Neidio i'r prif gynnwy

Seicoleg Glinigol

Gofal seicolegol a chanser

Pan fyddwch chi'n cael diagnosis o ganser, mae pobl yn aml yn teimlo'n bryderus, yn ofnus, yn ddig, yn drist neu'n anobeithiol. Mae hyn yn gyffredin ac yn normal iawn. Mae'n bosib y byddwch chi'n cael cefnogaeth trwy deulu, ffrindiau, eich tîm canser, eich tîm gofal lliniarol a grwpiau cymorth.

Fodd bynnag, os byddwch chi'n teimlo bod angen rhagor o gymorth arnoch a'ch bod yn cael trafferth ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd, mae'n bosib y byddwch chi'n elwa o gwrdd â therapydd seicolegol. 

Mae tîm bach o seicolegwyr clinigol a chynghorwyr yng Nghanolfan Ganser Felindre sy'n gweithio gyda chleifion mewnol a chleifion allanol. Maen nhw'n gallu helpu gydag anawsterau emosiynol neu bersonol sy'n ymwneud â'u canser, a hynny yn ystod eu salwch ac ar ôl eu salwch.

Rydyn ni'n cynnig therapi i bobl sy'n byw gydag effaith canser i'w helpu i ymdopi. Mae gwahanol fathau o therapi seicolegol – mae pob un yn rhoi amser i chi drafod meddyliau, teimladau ac anawsterau eraill. Nod therapi yw eich helpu i ddatblygu ar eich strategaethau ymdopi presennol er mwyn i chi ymdopi â'ch sefyllfa.

 

Y pethau gallwn ni eich helpu â nhw

  • Addasu ac ymdopi â'ch salwch a'ch triniaeth.
  • Ymdopi â theimladau fel pryder, tristwch, hwyliau isel, dicter a cholled sy'n ymwneud â'ch diagnosis.
  • Ymdopi â phrofion, archwiliadau a thriniaethau, neu wneud penderfyniadau ynglŷn â'ch triniaeth.
  • Trin poen, blinder, anghysur, problemau bwydo neu sgil-effeithiau triniaeth.
  • Ymdopi â newidiadau i'ch corff neu eich ymddangosiad.
  • Symud ymlaen â bywyd ar ôl eich triniaeth.
  • Deall sut mae canser yn gallu effeithio ar eich perthnasoedd.
  • Helpu eich plant i ymdopi â'ch salwch.
  • Wynebu salwch lliniarol nad oes modd gwella ohono ac ofn marwolaeth a marw.
  • Ymdopi â phryderon a byw gydag ansicrwydd.
  • Anawsterau perthynas.
  • Anawsterau rhywiol sy'n deillio o'ch canser neu driniaeth.

 

Y tîm

 

 

 

 

 

 

 

 

Ynglŷn â'r gwasanaeth

 

Cwestiynau cyffredin

 

Rhagor o gymorth

Wrth aros i weld ein tîm, mae llawer o gymorth ar gael i chi yn y cyfamser.

 

 

 

 

Ein manylion cyswllt

Gwasanaeth Seicoleg Glinigol a Chwnsela
Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2019 6141
E-bost: Clinical.Psychologyservices@wales.nhs.uk