Neidio i'r prif gynnwy

pemetrexed a cisplatin

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw pemetrexed and cisplatin. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi pemetrexed a cacisplatin?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

Beth yw cemotherapi  pemetrexed a cisplatin?

Triniaeth sy’n cynnwys dau gyffur o’r enw pemetrexed a cisplatin yw hon. Fel rhan o’ch triniaeth, byddwn hefyd yn rhoi fitaminau atodol i chi a bydd yn rhaid i chi eu cymryd cyn dechrau ar eich cemotherapi.

 

Pam mae’n rhaid i mi gymryd y fitaminau atodol?

Bydd cymryd fitaminau cyn cymryd pemetrexed, yn ogystal ag wrth ei gymryd ac ar ôl hynny, yn lleihau’r risg o sgîl-effeithiau difrifol. Byddwn yn rhoi pigiad fitamin B12 i chi wythnos cyn eich cemotherapi. Caiff hyn ei ailadrodd ddwywaith yn ystod eich triniaeth. Bydd angen hefyd i chi gymryd tabledi lluosfitamin yn cynnwys asid ffolig unwaith y dydd gan ddechrau wythnos cyn eich cemotherapi. Mae angen cymryd y rhain bob dydd yn ystod eich cemotherapi ac am dair wythnos wedi hynny.

 

 

A fydd angen i mi gymryd unrhyw feddyginiaeth arall cyn fy nghemotherapi?

Bydd. Byddwn yn rhoi tabledi steroid i chi o’r enw dexamethasone. 

 

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cymryd y tabledi steroid dexamethasone er mwyn lleihau rhai o’r sgîl-effeithiau sy’n gysylltiedig â’r cemotherapi hwn. Mae’n rhaid i chi gymryd y tabledi am bum niwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod cyn  cael eich cemotherapi. Dylech eu cymryd gyda bwyd. Mae’n bwysig iawn eu cymryd yn unol â chyfarwyddyd.

 

 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi?

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Gallai un o’r profion gwaed hyn gynnwys EDTA. Prawf gwaed yw hwn sy’n ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â chemotherapi. Os bydd eich meddyg yn penderfynu bod angen EDTA arnoch, bydd angen i chi fod yn barod i aros yn yr ysbyty am rhwng pedair a phump awr.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael triniaeth pemetrexed a cisplatin bob tair wythnos am chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi. Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos:

 

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

 

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio rhyw saith awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hanner awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog, hylifau a’ch cemotherapi i chi.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Mae’n bwysig iawn cyn dechrau eich cemotherapi:

  • Eich bod wedi cael eich pigiad fitamin B12
  • Eich bod yn cymryd eich tabledi lluosfitamin
  •  Eich bod yn cymryd eich tabledi steroid dexamethasone

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai pobl yn teneuo rywfaint.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf EDTA y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau’r driniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

 

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

 

 

Sgîl-effeithiau eraill

Brech i’r croen

Gall pemetrexed achosi brech neu lid i’r croen. Mae modd atal hyn fel arfer drwy gymryd y tabledi dexamethasone yn unol â’r cyfarwyddyd. Mae’n bosibl y bydd defnyddio eli lleithio’n helpu. Os bydd y frech yn anghyfforddus, cysylltwch â Chyngor Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

 

Effeithiau ar eich nerfau

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n cael newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

 

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau a gallai hyn fod yn barhaol. 

 

Mae rhai clefion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich apwyntiad nesaf â’r clinig.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

 

Sgîl-effeithiau anghyffredin

Gall pemetrexed achosi rhai problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi.

 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill? ?

Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd unrhyw gyffuriau lleddfu poen gan na ddylech gymryd rhai tabledi gwrthlidiol ynghyd â pemetrexed. 

 

 

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich meddyg hefyd os ydych wedi cael brechlyn y Dwymyn Felen yn ddiweddar.

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy dros gyfnod o 24 awr sy’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi
  • Bod gennych frech anghyfforddus ar y croen

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

Adolygwyd Chwefror 2013