Bydd y daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth o’r enw cetuximab. Bydd yn esbonio ystyr hon a sut a phryd y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen hon.
Beth yw cetuximab?
Gwrthgorffyn gwneud sy’n atodi ei hun i gelloedd canser ac sy’n eu hatal rhag tyfu yw cetuximab. Mae hefyd yn helpu eich system imiwnedd eich hun i ladd y celloedd canser. Nid cemotherapi yw hwn.
Pam ydw i’n cael y driniaeth hon?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r driniaeth hon gan ei bod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml fyddaf yn cael y driniaeth hon?
Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi’n wythnosol. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi am ba hyd y byddwch yn cael eich triniaeth.
Mae’n bosibl y caiff y driniaeth hon ei rhoi ynghyd â radiotherapi. Bydd eich meddyg yn dweud wrthych os byddwch yn cael triniaeth gyfunol. Byddwn yn rhoi taflen wybodaeth ar wahân i chi sy’n dweud mwy wrthych am radiotherapi.
Sut caiff fy nhriniaeth ei rhoi?
Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei osod i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach i chi.
Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.
Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty?
Dylech fod yn barod i dreulio rhwng pedair a phum awr yn yr ysbyty ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Caiff cetuximab ei roi’n araf a byddwn yn cadw llygad arnoch ar ôl arllwyso er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn iawn. Ar gyfer gweddill eich triniaethau, bydd yr apwyntiad hwn yn fyrrach. Byddwch yn treulio rhyw ddwy neu dair awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd.
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.
Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Fel arfer, byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob tair neu bedair wythnos. Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y bydd angen iddynt eich gweld. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn wirio sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn ymdopi’n dda iawn â’r math hwn o driniaeth ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael llawer o sgîl-effeithiau. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r driniaeth hon.
Blinder a lludded
Gall y driniaeth hon wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Adweithiau i’r croen
Mae’r rhan fwyaf o bobl (mwy nag 80%) yn cael adwaith i’r croen oherwydd cetuximab. Brech o natur acne yw hon fel arfer a gallai fod yn sych, yn goslyd ac ychydig yn anghyfforddus. I nifer fach o bobl, bydd yr adwaith hwn yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o’ch corff, gallai fod yn boenus ac yn heintus.
Er mwyn lleihau’r posibilrwydd o adwaith difrifol i’r croen, argymhellwn:
Mae’n bosibl y bydd eich meddyg ysbyty yn rhagnodi tabledi gwrthfiotig er mwyn helpu i leihau difrifoldeb y frech ar eich croen. Dylech ddechrau eu cymryd os byddwch yn datblygu brech o natur acne.
Mae’r adwaith hwn i’ch croen dros dro a bydd yn diflannu’n gyfan gwbl ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Os byddwch yn datblygu adwaith difrifol i’r croen sy’n achosi poen i chi neu’n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Effeithiau ar eich perfedd
Gall y driniaeth hon arwain naill ai at fod yn rhwym neu at ddolur rhydd.
Adweithiau o fath alergaidd
Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd i cetuximab. Mae hyn fwyaf tebygol o ddigwydd yn ystod eich triniaeth gyntaf. Dyna pam mae’n cael ei rhoi’n araf a’n bod yn cadw llygad arnoch am unrhyw adweithiau. Os bydd problem yn codi, bydd yn digwydd tra bo’r cetuximab yn arllwyso neu’n fuan ar ôl hynny. Mae symptomau’n cynnwys teimlo:
Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn.
Sgîl-effeithiau eraill
Bydd rhai cleifion yn datblygu llid pilen y llygad. Haint yn y llygad yw hon sy’n achosi llygaid dolurus a gludiog. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen triniaeth arnoch a byddwn ni neu’ch meddyg teulu yn gallu rhoi honno i chi.
Bydd rhai cleifion yn cael problemau ar ffurf poen, chwyddo neu haint ar hyd yr ewinedd. Os bydd problem yn codi, bydd yn digwydd fel arfer ar ôl sawl mis o driniaeth. Dywedwch wrth eich meddyg yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig os bydd hyn yn digwydd.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael pen tost gyda’r driniaeth hon. Ceisiwch gymryd pa gyffuriau lleddfu poen bynnag y byddech yn eu cymryd fel arfer. Os na fydd y rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu’ch meddyg teulu am gyngor.
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.
Yn bur anaml, bydd pobl sy’n cael y driniaeth hon yn fyr eu gwynt. Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych broblem ar eich ysgyfaint eisoes. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.
Bydd nifer fach o gleifion yn teimlo’n sâl neu’n chwydu. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.