Neidio i'r prif gynnwy

Transport

Cludiant Cleifion Gwasanaeth Ambiwlans Cymru –

Beth gallwch ei ddisgwyl

 

 

Amseroedd cludiant

  • Nid ydym yn gwybod pryd yn union y bydd cludiant i gleifion yn cyrraedd eich cartref. Mae galw mawr am gludiant cleifion felly bydd angen i chi fod yn barod i aros am ychydig er mwyn i ni eich casglu a mynd â chi adref.

 

  • Gall cludiant i gleifion eich casglu o’ch cartref hyd at ddwy awr cyn eich apwyntiad -

 

    • Ar gyfer apwyntiadau bore:

byddwch yn barod o 8am

 

    • Ar gyfer apwyntiadau prynhawn:

byddwch yn barod o 12pm

 

  • Peidiwch â phoeni os byddwch yn cyrraedd yn Felindre ynghynt neu’n hwyrach na’r amser ar eich cerdyn apwyntiad – gwyddom y gall cleifion sy’n teithio ar gludiant i gleifion gyrraedd ynghynt neu’n hwyrach, a’n nod fydd eich trin cyn gynted ag y gallwn.

 

  • Ar gyfer unrhyw ymholiadau ‘ar y dydd’ ynghylch eich cludiant, ffoniwch Wasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 1000 012, neu Swyddfa Gyswllt Ambiwlans Felindre ar 029 2031 6974. Ni all staff yn Felindre olrhain ambiwlansys.

 

 

Cyfrifoldebau cleifion

Helpwch ni i ddefnyddio cludiant i gleifion yn ddoeth. Er mwyn ein helpu ni, a fyddech cystal â gwneud y canlynol:

 

  • Bod yn barod pan fydd cludiant yn cyrraedd.

 

  • Os byddwch wedi trefnu cludiant a byddwch yn canslo eich apwyntiad ysbyty, sicrhewch eich bod yn canslo eich cludiant hefyd.

 

  • Rhoi gwybod i ni cyn 3:30pm ddiwrnod cyn eich apwyntiad os na fydd angen cludiant arnoch mwyach neu os ydych wedi gwneud trefniadau cludiant eraill.

 

  • Ein helpu ni i leihau hebryngwyr* os na fydd eu hangen – Deallwn fod angen hebyngrwyr meddygol ar  rai cleifion er mwyn iddynt ddod i’r ysbyty.

 

  • Cofio bod Felindre yn talu am bob claf a hebryngwr sy’n dod i Ysbyty Felindre. Os gallwch deithio’n ddiogel heb ffrind neu berthynas, gall un cerbyd gasglu mwy o gleifion.

 

  • Ceisio defnyddio eu cludiant eu hunain lle bo’n bosibl.

 *Rhywun sy’n teithio i’r ysbyty gyda chi yw hebryngwr. Gallai fod yn hebryngwr meddygol fel nyrs neu ofalwr, gallai fod yn ffrind neu’n berthynas.

 

 

 

Beth yw taith wastraff o ran cludiant cleifion?

 

Ystyrir taith drwy gludiant i gleifion yn wastraff yn achos y canlynol:

 

  • Pan gaiff ambiwlans neu gar gwirfoddolwr ei ganslo ar ôl 3:30pm ddiwrnod cyn eich apwyntiad.

 

  • Pan gaiff ambiwlans neu gar gwirfoddolwr ei ganslo ar ddiwrnod eich apwyntiad neu’ch ymweliad yn yr ysbyty.

 

  • Pan fydd ambiwlans neu gar gwirfoddolwr yn cyrraedd y tu allan i gyfeiriad ac nad oes unrhyw ymateb.

 

  • Pan fydd claf yn troi ambiwlans neu gar gwirfoddolwr o’i gartref gan nad yw’n barod i deithio.

 

  • Pan fydd claf yn mynd adref gyda ffrind neu berthynas ac yn defnyddio ei gludiant ei hun, pan fydd cludiant ambiwlans eisoes wedi’i drefnu.

 

 

Ar brydiau, ni allwch osgoi colli eich cludiant. Fodd bynnag, mae teithiau gwastraff yn costio arian i Felindre ac maen nhw’n anghyfleus i eraill.

 

 

Helpwch ni i ddefnyddio cludiant yn ddoeth

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn defnyddiol

 

 

Er mwyn canslo cludiant i gleifion, ffoniwch:

 

029 2019 6140

O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am – 4pm

 

 

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â chludiant ‘ar y diwrnod’, ffoniwch:

 

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 1000 012

 

neu

 

Swyddfa Gyswllt

Ambiwlansys Felindre 029 2031 6974

 

 

 

 

 

Os na fydd arnoch ein hangen, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl