Neidio i'r prif gynnwy

Panitumumab gydag oxaliplatin, 5 fluorouracil ac asid ffolinig (OxMdG)

Taflen wybodaeth ar panitumumab gydag oxaliplatin, 5 fluorouracil ac asid ffolinig (OxMdG)

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth a elwir yn panitumumab gydag oxaliplatin, 5 fluorouracil (5-FU) ac asid ffolinig.  Bydd yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd yn dweud wrthych chi hefyd am y sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw panitumumab gydag oxaliplatin, 5-FU ac asid ffolinig?

Mae hon yn driniaeth sy'n cynnwys cyfuniad o gyffuriau sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd i drin eich canser.

 

  1. Panitumumab Gwrthgorff artiffisial yw hwn sy'n glynu wrth gelloedd canser ac sy’n eu hatal rhag tyfu.  Mae hefyd yn helpu eich system imiwnedd eich hun i ladd y celloedd canser.  Nid cemotherapi mohono. 

 

  1. Triniaeth cemotherapi Mae'r rhan hon o'ch triniaeth yn cynnwys tri chyffur.  Mae dau gyffur cemotherapi o'r enw oxaliplatin ac 5-FU.  Gelwir y cyffur arall yn asid ffolinig.  Nid cyffur cemotherapi yw hwn, ond mae'n helpu'r 5-FU i weithio'n well.  Gyda'i gilydd, gelwir y cyffuriau hyn yn oxaliplatin a deGramont wedi'i addasu neu OxMdG yn gryno.

 

Pam ydw i'n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r driniaeth hon oherwydd canfuwyd ei bod yn effeithiol wrth drin eich math o ganser.


Pa mor aml y byddaf yn cael y driniaeth hon? 

Er mwyn i'r driniaeth gael yr effaith fwyaf, fe'i rhoddir ar gyfnodau amser penodol.  Gelwir y rhain yn gylchoedd.  Mae'n arferol cael cylch o driniaeth bob pythefnos. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch chi’n eu cael gyda chi.

 

Byddwch yn cael y cemotherapi a'r panitumumab ar ddiwrnod cyntaf pob cylch 2 wythnos.

 

Sut y bydd fy nhriniaeth cemotherapi yn cael ei rhoi?

I gael y driniaeth hon, bydd angen i chi gael tiwb mân wedi'i roi yn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gelwir y tiwb hwn yn llinell PICC.  Fel arfer, bydd eich llinell PICC yn cael ei rhoi tuag wythnos cyn i chi ddechrau eich triniaeth.  Bydd yn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg yn esbonio hyn yn fwy manwl. 

 

Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC. Gofynnwch os hoffech chi gael copi

 

 

 

 

Pa mor aml fydd yn rhaid i mi ymweld â'r ysbyty?

Byddwch yn ymweld â’r ysbyty 3 gwaith ym mhob cylch o bythefnos:

 

Apwyntiad clinig claf allanol - Byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi.  Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich triniaeth yn cael ei rhagnodi ar gyfer diwrnod 1.  Mae'r apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich triniaeth fel arfer.

 

Apwyntiad panitumumab a chemotherapi - Byddwch yn treulio tua 6 awr yn un o'r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at hanner awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf.  Byddwch yn mynd adref gyda'ch pwmp cludadwy sy'n cynnwys 5-FU.

 

Datgysylltu’r pwmp - 2 ddiwrnod yn ddiweddarach, byddwch yn dychwelyd i gael eich pwmp cludadwy wedi'i ddatgysylltu.  Dylai hyn gymryd tua hanner awr.

 

A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

 

 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a allai ddigwydd gyda'r driniaeth hon.  Gall y meddygon, nyrsys a fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd pan fyddwch chi gartref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o gael sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd, neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Efallai y cewch chi ddolur rhydd.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Gall y driniaeth hon wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys

 

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Adweithiau ar y croen

Mae'r rhan fwyaf o bobl (mwy nag 90%) yn profi adwaith ar y croen gyda panitumumab.  Mae hon fel arfer yn frech o fath acne a all fod yn sych ac yn cosi ac achosi anghysur ysgafn.  I nifer fach o bobl, gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol.  Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, gallai fod yn boenus a gallai gael ei heintio.

