Neidio i'r prif gynnwy

Pazopanib

Taflen wybodaeth ar driniaeth pazopanib

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw pazopanib.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am pazopanib ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw pazopanib?

Cyffur gwrth-ganser yw pazopanib.  Nid cemotherapi mohono.  Mae'n gweithio drwy arafu neu atal y canser rhag tyfu.

Mae pazopanib yn cael ei roi ar ffurf tabledi.

 

Pam ydw i'n cael pazopanib?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi pazopanib oherwydd canfuwyd ei fod yn effeithiol wrth reoli eich math o ganser.

 

Pa mor aml y byddaf yn derbyn fy pazopanib?

Rhoddir pazopanib bob dydd. 

 

Bydd y driniaeth yn parhau cyhyd ag y byddwch yn ymdopi â hi, a’i bod yn gweithio'n dda.

 

Byddwch yn cael apwyntiad clinig bob 4 wythnos, i adolygu sut rydych chi’n ymdopi â'ch triniaeth.

Sut i gymryd y tabledi pazopanib?

Dylid cymryd tabledi pazopanib unwaith y dydd gyda gwydraid o ddŵr.  Ceisiwch gymryd y tabledi tua'r un amser bob dydd.  Dylech gymryd y tabledi pazopanib ar stumog wag, naill ai awr cyn bwyd, neu ddwy awr ar ôl bwyd.  Peidiwch â malu na chnoi'r tabledi.

 

Ni ddylech fwyta grawnffrwyth nac yfed sudd grawnffrwyth tra'n cymryd pazopanib.  Mae hyn oherwydd y gallai ymyrryd â'r ffordd y mae pazopanib yn gweithio, a chynyddu'r risg o sgîl-effeithiau.

 

Faint o dabledi fydd angen imi eu cymryd?

Bydd hyn yn amrywio ar gyfer pob person.  Mae yna 2 dabled cryfder gwahanol.  Mae'r tabledi yn 200mg a 400mg.  Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd cyfuniad o dabledi.  Bydd y nifer mae angen ichi eu cymryd yn cael ei nodi'n glir ar y bocsys.  Cofiwch wirio pob bocs i weld faint o dabledi sydd angen ichi eu cymryd.

 

Sut ddylwn i storio’r tabledi pazopanib?

Dylai eich tabledi gael eu storio yn eu pecyn gwreiddiol, mewn man diogel i ffwrdd o afael plant.  Dylen nhw gael eu cadw mewn lle sych ac oer.

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel.

 

A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl a allai ddigwydd gyda thriniaeth pazopanib.  Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi, neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Rydym wedi amlinellu'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin, ond nid ydym wedi cynnwys y rhai sy'n brin ac felly'n annhebygol o effeithio arnoch chi. Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw effeithiau nad ydynt wedi'u rhestru yma, trafodwch nhw gyda'ch meddyg neu nyrs arbenigol.

Pwysedd gwaed uchel 

Gall pazopanib achosi cynnydd mewn pwysedd gwaed mewn rhai pobl.  Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio cyn i chi ddechrau eich triniaeth, ac yn rheolaidd yn ystod eich triniaeth.  Fel arfer, gellir rheoli pwysedd gwaed uchel gyda thabledi sydd yn cael eu rhagnodi gan eich meddyg.  Os na chaiff eich pwysedd gwaed ei reoli, efallai y bydd eich triniaeth yn cael ei stopio.

 

Gwallt yn newid

Gall triniaeth pazopanib effeithio ar liw eich gwallt, a allai droi’n llwyd neu'n wyn.  Efallai y bydd eich gwallt yn mynd yn deneuach, ond ni ddylai wneud i chi golli'ch gwallt yn llwyr. 

 

Newidiadau i’r croen

Efallai y byddwch yn sylwi ar newidiadau yn lliw eich croen, a allai droi’n felyn o ran tôn.

