Neidio i'r prif gynnwy

Pemetrexed and Carboplatin

Taflen wybodaeth am gemotherapi  pemetrexed

a carboplatin

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw pemetrexed a carboplatin. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am pemetrexed a carboplatin ar ddiwedd y daflen hon.

 

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi pemetrexed a carboplatin?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

Beth yw cemotherapi pemetrexed a carboplatin?

Triniaeth cemotherapi yw hon sy’n cynnwys dau gyffur o’r enw pemetrexed a carboplatin. Fel rhan o’ch triniaeth, byddwn hefyd yn rhoi fitaminau atodol i chi ac mae’n rhaid i chi ddechrau eu cymryd cyn eich cemotherapi.

 

 

Pam mae’n rhaid i mi gymryd y fitaminau atodol?

Bydd cymryd fitaminau cyn, yn ystod ac ar ôl pemetrexed yn lleihau’r risg o sgîl-effeithiau difrifol. Byddwn yn rhoi pigiad fitamin B12 i chi yr wythnos cyn eich cemotherapi. Caiff hyn ei ailadrodd ddwywaith yn ystod eich triniaeth. Bydd angen hefyd i chi gymryd tabledi lluosfitaminau sy’n cynnwys asid ffolig unwaith y dydd yn dechrau wythnos cyn eich cemotherapi. Mae angen cymryd y rhain unwaith y dydd yn ystod eich cemotherapi ac am dair wythnos ar ôl hynny.

 

 

A fydd angen i mi gymryd unrhyw feddyginiaeth arall cyn fy nghemotherapi?

Bydd. Byddwn yn rhoi tabledi steroid i chi o’r enw dexamethasone. 

 

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cymryd y tabledi steroid dexamethasone er mwyn lleihau rhai o’r sgîl-effeithiau sy’n gysylltiedig â’r cemotherapi hwn. Mae’n rhaid i chi gymryd y tabledi am bum niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod cyn cael eich cemotherapi. Dylech eu cymryd gyda bwyd. Mae’n bwysig iawn eu cymryd yn unol â’r cyfarwyddyd.

 

 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi?

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi.

 

 

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael triniaeth pemetrexed a carboplatin bob tair wythnos am rhwng tair a chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei osod i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd hwn yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach i chi. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos:

 

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

 

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio rhyw dair awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at hanner awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Mae’n bwysig iawn cyn dechrau eich cemotherapi:

  • Eich bod wedi cael eich pigiad fitamin B12
  • Eich bod yn cymryd eich tabledi lluosfitamin
  • Eich bod yn cymryd eich tabledi steroid dexamethasone

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, yn achos nifer fach iawn o gleifion, bydd eu gwallt yn teneuo rywfaint.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Sgîl-effeithiau eraill

Adwaith i’r croen

Gall pemetrexed achosi adweithiau neu lid i’r croen. Mae modd atal y rhain fel arfer drwy gymryd y tabledi dexamethasone yn unol â’r cyfarwyddyd. Gall defnyddio eli lleithio helpu. Os bydd y frech yn anghyfforddus, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Adwaith o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n boeth, yn goch, yn gochlyd, yn benysgafn neu’n sâl yn gyffredinol wrth gael eich carboplatin. Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau uchod.

 

Mae rhai cleifion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich apwyntiad nesaf â’r clinig.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifedd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

Sgîl-effeithiau angyffredin

Gall pemetrexed achosi rhai problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau eich cemotherapi.

 

 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?  

Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i’ch meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd unrhyw gyffuriau lleddfu poen gan na ddylech gymryd rhai tabledi gwrthlidiol gyda pemetrexed.

 

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg hefyd os ydych wedi cael brechlyn y Dwymyn Felen.

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy dros gyfnod o 24 awr sy’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi
  • Bod gennych frech anghyfforddus ar y croen

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

Paratowyd  Rhagfyr 2010    

Adolygwyd Awst 2013