Mae microbiom eich perfedd yn cyfeirio at y triliynau o organebau bach sy'n byw yn eich perfedd sy'n chwarae rhan bwysig yn ein hiechyd. Cyfeirir atynt yn aml fel 'bacteria da'. Mae microbiom perfedd pawb yn wahanol. Deiet yw prif ddylanwad microbiom ein perfedd.
Credir y gallai cefnogi microbiom amrywiol a chytbwys trwy ddeiet chwarae rhan bwysig pan fyddwch chi'n cael triniaeth ganser. Fodd bynnag, mae angen ymchwil pellach.
Bydd dewis deiet sy'n uchel mewn ffeibr yn helpu microbiom eich perfedd. Dewiswch ddeiet gyda chymaint o fathau a lliwiau gwahanol o fwydydd grawn cyflawn, cnau, hadau, ffrwythau, llysiau a saladau â phosibl.
Bwydydd a allai fod yn niweidiol i ficrobiom eich perfedd mewn dognau mawr
- Bwydydd wedi'u prosesu'n fawr
- Bwyd cyflym a bwyd a byrbrydau wedi'u pecynnu ymlaen llaw
- Bwydydd sydd â llawer o ychwanegion, emylsyddion neu gadwolion artiffisial ar y label cynhwysion
- Siwgrau wedi’u prosesu a melysyddion
- Diodydd llawn siwgr, melysion, pasteiod, pwdinau, bisgedi
- Melysyddion artiffisial - asbartam, swcralos, sacarin
- Gormod o gig coch neu gig wedi'i brosesu
- Cig moch, selsig, cŵn poeth, cigoedd deli
- Cymeriant uchel o gig coch fel cig eidion a chig oen
- Gormod o alcohol, yn enwedig gwirodydd a choctels llawn siwgr
- Deietau ffeibr isel, fel deietau sy'n brin o ffrwythau, llysiau, neu rawn cyflawn.
Ystyriaethau Diogelwch
Nid yw pob ymyrraeth ddeietegol sy'n gysylltiedig â microbiom y perfedd yn ddiogel i bob person, er enghraifft:
- Wrth gael triniaeth cemotherapi ac/neu imiwnotherapi gweithredol, gall bwydydd eples (probiotegau) gynyddu eich risg o haint a dylid eu hosgoi.
- Gall llawer o fwydydd ffeibr uchel waethygu symptomau os oes gennych broblemau treulio neu’r coluddyn fel dolur rhydd, ymchwyddo, poenau, Clefyd Llid y Coluddyn (Crohn's neu lid briwiol y coluddyn), ileostomi, llawdriniaeth ddiweddar ar y coluddyn
- Os ydych chi'n colli pwysau'n anfwriadol neu'n methu bwyta'r swm o fwyd y byddech chi fel arfer yn ei fwyta, gall y deiet hwn gyfrannu at waethygu tanfaethiad - rhowch wybod i'ch tîm yn Felindre os ydych chi'n colli pwysau yn anfwriadol.
- Dylid osgoi dognau mawr iawn/gormodol neu osgoi unrhyw fwydydd yn llwyr