Neidio i'r prif gynnwy

Therapïau

Mae ein gwasanaethau Therapïau yn cefnogi pobl â chanser cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth. Rydym yn eich helpu i aros mor egnïol, cyfforddus ac annibynnol â phosibl, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi.

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ydym ni. Ystyr hyn yw ein bod ni'n staff gofal iechyd hyfforddedig sy'n helpu gyda symud, gweithgareddau dyddiol, bwyta ac yfed, cyfathrebu, lludded a phoen. Mae ein tîm yn cynnwys deietegwyr medrus a phrofiadol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd, a chynorthwywyr therapi.

Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygon, nyrsys, radiograffwyr a thimau gofal iechyd eraill. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu gofal caredig a chydgysylltiedig sy'n eich helpu i fyw cystal â phosibl.


Ein gwaith

Ewch i'r tudalennau gwe isod i ddysgu rhagor am ein timau a'n gwasanaethau.


Gweithio gyda ni

Ydych chi'n Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sydd â diddordeb mewn oncoleg? Dysgwch ragor am weithio gyda'n tîm.