Mae ein Hadran Therapïau yng Nghanolfan Ganser Felindre yn rhoi cannoedd o gymhorthion cerdded i gleifion bob blwyddyn er mwyn eu helpu i symud, parhau’n annibynnol a gwella.
Gall cymhorthion cerdded gynnwys ffyn cerdded, ffyn baglau (crutches) a fframau Zimmer. Mae modd adfer ac ailgylchu y rhan fwyaf o’r rhain yn ddiogel, a byddai hyn yn arbed miloedd o bunnoedd i’r GIG bob blwyddyn.
Hoffem ni ailgylchu cymaint o gymhorthion cerdded â phosib ac mae hyn yn dibynnu ar gymorth gan gleifion a’u hanwyliaid. Bydd dychwelyd unrhyw gymhorthion cerdded diangen yn gyflym yn ein helpu i’w rhoi i gleifion yn y dyfodol cyn gynted â phosib.
Dyma Helena Goode, sy’n ffisiotherapydd arbenigol yn ein Hadran Therapïau, yn sôn mwy am bwysigrwydd ailgylchu cymhorthion cerdded.
Enw ein sied ar gyfer ailgylchu cymhorthion cerdded yw ‘Y Sied’ ac fe welwch chi hi ym maes parcio’r Adran Radiotherapi yng nghefn y safle.
Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw dod ag unrhyw hen gymhorthion cerdded i’r Sied a dyna fe! Bydd ein staff yn gwneud gweddill y gwaith.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r gwasanaeth, cysylltwch â’n Hadran Therapïau ar 029 2061 5888.
Nod ein cynllun ailgylchu cymhorthion cerdded yw:
Wrth ddychwelyd cymhorthion cerdded i Ganolfan Ganser Felindre, nid yn unig byddwch chi’n ein helpu i arbed arian, byddwch chi hefyd yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Er enghraifft, wyddech chi fod ailddefnyddio cymorth cerdded yn allyrru 98% yn llai o garbon ar gyfartaledd nag archebu cymorth cerdded newydd?
I gynnal y prosiect hwn, roedd angen i ni adeiladu sied yn yr awyr agored er mwyn i gleifion allu dod â’u cymhorthion cerdded diangen atom heb fod angen camu i mewn i amgylchedd clinigol.
Er mwyn cyflawni hyn, daeth Walters UK, ein partneriaid ar gyfer gwaith galluogi Canolfan Ganser Felindre newydd, a grŵp cymunedol Men’s Sheds.
Gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu o safle Canolfan Ganser Felindre newydd a chymorth gan Walters UK, adeiladodd Men’s Sheds sied gan ddilyn manyleb unigryw ein Hadran Therapïau.
Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r bartneriaeth hon sy’n helpu ein cynllun i leihau gwastraff, arbed costau ac atal allyriadau carbon.