Annwyl Glaf,
Newid o feddyginiaeth wreiddiol i feddyginiaeth fiodebyg
Rydym yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am newid sydd yn mynd i ddigwydd i’ch triniaeth. Bydd eich meddyginiaeth bresennol, Bevacizumab Avastin®, yn cael ei disodli gan feddyginiaeth fiodebyg o'r enw Bevacizumab Abevmy®. Mae'r newid hwn yn rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gofal diogel, effeithiol a chynaliadwy.
Beth yw meddyginiaeth Fiodebyg?
Mae biodebyg yn feddyginiaeth sy'n debyg iawn i feddyginiaeth fiolegol bresennol (sydd yn cael ei adnabod fel y feddyginiaeth wreiddiol). Mae’r feddyginiaeth wedi cael ei phrofi'n drylwyr i sicrhau ei bod yn gweithio yn yr un ffordd ac yn darparu'r un manteision clinigol â'r gwreiddiol.
Efallai eich bod wedi clywed am rai meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd sydd yn cael eu disgrifio fel meddyginiaethau generig, er enghraifft, brand yr archfarchnad ei hun o ibuprofen yw'r fersiwn generig o Nurofen®. Mae meddyginiaethau generig yn union gopïau o'r feddyginiaeth wreiddiol, ac maen nhw’n gymharol syml i'w copïo a'u cynhyrchu. Mae'r un syniad yn berthnasol i feddyginiaethau biodebyg, ond nid yw'n bosibl gwneud union gopi o’r meddyginiaethau hyn, oherwydd y ffordd gymhleth maen nhw’n cael eu gwneud. Mae meddyginiaethau biodebyg yn debyg iawn i'r feddyginiaeth wreiddiol, ond nid ydynt yn union yr un fath.
Pam rydyn ni'n gwneud y newid hwn?
Cywerthedd Clinigol: Gallwch ddisgwyl cael yr un canlyniadau gyda’ch meddyginiaeth fiodebyg Bevacizumab Abevmy® ag y buasech yn eu cael petasech wedi cael y feddyginiaeth wreiddiol. Bevacizumab Avastin®. Mae meddyginiaethau biodebyg yn gorfod mynd trwy broses asesu rheoleiddiol llym i gadarnhau eu bod mor ddiogel ac effeithiol â'r gwreiddiol. Bydd amserlen eich triniaeth a'ch monitro yn aros yr un fath.
Cost-effeithiolrwydd: Mae defnyddio meddyginiaethau biodebyg yn helpu'r GIG i arbed arian, ac yn caniatáu i adnoddau gael eu hail-fuddsoddi mewn gofal cleifion.
Gwerth a Chynaliadwyedd: Mae'r newid hwn yn cefnogi mynediad ehangach at driniaethau, ac yn sicrhau argaeledd hirdymor.
Sut y gallaf fod yn hyderus y bydd yn gweithio'r un fath?
Mae'n rhaid i'r cwmnïau sy'n gwneud meddyginiaethau biodebyg ddangos tystiolaeth lem iawn i'r awdurdod trwyddedu meddyginiaethau o'u heffeithiolrwydd, eu diogelwch a'u hansawdd. Rhaid cynnal astudiaethau clinigol mewn grŵp mawr o bobl i ddangos bod y feddyginiaeth yn gweithio cystal, ac yr un mor ddiogel, â'r cynnyrch gwreiddiol.
Mae meddyginiaethau biodebyg yn cymryd sawl blwyddyn i ddatblygu a phrofi eu bod yn gweithio yn yr un ffordd â'r feddyginiaeth wreiddiol. Dyma ffordd arall y mae meddyginiaethau biodebyg yn wahanol i feddyginiaethau generig. Nid oes angen cynnal astudiaethau ar bobl sy'n sâl gyda meddyginiaethau generig, ac maen nhw’n cymryd llawer llai o amser ac arian i'w datblygu.
Gwybodaeth Bwysig Arall:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon, neu os hoffech drafod y newid hwn ymhellach, siaradwch gyda'ch tîm clinigol.
Cydnabyddiaeth:
Datblygwyd yn cynnwys gwybodaeth o Daflen Gwybodaeth i Gleifion Canser Vanguard UK/MKT/SDZ/17-0027i Mehefin 2017.
Rhif y Fersiwn: 1
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2025
Dyddiad yr arolygiad diwethaf 03/12/2025