Maeth a Deieteg

Mae bwyta'n dda yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Mae angen maeth da ar eich corff i weithio'n effeithlon.

Wrth wynebu diagnosis o ganser, gall bwyta a gwybod beth i'w fwyta fod yn anodd. Ar ben hynny, wrth ystyried y swm llethol o wybodaeth sydd ar gael ar ddeiet a maeth, gall pethau eich drysu a pheri gofid.

Bydd y dudalen we hon yn rhoi ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth ddeietegol i chi.

Mae hefyd yn eich cyfeirio at y Tîm Deietig yng Ngwasanaethau Canser Felindre a'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi fel claf yma.


 


Manylion cyswllt

Dyma sut gallwch chi gysylltu â'r adran:

  • Oriau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm
  • Cyfeiriad: Maeth a Deieteg, Adran Therapïau, Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
  • Rhif ffôn: 029 2061 5888 estyniad 2214
  • Cyfeiriad e-bost: velindre.dietitians@wales.nhs.uk

Gan fod ein deietegwyr yn gweithio'n glinigol, efallai na fydd yn bosibl iddynt ateb galwadau. Gadewch neges ar y peiriant ateb a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio’n ôl yn fuan wedi hynny.


Gwybodaeth i gleifion

 


Gwybodaeth ddefnyddiol arall