Neidio i'r prif gynnwy

Nod Strategol 2

 

Darparwr o fri rhyngwladol o wasanaethau clinigol eithriadol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn rhagori arnynt

     

    Gwyliwch Jacinta Abraham, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, yn esbonio'r nod strategol hwn...

     

     

    Ein hamcanion yw:

    • cyflawni safonau gofal a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sy'n cyd-fynd â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg
    • bod yn bartner dibynadwy a dylanwadol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd lleol gwych sy'n diwallu angen
    • dod yn 'ganolfan rhagoriaeth' ac yn ddarparwr blaenllaw ar draws y DU ar gyfer y gwasanaethau tra arbenigol a ddarparwn
    • dod yn arweinydd system yn ein meysydd arbenigedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
    • nodi ystod o wasanaethau newydd y gallai'r Ymddiriedolaeth eu darparu i wella ansawdd, profiad a chanlyniadau ledled Cymru

    Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy:

    • darparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio â'r holl safonau statudol a phroffesiynol
    • gweithredu'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol i wella ansawdd, profiad a chanlyniadau'r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus
    • gweithredu ein strategaeth ymgysylltu â chleifion/rhoddwyr/dinasyddion i glywed yn barhaus yr hyn y mae pobl ei angen ac yn ei werthfawrogi o’n gwasanaethau
    • cyd-ddylunio modelau gofal mewn partneriaeth â phobl o bob rhan o’r cymunedau gyda’r nod o wella mynediad at ein gwasanaethau a darparu gofal yn y cartref neu’n agos i’r cartref lle bynnag y bo’n briodol ac yn ddymunol
    • gweithio gyda'r gymuned a'n partneriaid i leihau anghydraddoldebau mewn gofal iechyd
    • mabwysiadu’n gyflym ganlyniadau ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad gofal cleifion a rhoddwyr
    • datblygu a gweithredu ein strategaethau clinigol a gwyddonol a fydd yn nodi pa wasanaethau y byddwn yn eu darparu dros y deng mlynedd nesaf; canolbwyntio ein cynnig ar ddarparu gwasanaethau y credwn y gallwn ddod yn arbenigwyr blaenllaw ynddynt
    • cytuno â’n partneriaid yn y Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru ar y rolau arwain systemau y byddwn yn eu cyflawni er mwyn sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i’n cleifion, rhoddwyr a phartneriaid
    • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gynllunio, ariannu a darparu adeiladau, cyfleusterau a thechnoleg o safon fyd-eang ar gyfer cleifion, rhoddwyr a staff
    • meincnodi ein perfformiad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i weld sut rydym yn perfformio yn erbyn ein cymheiriaid ac i nodi dysgu a gwelliant

     

    Gwyliwch Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, yn esbonio'r nod strategol hwn...