Diffiniad archwiliad o'r fath yw un sy'n ymwneud â'r fron, yr organau cenhedlu neu'r rectwm. Mae'n cynnwys archwiliadau personol, lluniau meddygol a recordiadau clyweledol hefyd.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn cynnig hebryngwr ffurfiol i bob claf cyn unrhyw archwiliad ar rannau personol ('intimate' yn Saesneg) o'r corff.
Mae hebryngwr ffurfiol wedi cael hyfforddiant priodol, a'i rôl yw arsylwi'r archwiliad sy'n cael ei archwilio gan yr ymarferydd iechyd. Bydd hebryngwyr yn bresennol i gefnogi ac amddiffyn cleifion ac ymarferwyr gofal iechyd.
Dydy perthynas neu ffrind i'r claf ddim fel arfer yn arsylwr diduedd, ond byddwn ni'n ystyried unrhyw gais rhesymol gennych i gael person o'r fath yn bresennol, yn ogystal â hebryngwr ffurfiol.
Os ydych chi'n ystyried dod â phartner, perthynas neu ffrind i'ch archwiliadau, mae'n gallu bod yn ddefnyddiol ystyried p'un a fyddwch chi a nhw'n teimlo'n gyfforddus gyda hyn.
Bydd yr hebryngwyr ffurfiol wedi cael ei hyfforddi ynglŷn â chyfrinachedd a byddan nhw hefyd yn gwybod beth sy'n angenrheidiol a beth sydd ddim yn angenrheidiol yn ystod y math hwn o archwiliad.
Rhaid ystyried a pharchu credoau diwylliannol, ethnig a chrefyddol, yn ogystal â hunaniaeth ryweddol a chyfeiriadedd rhywiol bob amser.
Hefyd, os ydych chi'n ystyried dod â phartner, perthynas neu ffrind i'ch archwiliadau, mae'n bosib y bydd materion y byddai'n well gennych chi eu trafod yn gyfrinachol gyda'ch meddyg.
Dim ond gyda chytundeb y claf a'r meddyg y dylai presenoldeb hebryngwr fod, a dylai hebryngwr ffurfiol fod yn bresennol bob amser yn ystod unrhyw archwiliad ar ran bersonol o'r corff.
Gallwch ofyn am gael hebryngwr a/neu i ymarferydd gofal iechyd o ryw penodol eich archwilio, a dylid caniatáu'r cais hwn lle bynnag y bo'n ymarferol.
Os yw'r clinigwr sy'n archwilio'r claf yn teimlo y dylai hebryngwr ffurfiol fod yn bresennol a bod y cynnig gweithredol yn cael ei wrthod gan y claf, efallai na fydd y clinigwr am barhau â'r archwiliad.
I blant a phobl ifanc sy'n cael archwiliadau personol, yr arfer yw bod hebryngwr ffurfiol yn bresennol yn ogystal â'r rhiant neu'r gofalwr. I bobl ifanc sy'n diffyg galluedd meddyliol, mae ganddyn nhw'r un hawliau i ganiatâd a chyfrinachedd ag oedolyn. Dydy plant ddim yn gallu bod yn hebryngwyr i oedolion na bod yn bresennol yn ystod archwiliadau o rannau personol o'r corff.