Gall newidiadau eraill i'r croen gynnwys brech, cochni, sychder a chosi.  Dywedwch wrth eich meddyg neu eich nyrs os byddwch yn sylwi ar unrhyw adweithiau i’ch croen, oherwydd efallai y byddwn yn gallu rhoi eli a golchdrwythau i chi i’ch helpu gyda hyn.

 

Cyfogi

Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n sâl tra'n cymryd pazopanib ond fel arfer, gellir rheoli hyn yn dda gyda meddyginiaeth gwrth-gyfog.  Os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrth-gyfog yn rheolaidd, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi pazopanib, a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Efallai y cewch ddolur rhydd gyda'r driniaeth hon.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn ysgarthu bedair gwaith neu fwy mewn 24 awr, sy’n fwy na'r hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Gall triniaeth pazopanib wneud i chi deimlo'n fwy blinedig na’r arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn, yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Gall eich meddyg ragnodi cegolch neu feddyginiaeth i helpu gyda hyn.

 

Mae rhai pobl yn gweld bod eu ceg yn rhy sensitif ar gyfer past dannedd arferol.  Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch ddefnyddio past dannedd plant ysgafn.

 

Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn neu os ydych yn cael trafferth bwyta ac yfed, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi pazopanib, a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Dolur i'ch dwylo a'ch traed

Efallai y byddwch chi'n profi poen ysgafn, cochni, chwyddo a phothelli yn eich dwylo neu'ch traed.  Gall hufenau lleithio helpu os bydd hyn yn datblygu.

 

Clotiau gwaed

Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest. 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgil-effeithiau eraill

Yn anaml iawn, gall rhai pobl sy'n cael pazopanib brofi problemau gyda'r galon, fel poen yn y frest neu grychguriadau'r galon.  Os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau eich triniaeth. 

 

Gall pazopanib wneud i'ch thyroid weithio'n llai effeithiol, a allai wneud i chi deimlo'n flinedig iawn.  Byddwn yn gwirio pa mor dda mae eich thyroid yn gweithio yn ystod eich triniaeth.

 

Mae risg fach y bydd pazopanib yn lleihau gallu eich corff i frwydro yn erbyn haint.  Os byddwch yn datblygu tymheredd uchel neu unrhyw arwyddion o haint, ffoniwch eich meddyg teulu.

 

Gall pazopanib gynyddu eich siawns o gael clot gwaed.  Os ydych chi'n fyr eich anadl neu os oes gennych boen yn eich breichiau neu'ch coesau, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu eich meddyg teulu ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Weithiau, ond dim yn aml iawn, gall cleifion ddatblygu cyflwr o'r enw Enseffalopathi. Mae symptomau’n cynnwys cur pen, syrthni, dryswch, aflonyddwch gweledol neu mae’n gallu effeithio ar y system nerfol. Weithiau, gall cleifion brofi trawiad.  Mae hyn yn gallu bod yn angheuol os nad yw’n cael ei reoli. Rhowch wybod i'r llinell gymorth driniaeth os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Cyflwr prin arall yw llid yr ysgyfaint (niwmonitis).  Os ydych chi'n profi diffyg anadl, peswch neu’n cael anhawster yn anadlu, ffoniwch y llinell gymorth driniaeth.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu'n dod yn dad tra byddwch yn cael y driniaeth hon, oherwydd gallai niweidio'r babi heb ei eni. 

 

A yw’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda pazopanib?

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau, fitaminau neu feddyginiaethau llysieuol eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.  Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod yn rhaid ichi eu hosgoi. 

 

Weithiau, gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn, sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi’n pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain ac am y sgil-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth os ydych chi’n sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio os fyddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • yn ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr, yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi
  • â cheg ddolurus iawn
  • â dwylo neu draed poenus iawn

 

Fferyllfa              029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau.

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

 

Mae'r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg hefyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

Paraotwyd Rhagfyr 2010   

Adolygwyd Tachwedd 2017