Gwybodaeth gyffredinol am gael eich triniaeth canser systemig yn Felindre @ Nevill Hall
Sut i ddod o hyd i ni:
Mae'r uned driniaeth wedi'i lleoli yn y prif adeilad yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni.
Cyfeiriad yr ysbyty
Ysbyty Nevill Hall
Ffordd Aberhonddu
Y Fenni
NP7 7EG
Manylion cyswllt:
Rhif ffôn: 01873 782371 neu 01873 782824
Ar ôl cyrraedd, ewch yn y lifft i'r ail lawr, a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Uned Gemotherapi Felindre @ Nevill Hall.
Ynghylch yr uned:
Mae Uned Gemotherapi Ysbyty Felindre @Nevill Hall wedi'i lleoli yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni.
Mae'r uned hon yn caniatáu i rywfaint o driniaethau sydd fel arfer yn cael eu rhoi yng Nghanolfan Canser Felindre i gael eu darparu'n nes at y cartref.
Bydd eich triniaeth yn Felindre @ Nevill Hall yn cael ei darparu gan yr un tîm nyrsio profiadol o Ganolfan Canser Felindre.
Sut mae'r uned yn gweithio:
Uned dan arweiniad nyrsys ydy’r uned, sy'n golygu na fydd meddyg wedi'i leoli yn yr uned cemotherapi yn ystod eich triniaeth.
Bydd eich gofal yn cael ei ddarparu gan nyrsys hyfforddedig iawn, gan gynnwys Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs), sef nyrsys arbenigol sydd â hyfforddiant ac arbenigedd ychwanegol mewn triniaethau canser ac mewn asesu a chynllunio gofal.
Gan mai gwasanaeth dan arweiniad nyrsys yw hwn:
·Ni fyddwch yn gweld meddyg yn ystod eich ymweliad.
·Ni ellir darparu cyngor meddygol cyffredinol na phresgripsiynau yn ystod eich ymweliad.
Er nad oes meddyg o Felindre ar y safle, mae'r uned wedi'i lleoli mewn ysbyty. Mae cynlluniau clir yn eu lle, fel y gellir cael mynediad cyflym at gymorth meddygol mewn argyfwng.
Cyn eich apwyntiad:
Cyn mynychu Uned Gemotherapi Felindre @ Nevill Hall, byddwch wedi cael apwyntiad clinig i asesu eich triniaeth. Gall yr apwyntiad hwn fod wyneb yn wyneb neu'n rhithwir. Bydd eich profion gwaed wedi cael eu cymryd tua'r adeg hon hefyd.
Pryd i fynychu'r uned:
Dim ond os ydych chi'n teimlo'n dda ac yn ffit ar gyfer y driniaeth y dylech chi ddod i'ch apwyntiad.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl cyn eich apwyntiad, mae'n bwysig cofio nad oes meddyg ar gael yn yr uned.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl, peidiwch â dod i’r uned. Yn lle hynny, cysylltwch â Llinell Gymorth Triniaeth Felindre ar:
02920 615888, a gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Ffoniwch cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddyn nhw sut rydych chi'n teimlo. Bydd aelod o'r tîm yn eich asesu dros y ffôn, ac yn rhoi cyngor i chi ar beth i'w wneud nesaf.
Trafnidiaeth a Theithio:
Mewn Car:
Gallwch ddefnyddio Google Maps i ddod o hyd i gyfarwyddiadau i Ysbyty Nevill Hall.
Trafnidiaeth Gyhoeddus:
Traveline Cymru - Gall My health journey eich helpu i gynllunio eich taith:
https://myhealthjourney.traveline.cymru/
Cludiant Ysbyty:
Os oes angen cludiant ysbyty arnoch i ac o Uned Gemotherapi Felindre @ Nevill Hall, rhowch wybod i ni, a gallwn drefnu hyn i chi.
Mae galw mawr am gludiant ysbyty, felly efallai y bydd angen i chi aros peth amser i gael eich casglu a'ch cludo adref. Efallai y bydd rhai grwpiau cymorth lleol yn gallu eich helpu gyda chludiant hefyd.
Parcio:
Mae prif fynedfa'r ysbyty o fewn pellter cerdded hawdd o'r maes parcio.
Mae llefydd parcio bathodyn glas i bobl anabl ar gael, ac mae ardal gollwng yn agos at fynedfa'r ysbyty.
Dod â pherthnasau neu ffrindiau:
Mae croeso i chi ddod â pherthynas neu ffrind gyda chi i'r uned. Fodd bynnag, oherwydd nad oes llawer o le o amgylch pob cadair driniaeth, dim ond un person y dylech ddod gyda chi i'r ardal driniaeth.
Cyrraedd yr uned:
Pan rydych yn cyrraedd yr uned, pwyswch ar yr intercom, a bydd aelod o'r tîm nyrsio yn eich gadael i mewn.
Rhowch eich enw i'r tîm nyrsio fel y gallant eich cofrestru. Yna, bydd rhywun yn eich mynd â chi i'r ardal aros neu'n syth i gadair driniaeth os oes un ar gael.
Yna, bydd y tîm nyrsio yn dechrau eich triniaeth.
Bwyd a Diodydd:
Os yw eich apwyntiad yn rhedeg dros amser cinio, bydd brechdanau'n cael eu darparu. Mae diodydd poeth ar gael hefyd, ac mae dŵr ar gael drwy gydol y dydd.
Mae croeso i chi ddod â'ch bwyd a'ch diod eich hun gyda chi. Mae yna ffreutur ysbyty, siop goffi a pheiriannau gwerthu ar y safle hefyd.