Neidio i'r prif gynnwy

Psychology FAQs accordion

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
24/10/24
Beth yw seicolegwyr clinigol a chynghorwyr?

Mae seicolegwyr clinigol a chynghorwyr wedi cael eu hyfforddi i asesu a thrin anawsterau seicolegol. Maen nhw'n wahanol i seiciatryddion gan nad oes modd iddyn nhw bresgripsiynu meddyginiaeth na derbyn pobl i'r ysbyty. Mae pob aelod o'r tîm yn y gwasanaeth hwn wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd neu Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.

24/10/24
Beth ddylwn i ei wneud os hoffwn gael atgyfeiriad i'r gwasanaeth hwn?

Mae croeso i chi ofyn i unrhyw aelod o'ch tîm gofal iechyd yn Felindre eich cyfeirio at ein gwasanaeth. Byddwn ni'n ysgrifennu atoch i ofyn am gadarnhau eich bod am gael apwyntiad gyda'n gwasanaeth. Os felly, byddwn ni'n ffonio i drefnu apwyntiad asesu. Gallwn ni gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Ganser Felindre, neu o bell drwy fideo neu ffôn. Does dim costau ynghlwm.

24/10/24
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cael fy nghyfeirio at y gwasanaeth?

Nod y cyfarfod cyntaf gydag aelod o’r tîm yw trafod beth hoffech chi gael cymorth yn ei gylch, beth rydych chi wedi bod yn mynd drwyddo, ac a fydd therapi seicolegol yn gallu eich helpu. Bydd hyn yn para awr fel arfer.

Ar ddiwedd y cyfarfod cyntaf, gallwch chi benderfynu a hoffech chi weld aelod o'n tîm ar gyfer therapi seicolegol. Mae'n bosib y byddwch chi'n mynd ar restr aros ar gyfer hyn. Os ar unrhyw adeg nad ydych chi'n teimlo bod angen apwyntiad neu therapi arnoch mwyach, rhowch wybod i ni.

Mae rhai pobl wedi elwa'n fawr o rannu profiadau ag eraill sy'n mynd trwy anawsterau tebyg, felly gallwn ni hefyd eich cyfeirio at sesiynau cymorth grŵp.

24/10/24
Fydd pob dim rwy'n ei rannu gyda'r gwasanaeth yn aros yn gyfrinachol?

Mae'n bosib y bydd eich seicolegydd/cwnselydd yn gwneud nodiadau byr am y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda'ch gilydd. Bydd y nodiadau hyn yn gyfrinachol a fyddan nhw ddim yn cael eu dangos i weithwyr proffesiynol eraill.

Mae'n bosib y byddan nhw hefyd yn ysgrifennu yn eich nodiadau meddygol ac yn rhannu rhywfaint o wybodaeth â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud yn agos â'ch gofal (gan gynnwys eich meddyg teulu). Bydd hyn er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw eich bod yn gweithio gyda'ch gilydd ac i wella'r gofal a'r cymorth byddwch chi'n eu cael. Mae croeso i chi ofyn am gopi o bob llythyr a sy'n cael ei ysgrifennu amdanoch.

Dywedwch wrth eich seicolegydd/cwnselydd beth hoffech chi ei rannu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill neu os oes gennych unrhyw bryderon o ran cyfrinachedd.

Fodd bynnag, os bydd eich seicolegydd/cwnselydd yn poeni eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed, bydd ganddyn nhw ddyletswydd gofal i drosglwyddo’r wybodaeth hon i wasanaethau eraill (e.e. eich meddyg teulu) i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y cymorth sydd ei angen.

24/10/24
Sut mae cyrraedd yr Adran Seicoleg Glinigol?

Ar hyn o bryd, rydyn ni yn Ward Rowan yng Nghanolfan Ganser Felindre. Os nad ydych chi'n gyfarwydd â hwn, dywedwch wrth y brif dderbynfa yn Felindre a byddwn ni'n anfon rhywun i'ch arwain i'r adran. Fel arall, gwyliwch y fideo hwn am gyfarwyddiadau i'r adran.