547, A1023, A1600, A1162
Taflen wybodaeth ynghylch Pembrolizumab, Paclitaxel, Carboplatin, Epirubicin a Cyclophosphamide
Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am Paclitaxel, Carboplatin, Pembrolizumab, Epirubicin a Cyclophosphamide. Bydd yn egluro beth yw hyn, a phryd a sut mae’n cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau posibl. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Pembrolizumab, Carboplatin, Paclitaxel, Epirubicin a Cyclophosphamide ar gael ar ddiwedd y daflen.
Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'. Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.
Mae eich 'tîm arbenigol' yn cyfeirio at eich tîm oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre sy'n cynnwys meddygon, nyrsys arbenigol a rhagnodwyr annibynnol anfeddygol a all fod yn nyrs neu'n fferyllydd.
Beth yw Pembrolizumab, Carboplatin, Paclitaxel, Epirubicin a Cyclophosphamide?
Mae hwn yn gwrs o driniaeth sy'n cynnwys pum cyffur. Dyma amserlen y driniaeth:
Pembrolizumab, Carboplatin a Paclitaxel am hyd at bedwar cylch, ac wedyn Pembrolizumab, Epirubicin a Cyclophosphamide (EC) am hyd at bedwar cylch. Yna mae Pembrolizumab yn parhau ar ôl llawdriniaeth.
Mae Pembrolizumab yn wrthgorff artiffisial sy'n glynu wrth gelloedd canser ac yn eu hatal rhag tyfu. Mae'n imiwnotherapi ac mae'n gweithio trwy helpu'r system imiwnedd i ymosod ar y celloedd canser. Nid cemotherapi mohono.
Mae’r holl driniaethau sy’n cael eu trafod uchod yn cael eu rhoi mewn drip.
Pam rydw i'n cael Pembrolizumab, Carboplatin, Paclitaxel, Epirubicin a Cyclophosphamide?
Mae eich tîm wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn am ei fod wedi’i weld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.
Pa mor aml fydda i’n cael Pembrolizumab, Carboplatin, Paclitaxel, Epirubicin a Cyclophosphamide?
Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Yr enw ar y rhain yw cylchoedd.
Fe gewch chi Paclitaxel bob wythnos, ochr yn ochr â Pembrolizumab a Carboplatin bob tair wythnos am hyd at 12 wythnos. Yna byddwch chi’n cael Pembrolizumab, Epirubicin a Cyclophosphamide (EC) bob tair wythnos am hyd at bedwar cylch.
Ar ôl ichi gael eich llawdriniaeth, byddwch chi wedyn yn cael Pembrolizumab bob chwe wythnos am bum cylch. Y llawdriniaeth fydd yn pennu’r dyddiad dechrau ar gyfer hyn.
Bydd eich tîm arbenigol yn cadarnhau faint o gylchoedd y dylech eu cael.
Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?
Byddwch chi’n cael eich adolygu gan eich tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch chi naill ai'n gweld eich tîm arbenigol mewn clinig neu yn siarad â nhw'n rhithwir.
Fe gewch chi brofion gwaed cyn pob triniaeth, a byddwn yn gwirio sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.
Sut fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?
Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen. Fe allen ni awgrymu bod tiwb mân o'r enw llinell PICC, neu linell ganolog amgen, yn cael eu gosod.
Bydd y llinellau hyn yn aros yn eu lle trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi ac yn rhoi taflen ichi, os oes angen.
Ble fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?
Mae’r triniaethau yn cael eu rhoi yn y mannau triniaeth achosion dydd yng Nghanolfan Ganser Felindre, neu yn un o'n Clinigau Allgymorth SACT.
Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?
Bydd eich triniaeth ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad clinig. Bydd eich triniaeth yn cymryd tua:
Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Os dewiswch ddefnyddio system oeri croen y pen bydd angen ichi ganiatáu awr a hanner yn ychwanegol ar gyfer pob ymweliad i gael triniaeth.
Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?
Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Gall y tîm roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae Pembrolizumab yn gyffur newydd felly efallai fod yna rai sgil-effeithiau sy'n brin. Os byddwch chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr a ydy hynny'n gysylltiedig â'r driniaeth hon, cysylltwch â’r llinell gymorth triniaeth yn Felindre. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os cewch eich derbyn i ysbyty arall, rhaid ichi hysbysu'r meddygon a'r nyrsys eich bod yn cael pembrolizumab. Mae’n bosibl y gallech fod wrthi’n cael adwaith imiwn ac efallai y bydd arnoch chi angen meddyginiaeth benodol. Mae angen i'r meddygon a'r nyrsys gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Gallan nhw naill ai ffonio’r llinell gymorth triniaeth neu siarad â'ch oncolegydd.
Byddwch yn cael cerdyn rhybuddio: dangoswch hwn i'r nyrsys neu'r meddygon os cewch eich derbyn i unrhyw ysbyty.
Colli gwallt
Mae EC a Paclitaxel yn achosi colli gwallt. Rhywbeth dros dro yn unig yw hyn. Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Mae modd defnyddio dull o’r enw 'oeri croen y pen' neu 'gap oer' i atal colli gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech chi gael un. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wigiau neu oeri croen y pen, siaradwch â'ch nyrs.
Cyfogi
Haint
Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon.
Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o gael sepsis. Gall hyn beryglu bywyd.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch chi’n datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Dolur rhydd
Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda'r driniaeth hon. Ond, os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Blinder a lludded
Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer. Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys
Adwaith o fath alergaidd
Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith i paclitaxel sy’n debyg i adwaith alergaidd. Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth gael paclitaxel. Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau uchod.
Niwed i'r croen a’r feinwe
Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os byddan nhw’n gollwng y tu allan i'ch gwythïen. Yr enw ar hyn yw elifiad. Mae'n eithriadol o brin ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod. Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs. Os byddwch chi’n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Adweithiau ar y croen
Defnyddiwch eli golchi corff ac eli lleithio heb bersawr i helpu i atal adweithiau ar y croen.
Gall adwaith ar y croen gyda pembrolizumab achosi brech sy'n sych ac yn cosi ac achosi anghysur ysgafn.
I nifer fach o bobl gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, gallai fod yn boenus a gallai gael ei heintio.
Os byddwch chi’n datblygu brech ddifrifol dylech gysylltu â’r llinell gymorth triniaeth; mae'r rhif ar ddiwedd y daflen.
Poen yn y gwythiennau a fflebitis
Gall cemotherapi epirubicin achosi rhywfaint o lid i'r wythïen wrth iddo gael ei chwistrellu. Os ydych chi'n cael triniaeth trwy nodwydd a drip yn eich llaw neu’ch braich efallai y byddwch chi'n sylwi ar rywfaint o anghysur adeg y pigiadau cemotherapi. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os bydd hyn yn digwydd.
I nifer fach o gleifion gall y llid hwn yn y gwythiennau arwain at rywfaint o dynerwch, caledwch a chreithiau yn yr wythïen a all bara am wythnosau neu fisoedd ar ôl y driniaeth. Mae modd lleihau'r risg o hyn trwy newid y fraich y mae’r cemotherapi yn cael ei roi ynddi bob yn ail. Bydd cael cemotherapi trwy linell PICC yn atal y broblem hon.
Newidiadau yn lliw eich wrin
Bydd epirubicin yn rhoi lliw coch ar eich wrin yn ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para fwy na 24 awr, cysylltwch â'r llinell gymorth triniaeth. Mae'r rhif ar ddiwedd y daflen.
Effeithiau ar eich calon
Mae epirubicin yn gallu achosi problemau gyda'r galon i nifer fach o gleifion. Os oes gennych chi broblem ar y galon yn barod, dywedwch wrth y tîm cyn ichi ddechrau triniaeth. Os cewch chi unrhyw broblemau newydd gyda diffyg anadl, crychguriadau'r galon neu boen yn y frest dylech geisio sylw meddygol brys.
Effeithiau ar nerfau eich dwylo a'ch traed
Gall Paclitaxel effeithio ar nerfau eich dwylo a'ch traed. Gall hyn arwain at golli teimlad, tinglo neu binnau bach. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig oherwydd efallai y bydd angen inni newid eich triniaeth.
Gall y symptomau hyn gynyddu wrth ichi gael mwy o gylchoedd o gemotherapi. Os cewch chi’r symptomau hyn, mae'n bwysig bod yn hynod ofalus wrth amlygu'ch dwylo a'ch traed i dymheredd poeth neu oer. Mae'r symptomau hyn fel arfer yn diflannu o fewn ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.
