol mewn paclitaxel  

Mae paclitaxel yn cynnwys alcohol. Os yw cael alcohol yn broblem ichi, dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae’n bosibl y bydd lefel yr alcohol yn eich gwaed yn uwch na’r terfyn cyfreithiol ar ôl ichi gael paclitaxel. Peidiwch â gyrru na gweithredu peiriannau am ychydig oriau ar ôl cael y driniaeth hon, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iawn.  

 

 

Adwaith o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith i'r cemotherapi hwn sy’n debyg i adwaith alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth gael eich cemotherapi.  Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau hyn.

 

Mae nifer fach o gleifion yn datblygu brech goslyd rhwng triniaethau â taxol a carboplatin.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul.  Mae'n well osgoi heulwen gryf, gwisgo het a defnyddio eli atal haul.

 

Fe welwch chi wybodaeth am sgil-effeithiau posibl y radiotherapi yn eich llyfryn radiotherapi

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.