Taflen wybodaeth ar paclitaxel (Taxol)
a carboplatin
Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw paclitaxel (Taxol) a carboplatin. Bydd y daflen yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y caiff ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.
Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi taxol a carboplatin?
Mae cemotherapi taxol a carboplatin yn cynnwys y ddau gyffur taxol a carboplatin. Mae taxol yn tarddu o risgl yr Ywen Ewropeaidd.
Pam ydw i’n cael cemotherapi taxol a carboplatin?
Mae eich meddyg wedi argymell y math hwn o gemotherapi gan y gwyddom ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?
Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Caiff y rhain eu hadnabod fel cylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o taxol a carboplatin bob 3 wythnos am hyd at 6 chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.
Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, argymhellir eich cemotherapi.
Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?
Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip mewn gwythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, gellir awgrymu bod tiwb main o’r enw llinyn PICC yn cael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi ymhellach.
Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gael copi.
Cyn eich cemotherapi, byddwn yn rhoi cyffuriau i chi trwy eich drip sy’n lleihau’r risg y byddwch yn chwydu neu’n datblygu adwaith alergaidd i’ch cemotherapi. Wedyn, byddwn yn rhoi’r Taxol i chi wedi’i ddilyn gan y carboplatin.
Pa mor hir fyddaf i yn yr ysbyty?
Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad clinig. Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi ar un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd rhyw 5 awr. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant ifanc.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Yn anffodus, bydd y cemotherapi hwn yn achosi i chi golli’ch gwallt. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gellir defnyddio dull o’r enw ‘oeri croen y pen’ neu ‘gap oer’ i atal gwallt rhag cael ei golli. Gallwn drefnu wig os hoffech gael un. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wigiau neu oeri croen y pen, siaradwch â’ch nyrs.
Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynghylch ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gael copi.
Salwch
Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Heintiau
Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Dolur rhydd
Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r math hwn o gemotherapi. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Blinder a lludded
Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Effeithiau ar nerfau eich dwylo a’ch traed
Gall taxol effeithio ar nerfau eich dwylo a’ch traed. Gallai hyn arwain at golli teimlad, goglais neu binnau. Gallai’r symptomau hyn gynyddu wrth i chi gael mwy o gylchoedd o gemotherapi. Mae’n bwysig bod yn ofalus iawn wrth amlygu eich dwylo neu’ch traed i dymereddau poeth neu oer. Mae’r symptomau hyn fel arfer yn diflannu o fewn ychydig fisoedd o orffen eich triniaeth.
Myalgia (poen yn y cyhyrau)
Efallai y bydd rhai cleifion yn cael myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu’r cymalau. Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau, ond bydd yn para am ychydig ddyddiau yn unig. Os oes gennych gyffuriau lladd poen gartref eisoes, efallai y gwelwch eu bod yn lleddfu’r poen. Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn cyswllt ar dudalen 7.
Adwaith alergaidd
Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith alergaidd i’r math hwn o gemotherapi. Os bydd hyn yn digwydd, gallech deimlo’n boeth neu gael chwiwiau poeth, cosi, teimlo’n benysgafn neu’n gyffredinol sâl wrth gael eich cemotherapi. Gellir trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn.
Mae nifer fach o gleifion yn datblygu brech goslyd rhwng triniaethau gyda taxol a carboplatin. Os yw hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad clinig nesaf.
Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.
Adolygwyd Mai 2013