Mae therapyddion yn gweithio o fewn eu timau proffesiynol, ac yn cydweithio ar draws y gwasanaeth therapïau a'r Timau Amlddisgyblaethol ehangach. Mae’r gwasanaeth therapïau yn cwmpasu clinigau adolygu cleifion mewnol, cleifion allanol, radiotherapi ac unedau cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae therapyddion yn cysylltu'n rheolaidd â thimau mewn byrddau iechyd lleol hefyd, i sicrhau gofal cyson.
Mae'r claf wrth wraidd y tîm amlddisgyblaethol, a dylai pob claf gyfrannu at yr hyn maen nhw eisiau ei gyflawni. Nod pob ymyriad therapi yw sicrhau'r diogelwch a'r lles mwyaf posibl i gleifion a’u bod nhw’n gallu ymdopi wrth wneud pethau dydd i ddydd, a sicrhau ansawdd bywyd y claf a'i ofalwyr.
Kate Baker
Pennaeth Therapïau Macmillan
Canolfan Ganser Felindre
Rhif ffôn: 029 2061 5888
Siobhan Pearce
Dirprwy Bennaeth Therapïau Macmillan
Canolfan Ganser Felindre
Rhif ffôn: 02920 61 5888