Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw interfferon. Bydd y daflen yn esbonio beth yw interfferon a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am interfferon ar gael ar ddiwedd y daflen hon.
Beth yw interfferon?
Mae interfferon yn brotein sy’n ymddangos yn naturiol yn y corff mewn symiau bach. Nid cemotherapi ydyw. Mae’n helpu eich system imiwnedd eich hun i ladd y celloedd canser.
Pam ydw i’n cael interfferon?
Mae interfferon yn driniaeth cyffur a ddefnyddir ar ôl llawdriniaeth i leihau’r risg o’r canser yn dychwelyd.
Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?
Byddwch yn gweld y tîm arbenigol yn y clinig i gleifion allanol pob wythnos yn ystod eich triniaeth. Bydd angen i chi gael profion gwaed o leiaf unwaith yr wythnos i fonitro celloedd gwyn y gwaed a sut mae’r afu’n gweithio. Weithiau, bydd y driniaeth yn cael ei stopio dros dro os yw unrhyw un o’r canlyniadau gwaed yn annormal. Gellir ailddechrau’r driniaeth pan mae’r canlyniadau gwaed yn ôl i normal.
Pa mor aml fydda i’n cael interfferon?
Mae interfferon yn cael ei roi’n ddyddiol pum niwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener) am bedair wythnos. Mae’n cael ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu fraich. Fel arall, efallai yr awgrymwn fod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei gosod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu nyrs yn esbonio hyn yn fwy manwl.
Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn ei gymryd?
Bydd y driniaeth yn cymryd oddeutu awr. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.
Adweithiau yn ystod triniaeth
Er ei fod yn anghyffredin, gall rhai pobl ddioddef adwaith yn ystod y driniaeth. Os ydych yn dioddef unrhyw un o’r canlynol yn ystod eich triniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:
Os ydych yn dioddef unrhyw un o’r rhain, byddwn yn stopio’r driniaeth hyd nes i chi deimlo’n well. Gall y driniaeth ddechrau eto wedyn, fel arfer heb unrhyw broblemau pellach.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o bobl yn goddef triniaeth interfferon yn dda iawn, gydag ychydig iawn o sgîl-effeithiau. Fodd bynnag, mae nifer o sgîl-effeithiau y gallech eu dioddef. Gall y meddygon, nyrsys a fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.
Symptomau tebyg i’r ffliw
Un o sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin interfferon yw symptomau tebyg i’r ffliw. Mae 80-90% o gleifion yn dioddef y rhain. Mae symptomau’n cynnwys tymheredd uchel, fferdod, a phoenau yn y cyhyrau a’r cymalau. Gallan nhw ddechrau ar ôl i’r cyffur gael ei roi a phara am ychydig ddiwrnodau. Fel arfer. Maen nhw’n dod yn llai o broblem wrth i’r driniaeth barhau.
Byddwn yn rhoi parasetamol i chi ei gymryd tuag awr cyn eich triniaeth i leihau’r symptomau hyn. Gallwch gymryd parasetamol gartref os oes angen, i reoli’r symptomau hyn (peidiwch â chymryd mwy nag 8 tabled mewn 24 awr).
Blinder a lludded
Gall teimlad o flinder fod yn broblem yn ystod y driniaeth. Gall hyn waethygu dros y pedair wythnos. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Salwch
Nid yw cyfog a chwydu’n gyffredin gyda’r driniaeth hon. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth gwrthgyfog i chi, os oes angen.
Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen6.
Sgîl-effeithiau llai cyffredin
Rhestrir sgîl-effeithiau eraill llai cyffredin isod. Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r ysbyty os ydych yn datblygu unrhyw un o’r sgîl-effeithiau hyn:
Gwybodaeth arall
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth interfferon.
A yw’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gydag interfferon?
Dywedwch wrth eich meddyg neu fferyllydd os rydych yn cymryd phenytoin neu phenobarbitone, gan fod interfferon yn effeithio ar y ffordd y mae’r cyffuriau hyn yn gweithio.
Peidiwch â chael brechlynnau byw fel y rheiny ar gyfer gwyliau dramor, yn ystod y driniaeth nac am o leiaf 3 mis wedi hynny.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.