Neidio i'r prif gynnwy

acordion datganiad hygyrchedd

13/10/20
Cysylltu â ni dros y ffôn neu'n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy RelayUK www.relayuk.bt.com. Os oes angen i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, deialwch 18001 cyn y rhif ffôn yr ydych am gysylltu ag ef.

Mae gan rai o'n hysbytai / swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, ac os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Os nad yw'ch ymweliad wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwn drefnu Dehonglydd BSL ar-lein.

Cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar:

Rhif ffôn: 18001 (os yn defnyddio Relay UK) ac yna 01554 899055
Ebost: Inclusion.hdd@wales.nhs.uk

Yn y post:
Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Partneriaethau Strategol, Bloc 6, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli SA14 8QF

 

13/10/20
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon 2.2 AA o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Fersiwn 3 cyhoeddwyd 29/11/2024

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni 'WCAG 2.2 AA', mae gennym y materion canlynol nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd:

  • Maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.7
    • Nid yw ffocws y bysellfwrdd yn hollol weladwy pan fydd yn tabio drwy'r cwymplenni ar frig y dudalen we.
    • Wrth chwyddo 200% a mwy, nid yw ffocws y bysellfwrdd yn weladwy ar ôl tabio o 'Hygyrchedd' yn y ddewislen ‘hamburger’.
  • Maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.10.
    • Wrth chwyddo 400% ac ar yr olwg symudol (320 x 256 picsel), nid yw'r eicon cwci ar waelod y dudalen we yn ail-lifo'n gywir gan ei bod yn gorchuddio cynnwys ar draws y dudalen we.
  • Maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.13
    • Wrth hofran dros gwymplenni'r bar llywio, nid oes unrhyw fecanwaith i ddiystyru'r cynnwys ychwanegol a sbardunwyd heb symud hofran pwyntydd neu ffocws bysellfwrdd.
  • Maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.3
    • Wrth chwyddo 200% a mwy, unwaith y bydd 'Chwilio' wedi'i ehangu mae’r bysellfwrdd yn tabio ar 'Cymraeg' a ‘Dewislen’ cyn tabio i'r bar 'Chwilio'.
  • WCAG 2.4.11
    • Mae angen i ddefnyddwyr sy'n llywio gwefan gan ddefnyddio bysellfwrdd wybod ble maen nhw ar dudalen. Ni ddylai elfen â ffocws gael ei chuddio gan gynnwys arall ar y sgrin.
    • Gall cydrannau fel bwydlenni, awgrymiadau o ran cwcis, a negeseuon naid guddio elfennau â ffocws ac achosi i bobl golli eu lle.
    • Pan fydd y ddewislen ‘hamburger’ ar agor wrth chwyddo 200%, a'r defnyddiwr yn tabio heibio "Hygyrchedd", mae cydrannau y tu ôl i'r ddewislen yn derbyn ffocws ond yn cael eu cuddio gan y ddewislen. Mae hyn yn berthnasol i'r logos Instagram a Facebook.
  • WCAG 1.4.3 cyferbyniad (isafswm)
    • Rhaid bod gan elfennau ddigon o gyferbyniad o ran lliw. Nid oes gan rai dolenni digon o gyfarbyniad felly.

Baich anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).

  • Papurau bwrdd neu bwyllgorau
  • Adroddiadau perfformiad a all gynnwys data adrodd / ystadegol cymhleth
  • Polisïau a gweithdrefnau wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018
  • Cyhoeddiadau wedi'u cysylltu o'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth - gan gynnwys logiau datgelu
  • Cyhoeddiadau a allai fod wedi'u cynhyrchu'n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai'n rhaid eu gosod gan drydydd parti.

Gallwch ddarllen yr Asesiad Baich Anghymesur ar ein gwefan yma.

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

  • Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.
  • Efallai na fydd rhai dyfeisiau fel tabledi yn perfformio'n llawn yn ôl y disgwyl.
  • Does dim modd o hepgor cynnwys sydd wedi ei ailadrodd ym mhennawd y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'mynd yn syth i'r prif gynnwys).
  • Nid yw'n bosibl bob tro newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
13/10/20
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar ddwy gynulleidfa wahanol:

Gwybodaeth gwasanaeth cyffredinol i'n cleifion a'r cyhoedd;

Gwybodaeth gorfforaethol/technegol sydd ar gael fel dogfen gyhoeddus er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw. Fodd bynnag, nid yw'r dogfennau hyn wedi'u hysgrifennu gyda'r cyhoedd mewn golwg.

Lle mae gwybodaeth wedi'i hanelu at ddefnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn ehangach, er enghraifft taflenni cleifion a deunyddiau ymgynghori, mae'r rhain wedi'u trosi'n dudalennau gwe HTML. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn darparu'r rhain fel PDFs neu fformatau eraill (fel Microsoft Word) ond at ddibenion llwytho i lawr yn unig.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau’r Bwrdd a Phwyllgorau, dogfennau polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd neu ddogfennaeth statudol megis Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

O bryd i’w gilydd byddwn yn cyhoeddi PDFs sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau/llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rhain y tu allan i'r cwmpas ac ni fyddant yn sefydlog.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau wedi'u hisdeitlo o fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a gynhyrchir.

13/10/20
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud cynnwys newydd mor hygyrch â phosibl.

Fel sefydliad, rydym yn:

  • gweithio gyda chydweithwyr i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hygyrchedd digidol;
  • annog y defnydd o iaith glir ac ysgrifennu cynhwysol;
  • annog y defnydd o gynnwys HTML hygyrch lle bynnag y bo modd;
  • cynorthwyo staff i greu fideos hygyrch, sy’n cynnwys isdeitlau, trawsgrifiadau gyda disgrifiadau sain;
  • gweithio gyda datblygwyr y wefan i nodi problemau pan fyddant yn codi, er mwyn ceisio eu hatgyweirio neu ddod o hyd i ddatrysiad amgen hygyrch
  • cynnal 'gwiriadau ar hap' ar dudalennau a dogfennau cyhoeddedig, i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl yn ddigidol.
13/10/20
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ym mis Rhagfyr 2024 ac fe'i hadolygir eto ym mis Mehefin 2025.

Profwyd y wefan hon ym mis Rhagfyr 2019 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cwblhawyd archwiliad mewnol pellach gan y tîm cyfathrebu ym mis Ebrill 2024.