Neidio i'r prif gynnwy

Thrombosis rydych yn ei ddal yn yr Ysbyty (H.A.T.)

Thrombosis rydych yn ei ddal yn yr Ysbyty

(H.A.T.)

 

 

 

Atal Thrombosis Gwythïen-ddofn (DVT) yn yr Ysbyty

 

 

Rhagarweiniad

Mae unrhyw glaf yr eir ag ef i’r ysbyty mewn perygl o ddatblygu Thrombosis Gwythïen-ddofn (DVT). Bydd y daflen hon yn esbonio ystyr DVT, pwy sydd â’r risg fwyaf o’i gael a’r hyn y gallwch ei wneud i helpu i leihau eich risg. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi ba symptomau a allai awgrymu presenoldeb DVT a’r hyn y dylech ei wneud os byddwch yn cael unrhyw rai ohonynt.

 

Mae rhif ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw DVT?

Ceulad gwaed sy’n ffurfio mewn gwythïen ddofn yw DVT, yn y goes fel arfer. Mae gwythiennau dwfn yn wythiennau mawr sy’n cludo gwaed i’r galon. Pan fydd ceulad gwaed yn digwydd, mae’n ffurfio plwg sy’n gallu ymyrryd â llif y gwaed.

 

 

 

A yw DVT yn ddifrifol?

Gall DVT achosi poen a chwyddo yn y goes, sy’n gwella gyda thriniaeth fel arfer. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallai problemau ddatblygu o ganlyniad i lif gwaed gwael drwy’r coesau megis poen, chwyddo ac wlserau yn rhan isaf y goes.

 

Mewn llawer o achosion, mae’r DVT cychwynnol yn ‘fud’ ac nid yw’n achosi unrhyw symptomau yn y goes, gan achosi problemau dim ond pan fo rhan o’r ceulad gwaed yn torri i ffwrdd ac yn teithio drwy lif y gwaed ac yn mynd yn sownd yn yr ysgyfaint. Emboledd ysgyfeiniol (PE) yw’r enw ar hyn.

 

Mae PE fel arfer yn achosi poen yn y frest, diffyg anadl a phesychu, weithiau gyda fflem gwaedlyd a llewygu’n sydyn.

 

Mewn achosion prin, mae PE yn angheuol, ac os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau uchod, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith.

 

Ydych chi mewn perygl o gael DVT?    

Mae llawer o bobl yn meddwl bod taith hir ar awyren yn ffactor risg fawr o ran datblygu DVT. Yn anffodus, mae’r risg o ddatblygu DVT ar ôl aros yn yr ysbyty yn uwch o lawer.

 

A oes modd atal DVT?

Y newyddion da yw bod modd atal datblygu DVT ar ôl aros yn yr ysbyty yn y rhan fwyaf o achosion gyda thriniaethau diogel ac effeithiol. Os bydd unrhyw un o’r ffactorau risg a ganlyn yn berthnasol i chi, dylech drafod atal DVT gyda’ch meddyg. Yna cewch eich asesu o ran pa un a ddylid rhoi unrhyw driniaethau yn eich achos chi’n benodol.

 

 

 

Ffactorau risg ar gyfer datblygu DVT

 

  • Ni allwch symud
  • Rydych dros 60 oed
  • Mae gennych ganser neu rydych yn cael triniaeth ar gyfer canser
  • Rydych yn cael therapi amnewid hormonau neu’n cymryd cyffur atal cenhedlu sy’n cynnwys estrogen
  • Rydych yn feichiog neu rydych wedi cael baban yn ystod y chwe wythnos diwethaf
  • Rydych dros eich pwysau
  • Rydych yn mynd ar daith awyren hir (mwy na chwe awr) ar ôl cael eich rhyddhau o’r ysbyty
  • Rydych wedi cael DVT neu PE o’r blaen
  • Mae gennych hanes teulu o DVT neu PE
  • Rydych wedi cael llawdriniaeth yn ystod y tri mis diwethaf

 

Eich hawl i gael asesiad risg DVT

Mae’r Adran Iechyd yn argymell bod pob oedolyn sy’n aros yn yr ysbyty’n cael ei asesu am ei risg o ddatblygu DVT. Os tybir bod y risg honno’n uwch, dylid rhagnodi triniaethau priodol.

 

Yn Felindre, y driniaeth sy’n cael ei rhagnodi gan amlaf yw un o’r enw dalteparin.

 

 

Beth yw Dalteparin?

Mae Dalteparin yn bigiad sy’n teneuo’r gwaed ac sy’n helpu i atal ffurfio DVT. Pigiad isgroenol unigol unwaith y dydd yw hwn (sy’n golygu ei fod yn cael ei chwistrellu o dan y croen). Caiff ei chwistrellu i blygiad croen yn eich abdomen (stumog), neu ran uchaf eich clun.

 

 

Ei brif sgîl-effaith yw cleisiau ym man rhoi’r pigiad.

 

Rhyddhau o’r ysbyty

Gallai’r risg o ddatblygu ceulad gwaed bara am nifer o fisoedd ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty. Mae’n bwysig eich bod yn dilyn cyngor sy’n cael ei roi i chi ar ôl cael eich rhyddhau o’r ysbyty er mwyn lleihau’r risg o DVT yn digwydd yn ddiweddarach.

 

Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau sy’n awgrymu y gallech fod wedi cael DVT neu PE, ceisiwch sylw meddygol ar unwaith.

 

Rhifau ffôn cyswllt

Os hoffech ragor o wybodaeth am dalteparin, siaradwch â’ch meddyg neu’ch fferyllydd.  

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau mewn perthynas â’ch meddyginiaethau

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr elusen thrombosis sef, Lifeblood yn www.thrombosis-charity.org.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

Paratowyd Mawrth 2011