Mae gallu cyfathrebu a bwyta/yfed heb anhawster yn rhywbeth rydym yn aml yn ei gymryd yn ganiataol. Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn cefnogi pobl sy'n cael anawsterau wrth lyncu, bwyta, yfed a/neu gyfathrebu. Mae’r anawsterau hyn yn gallu codi o ganser, ei driniaeth neu o amrywiaeth o resymau eraill. Bydd y dudalen we hon yn darparu gwybodaeth am dîm Therapi Lleferydd ac Iaith Felindre, y gwasanaethau a ddarperir, ac yn rhoi cyngor ar gael mynediad i’r cymorth hwn.
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghanolfan Ganser Felindre yn gweithio'n agos gyda phobl â chanser sy'n cael anawsterau wrth lyncu, bwyta, yfed a/neu gyfathrebu. Rydym yn cefnogi unigolion sydd â llwybrau anadlu wedi'u haddasu (h.y. tiwbiau traceostomi neu laryngectomi). Mae anawsterau cyffredin ar gyfer unigolion sydd angen mewnbwn gan y tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnwys:
Rydym yn chwarae rhan bwysig yn y tîm ehangach, i sicrhau bod gofal yn cael ei deilwra i anghenion a nodau unigol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd, gofalwyr a sefydliadau'r trydydd sector, fel Macmillan neu Elusen Tiwmor yr Ymennydd. Nod cyffredinol ein mewnbwn yw cynnig cymorth ymarferol gydag anghenion therapi lleferydd ac iaith, a gwella ansawdd bywyd.