Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe , oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Fersiwn 2, cyhoeddwyd 03/11/2022

Er ein bod yn ymdrechu i gwrdd â 'WCAG 2.1 AA' ar hyn o bryd mae gennym y materion diffyg cydymffurfio canlynol:

  • Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau, wedi’u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd wrth gael atynt trwy Dechnolegau Cynorthwyol.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Nid oes gan rywfaint o destun ddigon o gyferbynnedd â’i gefndir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, Cyferbynnedd (Lleiafswm) (Lefel AA)
  • Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  • Ni ellir defnyddio rhai rhannau o rai tudalennau yn llawn gyda’r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1, Bysellfwrdd (Lefel A)
  • Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A

Baich anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).

  • Papurau bwrdd neu bwyllgorau
  • Adroddiadau perfformiad a all gynnwys data adrodd / ystadegol cymhleth
  • Polisïau a gweithdrefnau wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018
  • Cyhoeddiadau wedi'u cysylltu o'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth - gan gynnwys logiau datgelu
  • Cyhoeddiadau a allai fod wedi'u cynhyrchu'n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai'n rhaid eu gosod gan drydydd parti.

Llywio a chyrchu gwybodaeth

  • Nid oes unrhyw ffordd i hepgor y cynnwys sy'n cael ei ailadrodd ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'sgip i'r prif gynnwys').
  • Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud hi'n anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.