Efallai y byddwch chi'n profi rhai o'r symptomau a'r sgil-effeithiau canlynol o ganser a thriniaethau canser. Gallant amrywio o symptomau ysgafn i ddifrifol, a gallant bara ychydig ddyddiau i hyd y driniaeth.
Mae'n bwysig bwyta cystal ag y gallwch, er mwyn cynnal pwysau a maeth da, er gwaethaf cael y symptomau hyn. Gallai'r awgrymiadau canlynol eich helpu i gynnal maeth da wrth brofi'r symptomau neu'r sgil-effeithiau hyn.
Ydych chi'n poeni am y symptomau a'r sgil-effeithiau hyn? Os ydych chi'n teimlo eu bod nhw'n gymedrol i ddifrifol neu os ydyn nhw'n para'n hirach nag ychydig ddyddiau, cysylltwch â'ch tîm Oncoleg yn Felindre.