Deiet Egni Uchel – Pan nad ydych chi'n bwyta'n dda

Gall hyd at 80% o bobl sy'n cael triniaeth ganser golli pwysau'n anfwriadol neu gael anhawster bwyta digon o fwyd i gael y maeth sydd ei angen arnynt. Os mai dyma chi, mae'n annhebygol mai bwyta'n iach fydd y deiet gorau yn y tymor byr i'ch helpu chi.

Mae 'deiet egni uchel' yn uwch mewn calorïau, protein, fitaminau a mwynau. Mae'n annog adennill pwysau lle y bo modd.

Mae rhai pobl yn poeni nad yw deiet egni uchel yn ymddangos yn 'iach'. Cael digon o egni a phrotein o'ch deiet yw'r flaenoriaeth allweddol. Pan fyddwch chi'n cael triniaeth ganser, mae'n hanfodol mai’ch nod yw cynnal eich pwysau a'ch cymeriant maethol oherwydd bod colli pwysau yn niweidiol.

Os gallwch chi gyfuno bwyta'n iach a deietau egni uchel, gwnewch hynny, ond mae hyn yn aml yn heriol i'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael trafferth bwyta yn ystod triniaeth ganser. Yn y tymor hwy, os byddwch chi'n adennill eich pwysau ac yn dechrau bwyta'n dda eto, gallwch chi fwyta'n iach eto.


 


Gwybodaeth ddefnyddiol