Neidio i'r prif gynnwy

Pembrolizumab

Taflen wybodaeth ar driniaeth pembrolizumab

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth a elwir yn pembrolizumab.  Bydd yn egluro beth yw hyn, a phryd a sut y bydd yn cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw pembrolizumab?

Mae Pembrolizumab yn wrthgorff artiffisial sy'n glynu wrth gelloedd canser ac yn eu hatal rhag tyfu.  Imiwnotherapi ydyw, sy'n gweithio trwy helpu'r system imiwnedd i ymosod ar y celloedd canser. Nid cemotherapi ydyw.

 

Pam ydw i'n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r driniaeth hon oherwydd canfuwyd ei bod yn effeithiol wrth drin eich math o ganser.

 

Pa mor aml y byddaf yn cael y driniaeth hon? 

Byddwch yn cael y driniaeth hon naill ai bob 3 neu 6 wythnos. Bydd eich meddyg yn trafod pa mor aml y byddwch yn ei chael ac am ba mor hir y byddwch yn cael eich triniaeth.

 

Sut fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich.

Fel arall, os yw'n anodd dod o hyd i wythïen, efallai yr awgrymir gosod tiwb mân o'r enw PICC i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach, os oes angen.

 

Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC os oes angen.

 

Pa mor hir y byddaf yn yr ysbyty?

Dylech fod yn barod i dreulio 1 – 2 awr yn yr ysbyty ar gyfer eich triniaeth gyntaf, ac oddeutu 1 awr ar gyfer y triniaethau sy’n dilyn.

 

A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Fel arfer cewch eich adolygu'n rheolaidd gan eich tîm arbenigol naill ai wyneb yn wyneb neu ymgynghoriad dros y ffôn. Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y byddant yn eich gweld.  Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae llawer o sgîl-effeithiau posibl gyda'r driniaeth hon, rydym wedi disgrifio'r prif sgîl-effeithiau isod. Fodd bynnag, gan fod hwn yn gyffur newydd efallai y bydd rhai sgîl-effeithiau sy'n brin. Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr a yw'n gysylltiedig â'r driniaeth hon, cysylltwch â Felindre. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

 

Os cewch eich derbyn i ysbyty arall, rhaid ichi hysbysu'r meddygon a'r nyrsys eich bod chi’n cymryd pembrolizumab.  Mae’n bosibl y gallech fod yn cael adwaith imiwn, a dylid eich dechrau ar steroidau. Mae angen i'r meddygon a'r nyrsys gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Gallan nhw naill ai ffonio’r llinell gymorth triniaeth neu siarad â'ch oncolegydd.

 

Byddwch yn cael cerdyn rhybudd: dangoswch hwn i'r nyrsys neu'r meddygon os byddwch yn cael eich derbyn i unrhyw ysbyty.

 

Colli gwallt

Ni ddylai'r driniaeth hon achosi colli gwallt.

 

Blinder a lludded

Gall y driniaeth hon wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys. Fodd bynnag, os ydych yn mynd yn fwyfwy blinedig, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth; mae'r rhif ar ddiwedd y daflen.

 

Adweithiau ar y croen

Defnyddiwch eli golchi corff ac eli lleithio heb bersawr i helpu i atal adweithiau ar y croen.

Gall adwaith ar y croen gyda pembrolizumab achosi brech sy'n sych ac yn cosi ac achosi anghysur ysgafn.

I nifer fach o bobl gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol.  Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, gallai fod yn boenus a gallai gael ei heintio.

Os byddwch chi’n datblygu brech ddifrifol dylech gysylltu â’r llinell gymorth triniaeth; mae'r rhif ar ddiwedd y daflen.

 

 

 

Effeithiau ar eich coluddion

Mae'n hysbys bod y driniaeth hon yn achosi naill ai rhwymedd neu ddolur rhydd. 

  • Os ydych chi'n profi rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylifau rydych chi'n eu hyfed.  Efallai y bydd angen carthyddion arnoch.  Gallwch siarad â ni neu eich meddyg teulu am gyngor.

 

  • Os ydych chi'n profi dolur rhydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. 

 

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd pan fyddwch chi gartref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Cadw hylif

Mae'n bosibl y byddwch chi'n gweld eich bod chi’n cadw hylif, sy’n gallu arwain at chwyddo yn eich pigyrnau a'ch coesau.  Yn anaml gall hyn arwain at ddiffyg anadl oherwydd hylif ar yr ysgyfaint.  Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os yw hyn yn broblem.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.   Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Effeithiau ar eich hormon thyroid

Gall pembrolizumab naill ai cynyddu neu ostwng lefel yr hormon thyroid.  Byddwn yn monitro hyn yn gyson gyda phrofion gwaed.  Os bydd eich hormon thyroid yn cynyddu, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy pryderus ac yn cael anhawster cysgu, yn cael pyliau o wres neu guriad calon cyflym, gan deimlo'n flinedig iawn.  Os bydd eich hormon thyroid yn gostwng byddwch yn teimlo'n flinedig, yn teimlo'r oerfel yn hawdd, efallai y byddwch chi’n magu pwysau ac yn mynd yn rhwym.

 

Sgil-effeithiau eraill

Gall nifer fach o bobl brofi problemau ysgyfaint yn dilyn triniaeth pembrolizumab.  Os byddwch yn datblygu peswch sych neu'n sylwi eich bod yn fyr eich gwynt, dywedwch wrthym yn ystod eich ymweliad nesaf â'r ysbyty.

 

Efallai y bydd rhai cleifion yn gweld y gall y driniaeth hon effeithio ar eich golwg.

 

Efallai y byddwch chi’n cael cur pen tra byddwch chi ar y driniaeth hon.  Ceisiwch gymryd pa bynnag boenladdwyr y byddech chi’n eu cymryd fel arfer.  Os na fydd y rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu'ch Meddyg Teulu i gael cyngor.

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu'n dod yn dad tra byddwch yn cael y driniaeth hon, oherwydd gallai niweidio'r babi heb ei eni.   

 

Yn anaml, gall pobl sy'n cael y driniaeth hon brofi diffyg anadl.  Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych chi broblem ysgyfaint yn barod.  Os hoffech drafod hyn ymhellach, siaradwch â'ch meddyg.

 

Mae’n bosibl y bydd nifer fach o gleifion yn gweld bod ganddynt lai o allu i frwydro yn erbyn haint.

 

Weithiau, gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest. 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.    Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth ichi

 

 

Gall sgil-effeithiau barhau am hyd at 18 mis ar ôl y driniaeth.  Os oes gennych unrhyw sgil-effeithiau, cysylltwch â’r llinell gymorth driniaeth. Os cewch eich derbyn i'r ysbyty neu os gwelwch chi’ch meddyg teulu yn ystod y cyfnod hwn, rhowch wybod i'r meddyg eich bod chi wedi cael Pembrolizumab, sef therapi imiwn, a rhowch eich cerdyn rhybuddio iddyn nhw.

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain ac am y sgil-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk.  Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Rhadffôn Tenovus                         0808 808 1010

llinell gymorth canser

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Awst 2014 plain-english (3)Adolygwyd Ebrill 2020