Neidio i'r prif gynnwy

Panitumumab

Cyngor ar ofalu am y croen, y gwallt a’r ewinedd

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i ofalu am eich croen, gwallt a’ch ewinedd. Mae’r daflen yn cynnig cyngor hefyd os bydd symptomau'n gwaethygu tra byddwch ar Panitumumab.

  • Gall cleifion brofi brech a chroen sych, coslyd.
  • Mae'r frech yn bennaf ar yr wyneb, y gwddf, y frest a'r cefn, ond gall ddatblygu yn unrhyw le, yn enwedig o dan y breichiau a'r afl.
  • Os bydd y croen yn mynd yn llidiog, efallai y byddwch chi'n datblygu heintiau ar y croen.
  • Weithiau, gall y frech a/neu'r croen sych, coslyd fod yn boenus
  • Gall croen y pen fynd yn sych ac yn ddolurus, a gallwch chi ddatblygu brech ar groen y pen hefyd.
  • Gall cleifion ddatblygu llygaid dolurus a heintiau ar y llygaid
  • Gall amrannau dyfu'n hirach ac yn fwy trwchus, a gallant gyrlio a thwistio dros amser 
  • Efallai y bydd mwy o wallt yn tyfu ar eich corff a'ch wyneb hefyd.
  • Gall agennau neu graciau ddechrau ymddangos ar flaenau'r bysedd a'r bysedd traed, sydd yn gallu bod yn ddwfn ac yn boenus ar adegau
  • Efallai y byddwch chi'n datblygu heintiau yng ngwely’r ewinedd

 

Rheoli gofalu am y croen:

Dilynwch y cyngor isod:

  • Dylech ymolchi mewn dŵr llugoer
  • Defnyddiwch opsiwn arall yn lle sebon, er enghraifft: Oilatum, Hydromol neu Dermol.
  • Fel arfer, buasem yn defnyddio Oilatum, a dim ond defnyddio eli hydromol neu dermol os nad yw hyn yn helpu.
  • Sychwch y croen yn ysgafn, peidiwch â rhwbio
  • Defnyddiwch leithyddion dros y corff cyfan ar ôl ymolchi, cyn mynd i'r gwely ac yn ôl yr angen, yn ystod y dydd: fel diprobase.
  • Os ydy''r croen yn dal yn sych gyda diprobase, gallwch roi cynnig ar balneum plus, ac os nad yw hyn yn helpu, gallwn roi cynnig ar Cetraben.
  • Os ydy'r croen yn cosi, gallai aveeno helpu yn lle'r hufenau eraill
  • Gwisgwch ddillad llac: cotwm neu liain
  • Peidiwch ag eillio’n wlyb, defnyddiwch raser drydan.
  • Ceisiwch osgoi'r haul, gwres, gwynt a’r oerfel
  • Defnyddiwch eli haul SPF ffactor 50 pan fyddwch chi yng ngolau’r haul, ar ôl rhoi lleithydd ymlaen.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio glanedydd golchi dillad persawrus
  • Dylech osgoi defnyddio cynhyrchion gofal croen alcoholig
  • Dylech osgoi prynu cynhyrchion dros y cownter
  • Dylech osgoio gwisgo esgidiau sy'n ffitio'n dynn, ffrithiant a phwysau ar wely'r ewinedd.
  • Cynyddwch eich cymeriant hylif, a gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi’ch hydradu’n dda.

 

Beth i'w wneud os bydd y frech neu'r croen yn mynd yn fwy coslyd, coch neu’n llidiog

  • Os bydd yr ardal yn cosi'n fawr ac nad yw aveeno nac hufenau eraill yn helpu, gallwn roi cynnig ar hufen hydrocortisone 1%, a rhoi ychydig ohono ar yr ardal ddwywaith y dydd.
  • Os ydy'r ardal wedi llidio ac yn goch, gallwn roi cynnig ar ychydig bach o gel clindamycin ar yr ardal yr effeithir arni, ddwywaith y dydd. 
  • Os ydy'r ardal yn boeth i'w chyffwrdd ac yn goch neu'n llidiog, neu os oes gennych dymheredd uwchlaw 37.5, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth, i asesu am haint croen: 
  • Ffoniwch Felindre: 029 20615888, a gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth

 

Beth i'w wneud os oes gennych boen gyda'r frech neu groen sych:

Mae croen coch (erythema), llid, neu gosi difrifol yn gallu bod yn boenus.

Os ydy'r frech yn boenus, ystyriwch gymryd parasetamol i helpu .

Os ydy'r boen yn lleol neu'n mynd yn fwy difrifol, yn boeth ac yn llidiog, neu os oes gennych dymheredd, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth, gan y gallai hyn awgrymu haint croen posibl, fel cellulitis.

Weithiau, gallwn ddefnyddio hufen gwrthficrobaidd, er enghraifft eli dermol, i helpu gyda llid y croen.

 

Sut i reoli briwiau rhag ymddangos ar y sgalp, a sgalp coslyd:

  • Golchwch eich sgalp gyda siampŵ syml
  • Gallwn ragnodi betnovate ddwywaith y dydd, os ydy'r sgalp yn ddolurus ac yn goslyd iawn.

 

Beth i'w wneud os fyddwch chi'n datblygu agennau (craciau neu holltiadau yn y bysedd neu'r bysedd traed)

Fel arfer, mae agennau’n ymddangos ar ôl 2 i 4 mis o driniaeth.                                                    Gallant weithiau achosi poen ac amharu ar eich gallu i wneud pethau, a allai effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd ac ar ansawdd eich bywyd. 

Mae agennau’n ymddangos fel craciau neu holltiadau poenus, yn enwedig ar y sodlau ac ar flaenau'r bysedd.

Gallwn roi cynnig ar rwymyn hydrocoloid, er enghraifft: duoderm tenau dros yr ardal yr effeithir arni. Weithiau gall superglue helpu hefyd. Mae'n bwysig defnyddio tiwb heb ei agor o superglue, a'i gadw ar gyfer yr agennau’n unig.

 

Beth os fyddwch chi'n datblygu heintiau yng ngwely’r ewinedd:

Gall cleifion brofi poen, llid, rhedlif, chwyddo, agennau, cracio neu gribio ar yr ewinedd, neu granuloma yng ngwely'r ewinedd

Os byddwch chi'n profi'r symptomau hyn, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth.

Gallwn roi cynnig ar Trimovate, hufen steroid / gwrthfiotig / gwrthffwng ar wely’r ewinedd.

Weithiau, efallai y bydd angen i ni ragnodi gwrthfiotigau trwy’r geg.

Awgrymiadau defnyddiol i edrych ar ôl gwelyau eich ewinedd

  • Ychwanegu vasoline at gwtiglau’r dwylo a’r traed
  • Gwisgo menig wrth olchi llestri
  • Osgoi gwisgo esgidiau/menig tynn

 

Sut i reoli amrannau cyrliog, hir: 

Torrwch yr amrannau'n rheolaidd pan fyddant yn dechrau tyfu'n hirach.]

 

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Amgen Care.