Cyngor ar ofalu am y croen, y gwallt a’r ewinedd
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i ofalu am eich croen, gwallt a’ch ewinedd. Mae hefyd yn cynnig cyngor os bydd symptomau'n gwaethygu tra byddwch ar Cetuximab
Mae brechau cetuximab yn tueddu i fod yn bapwlo - pwstwlar, e.e.; brychau llawn crawn, fel acne, sy'n waeth ar ddechrau'r driniaeth, yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, ond yn gyffredinol, yn gwella dros amser.
Efallai y byddwch yn datblygu:
- Brech papwlo-pwstwlar – cochni, gwrid, brychau llawn crawn, fel acne.
- Cosi (prwritws)
- Croen sych (xerosis)
- Mae'r frech neu'r croen sych fel arfer ar yr wyneb, y gwddf, y frest a'r cefn.
- Os bydd y croen yn mynd yn llidiog, efallai y byddwch chi'n datblygu haint ar y croen.
- Weithiau, gall y frech a/neu'r croen sych, coslyd fod yn boenus
- Gall croen y sgalp fynd yn sych ac yn ddolurus, a gallwch chi ddatblygu brech ar y sgalp hefyd.
- Gall cleifion ddatblygu llygaid dolurus a heintiau ar y llygaid
- Gall amrannau dyfu'n hirach ac yn fwy trwchus, a gallant gyrlio a thwistio dros amser
- Efallai y bydd mwy o wallt yn tyfu ar eich corff a'ch wyneb hefyd.
- Gall agennau neu graciau ddechrau ymddangos ar flaenau'r bysedd a'r bysedd traed, sydd yn gallu bod yn ddwfn ac yn boenus ar adegau
- Efallai y byddwch chi'n datblygu heintiau yng ngwely’r ewinedd
Rheoli gofalu am y croen:
Dilynwch y cyngor isod:
- Golchwch mewn dŵr llugoer
- Defnyddiwch opsiwn arall yn lle sebon, er enghraifft: Oilatum, Hydromol neu Dermol.
- Fel arfer, buasem yn defnyddio Oilatum, a dim ond defnyddio eli hydromol neu dermol os nad yw hyn yn helpu.
- Sychwch y croen yn ysgafn, peidiwch â rhwbio
- Defnyddiwch leithyddion dros y corff cyfan ar ôl ymolchi, cyn mynd i'r gwely ac yn ôl yr angen, yn ystod y dydd: fel diprobase.
- Os oes gennych alergedd i geirch, rhowch gynnig ar balneum plus neu cetraben
- Os nad yw Aveeno yn helpu, gallwn roi cynnig ar Cetraben neu eli arall
- Gwisgwch ddillad llac: cotwm neu liain
- Peidiwch ag eillio’n wlyb, defnyddiwch raser drydan.
- Ceisiwch osgoi'r haul, gwres, gwynt a’r oerfel
- Defnyddiwch eli haul SPF ffactor 50, ar ôl rhoi lleithydd ar y croen.
- Ceisiwch osgoi defnyddio glanedydd golchi dillad persawrus
- Dylech osgoi defnyddio cynhyrchion gofal croen alcoholig
- Dylech osgoi prynu cynhyrchion dros y cownter
- Dylech osgoi gwisgo esgidiau sy'n ffitio'n dynn, ffrithiant a phwysau ar wely'r ewinedd.
- Cynyddwch eich cymeriant hylif, a gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi’ch hydradu’n dda.
Beth i'w wneud os bydd y frech neu'r croen yn mynd yn fwy coslyd, coch neu’n llidiog
- Os fydd yr ardal yn cosi'n fawr ac nad yw aveeno nac hufenau eraill yn helpu, gallwn roi cynnig ar hufen hydrocortisone 1%, a rhoi ychydig ohono ar yr ardal ddwywaith y dydd.
- Os ydy'r ardal wedi llidio ac yn goch, gallwn roi cynnig ar ychydig bach o gel clindamycin ar yr ardal yr effeithir arni, ddwywaith y dydd.
- Os ydy'r ardal yn boeth i'w chyffwrdd ac yn goch neu'n llidiog, neu os oes gennych dymheredd uwchlaw 37.5, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth, i asesu am haint ar y croen:
Ffoniwch Felindre: 029 20615888, a gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth
Beth i'w wneud os oes gennych boen, gyda'r frech neu’r croen sych:
Mae croen coch (erythema), llid, neu gosi difrifol yn gallu bod yn boenus.
Os ydy'r frech yn boenus, ystyriwch gymryd parasetamol i helpu .
Os ydy'r boen yn lleol neu'n mynd yn fwy difrifol, yn boeth ac yn llidiog, neu os oes gennych dymheredd, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth, gan y gallai hyn awgrymu haint posibl ar y croen, fel cellulitis.
Weithiau gallwn ddefnyddio hufen gwrthficrobaidd, er enghraifft eli dermol i helpu gyda llid y croen.
Sut i reoli briwiau rhag ymddangos ar y sgalp, a sgalp coslyd:
- Golchwch eich sgalp gyda siampŵ syml
- Gallwn ragnodi betnovate ddwywaith y dydd, os ydy'r sgalp yn ddolurus ac yn goslyd iawn.
Beth i'w wneud os fyddwch chi'n datblygu agennau (craciau neu holltiadau yn y bysedd neu'r bysedd traed)
Fel arfer, mae agennau’n ymddangos ar ôl 2 i 4 mis o driniaeth. Gallant weithiau achosi poen ac amharu ar eich gallu i wneud pethau, a allai effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd ac ar ansawdd eich bywyd.
Mae agennau’n ymddangos fel craciau neu holltiadau poenus, yn enwedig ar y sodlau ac ar flaenau'r bysedd.
Gallwn roi cynnig ar rwymyn hydrocoloid, er enghraifft: duoderm tenau dros yr ardal yr effeithir arni.
Weithiau gall superglue helpu hefyd. Mae'n bwysig defnyddio tiwb heb ei agor o superglue, a'i gadw ar gyfer yr agennau’n unig.
Beth os fyddwch chi'n datblygu heintiau yng ngwely’r ewinedd:
Gall cleifion brofi poen, llid, rhedlif, chwyddo, agennau, cracio neu gribio ar yr ewinedd, neu granuloma yng ngwely'r ewinedd
Os fyddwch chi'n profi'r symptomau hyn, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth.
Gallwn roi cynnig ar Trimovate, hufen steroid / gwrthfiotig / gwrthffwng ar wely’r ewinedd.
Weithiau, efallai y bydd angen i ni ragnodi gwrthfiotigau trwy’r geg.
Awgrymiadau defnyddiol i edrych ar ôl gwelyau eich ewinedd
- Ychwanegu vasoline at gwtiglau’r dwylo a’r traed
- Gwisgo menig wrth olchi llestri
- Osgoi gwisgo esgidiau/menig tynn
Sut i reoli amrannau cyrliog, hir:
Torrwch yr amrannau'n rheolaidd pan fyddant yn dechrau tyfu'n hirach.