Cadw hylif
Mae'n bosibl y byddwch chi'n gweld eich bod chi’n cadw hylif, sy’n gallu arwain at chwyddo yn eich pigyrnau a'ch coesau. Yn anaml gall hyn arwain at ddiffyg anadl oherwydd hylif ar yr ysgyfaint. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os yw hyn yn broblem.
Effeithiau ar eich hormon thyroid
Gall pembrolizumab naill ai cynyddu neu ostwng lefel yr hormon thyroid. Byddwn yn monitro hyn yn gyson gyda phrofion gwaed. Os bydd eich hormon thyroid yn cynyddu, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy pryderus ac yn cael anhawster cysgu, yn cael pyliau o wres neu guriad calon cyflym, gan deimlo'n flinedig iawn. Os bydd eich hormon thyroid yn gostwng byddwch yn teimlo'n flinedig, yn teimlo'r oerfel yn hawdd, efallai y byddwch chi’n magu pwysau ac yn mynd yn rhwym.
Myalgia (poen yn y cyhyrau)
Ar ôl paclitaxel gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau. Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para. Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen. Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Beichiogrwydd a bwydo ar y fron
Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad yn ystod eich cwrs o driniaeth cemotherapi, neu am o leiaf chwe mis ar ôl y driniaeth. Y rheswm am hyn yw y gall cemotherapi niweidio plentyn sydd heb ei eni.
Rydyn ni’n cynghori na ddylech chi fwydo ar y fron yn ystod cemotherapi gan y gallai'r cyffuriau gael eu trosglwyddo i faban trwy laeth y fron.
Risg o glotiau gwaed
Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach. Mae'n bwysig ceisio cymorth meddygol ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest.
Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn. Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed. Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi
Yr alcohol mewn paclitaxel
Mae paclitaxel yn cynnwys alcohol. Os yw cael alcohol yn broblem ichi, dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae’n bosibl y bydd lefel yr alcohol yn eich gwaed yn uwch na’r terfyn cyfreithiol ar ôl ichi gael paclitaxel. Peidiwch â gyrru na gweithredu peiriannau am ychydig oriau ar ôl cael y driniaeth hon, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iawn.
Sgil-effeithiau eraill sy’n gysylltiedig â chemotherapi:
Bydd eich tîm yn monitro’ch gwaed i weld sut mae’ch arennau'n gweithio, gan y gall Carboplatin effeithio ar eich arennau weithiau.
Gall carboplatin effeithio ar eich clyw hefyd, felly rhowch wybod i'ch tîm os oes gennych chi gloch fach yn eich clustiau neu golled clyw.
Sgil-effeithiau eraill sy’n gysylltiedig â Pembrolizumab
Gall nifer fach o bobl brofi problemau ysgyfaint yn dilyn triniaeth pembrolizumab. Os byddwch chi’n datblygu peswch sych neu'n sylwi eich bod yn fyr eich gwynt, rhowch wybod i'ch tîm arbenigol.
Efallai y bydd rhai cleifion yn gweld y gall y driniaeth hon effeithio ar eich golwg.
Efallai y byddwch chi’n cael cur pen tra byddwch chi ar y driniaeth hon. Ceisiwch gymryd pa boenladdwyr bynnag y byddech chi’n eu cymryd fel arfer. Os na fydd y rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu'ch Meddyg Teulu i gael cyngor.
Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.
Gall sgil-effeithiau barhau am hyd at 18 mis ar ôl y driniaeth. Os cewch chi unrhyw sgil-effeithiau, cysylltwch â’r llinell gymorth triniaeth. Os cewch eich derbyn i'r ysbyty neu os gwelwch chi’ch meddyg teulu yn ystod y cyfnod hwn, rhowch wybod i'r meddyg eich bod chi wedi cael Pembrolizumab, sef therapi imiwn, a rhowch eich cerdyn rhybuddio iddyn nhw.
Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion
Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:
Adran fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell gymorth rhadffôn Macmillan 0808 808 0000
Llinell gymorth canser rhadffôn Tenovus 0808 808 1010
Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.
|