Taflen wybodaeth am asid zoledronic (Zometa)
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw asid zoledronic. Caiff ei hadnabod fel arfer fel Zometa. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen hon.
Beth yw Zometa?
Mae Zometa yn gyffur sy’n helpu i gryfhau ac atgyweirio niwed i esgyrn a achosir gan rai canserau. Nid yw’n gyffur cemotherapi. Mae’n un o grŵp o gyffuriau o’r enw bisphosphonates. Caiff ei roi mewn drip.
Pam ydw i’n cael Zometa?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi Zometa gan ei fod yn effeithiol o ran trin cleifion sydd â chanser sydd wedi lledaenu i’r esgyrn.
Caiff ei ddefnyddio’n fwyaf cyffredin i:
Yn achlysurol, caiff ei ddefnyddio i drin osteoporosis (teneuo a gwendid yn yr esgyrn). Bydd Zometa yn cael ei roi yn lle unrhyw dabledi.
Sut caiff Zometa ei roi?
Caiff Zometa ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu fraich. Fel arall, efallai yr awgrymwn fod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu nyrs yn trafod hyn gyda chi. Mae gennym daflen sy’n rhoi mwy o wybodaeth i chi am linellau PICC.
Ble caiff fy nhriniaeth ei rhoi?
Gall Zometa gael ei roi yn Felindre, mewn ysbyty lleol, neu yn yr uned cemotherapi leol. Byddwn yn trafod hyn gyda chi.
Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn ei gymryd?
Bydd triniaeth Zometa yn cymryd oddeutu hanner awr.
Os oes rhaid i chi gael profion gwaed ar yr un diwrnod â’r driniaeth, dylech ganiatáu 2 i 3 awr.
Mae croeso i chi ddod â rhywun o aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn y mannau aros a thrin, felly nid oes lle i fwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw mannau trin yn addas ar gyfer plant ifanc.
Pa mor aml fyddaf yn cael triniaeth?
Mae’n arferol cael triniaeth Zometa unwaith bob 3 neu 4 wythnos. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae’r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgîl-effeithiau sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.
Symptomau tebyg i’r ffliw
Gall Zometa achosi symptomau tebyg i’r ffliw, fel twymyn, blinder, gwendid, cysgadrwydd, pen tost, fferdod a phoen yn eich cyhyrau, cymalau ac esgyrn. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen unrhyw driniaeth benodol arnoch, a dylai’r symptomau wella ar ôl ychydig ddiwrnodau. Fodd bynnag, gall cymryd paracetamol fod yn ddefnyddiol.
Cyfog a chwydu, colli chwant bwyd
Mae difrifoldeb hyn yn amrywio o unigolyn i unigolyn, ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn dioddef cyfog a chwydu. Os ydych yn dioddef y symptomau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs. Gallant roi meddyginiaeth gwrthgyfog i chi i’w chymryd adref.
Adweithiau’r croen
Nid yw adwaith y croen yn gyffredin iawn. Fodd bynnag, weithiau, gall y croen o gwmpas y man trwytho fod yn goch a chwyddo. Gall rhai pobl ddatblygu brech a chosi. Os yw hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs.
Llid yr amrannau
Os ydych yn datblygu llygaid coch, dolurus, sy’n cosi, siaradwch â’ch meddyg.
Newidiadau yng ngweithrediad yr arennau
Byddwch yn cael prawf gwaed bob tro rydych yn cael trwyth o Zometa. Diben y prawf hwn yw sicrhau bod cyfrif eich celloedd gwaed yn normal a byddwn hefyd yn gwirio gweithrediad eich arennau. Gall lefelau calsiwm a ffosffad yn eich gwaed fynd yn isel. Bydd eich meddyg yn monitro hyn a gall gynnig triniaeth i chi os yw hyn yn digwydd.
Sgîl-effeithiau anghyffredin
Osteonecrosis yr ên
Yn achlysurol iawn, gall sgîl-effaith anghyffredin ddigwydd gyda Zometa, pan mae asgwrn yr ên yn chwalu. Caiff ei alw’n osteonecrosis yr ên, a gall fod yn gyflwr difrifol. Dyma rai o’r symptomau:
Os ydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau a restrir uchod neu unrhyw broblemau deintyddol eraill, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs arbenigol.
Rydym yn argymell y dylech ymweld â’ch deintydd i sicrhau bod unrhyw waith deintyddol brys yn cael ei gwblhau cyn i chi ddechrau ar Zometa. Dylech bob amser ddweud wrth eich deintydd eich bod yn cael triniaeth gyda bisphosphonate.
Iechyd deintyddol
Ceisiwch gadw eich ceg yn lân ac iach bob amser. Gallwch barhau i weld eich deintydd ar gyfer eich gwiriadau arferol, rheolaidd a glanhau eich dannedd (ond nid triniaeth). Gallwch hefyd weld eich hylenydd deintyddol. Dangoswch y daflen hon iddynt, gan ei bod hi’n bwysig bod y deintydd a’r hylenydd deintyddol yn gwybod eich bod yn cymryd Zometa.
A yw’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?
Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i’ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
I gael cyngor ar frys ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos, gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
7 diwrnod yr wythnos, 8am – 8pm, ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n