 

Er mwyn lleihau'r posibilrwydd o adwaith difrifol ar y croen, rydym yn awgrymu’r canlynol:

 

  • dylid defnyddio eli lleithio heb bersawr ar eich wyneb a rhan uchaf eich corff o ddechrau eich triniaeth.  Rhowch yr eli ar eich corff i'r un cyfeiriad â thwf y gwallt.
  • Peidiwch ag eillio’n wlyb, defnyddiwch raser drydan.
  • dylid osgoi dod i gysylltiad â'r haul; gwisgwch het a defnyddio eli haul ffactor uchel.
  • peidiwch â defnyddio dŵr poeth ar eich croen.
  • peidiwch â defnyddio sebon os yw'ch croen yn sych - defnyddiwch rywbeth arall yn lle sebon, fel hufen dyfrllyd, neu hylif meddalu bath fel oilatum.
  • Defnyddiwch siampŵ ysgafn, fel siampŵ Simple.  Peidiwch â defnyddio siampŵ babi.
  • ceisiwch beidio â rhwbio'ch croen yn galed - dylid ei sychu’n ysgafn
  • ceisiwch wisgo menig wrth olchi llestri.
  • gwisgwch ddillad cyfforddus ac esgidiau nad ydynt yn rhwbio

 

Gall eich meddyg ysbyty ragnodi tabledi gwrthfiotig i helpu i leihau difrifoldeb y frech ar eich croen.   

 

Os bydd y smotiau'n mynd yn goch ac yn llidiog, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi eli steroid ac eli gwrthfiotig i chi i'w rhoi ar yr ardal.  Os bydd y smotiau'n dechrau edrych yn heintiedig, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Mae’r adwaith hwn ar y croen yn un dros dro, a bydd yn gwella'n llwyr ar ôl i chi orffen y driniaeth.  Os byddwch yn datblygu adwaith difrifol ar y croen sy'n achosi poen i chi neu'n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur i'ch dwylo a'ch traed

Efallai y byddwch chi'n profi poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu'ch traed.  Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell defnyddio hufen neu eli heb bersawr yn rheolaidd.  Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu'ch traed yn mynd yn boenus. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Adweithiau o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith o fath alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth dderbyn eich panitumumab. Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau isod.

 

  • poeth a gwridog
  • cosi
  • teimlo’n benysgafn
  • yn sâl yn gyffredinol 
  • yn fyr eich gwynt 

 

Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn.

 

Niwed i'r nerfau yn eich dwylo a'ch traed

Gall oxaliplatin achosi tinglo neu fferdod yn eich bysedd neu fysedd eich traed.  Mae 85 – 95% o bobl yn profi hyn i ryw raddau.  Mae hyn yn aml yn cael ei ysgogi gan amlygiad i oerfel, er enghraifft pan fyddwch chi'n agor yr oergell neu'n dal diod oer.  Gall ei gwneud hi'n anodd ichi gau botymau neu godi pethau bach. 

 

Nid yw hyn fel arfer yn para mwy na saith diwrnod rhwng y triniaethau. Os nad yw'r tinglo neu'r fferdod yn diflannu rhwng triniaethau, mae yna risg y gallai hyn ddod yn barhaol. Os cewch chi'r broblem hon ac os yw'n para mwy na saith diwrnod, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod inni yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig. 

 

Teimlad annymunol yn eich gwddf

Mae oxaliplatin yn achosi teimlad annymunol yn y gwddf mewn nifer fach o gleifion.  Gall hyn arwain at deimlad tynn yn y gwddf neu fethu â dal eich gwynt.  Bydd hyn yn digwydd adeg y driniaeth neu o fewn ychydig oriau.  Gall gael ei ysgogi hefyd gan oerfel, felly ceisiwch osgoi diodydd rhewllyd am 24 awr ar ôl y driniaeth.

 

Rydym yn argymell eich bod yn aros am 20-30 munud ar ôl eich triniaeth cyn gadael yr ysbyty.  Ni ddylech yrru adref ar eich pen eich hun ac mewn tywydd oer, rydym yn argymell bod eich ffrind neu’ch perthynas yn cynhesu'r car cyn ichi fynd iddo.

 

Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch chi’n profi hyn tra byddwch chi'n cael eich triniaeth.  Os bydd hyn yn digwydd ar ôl ichi adael yr ysbyty, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch ymlacio, anadlu allan trwy'ch ceg ac i mewn trwy'ch trwyn.  Ceisiwch symud i rywle cynhesach a rhowch gynnig ar ddiod cynnes.  Fe ddylai'r teimlad hwn basio'n gyflym. Mae'n well ymlacio.

 

Colli gwallt

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn colli eu gwallt gyda'r driniaeth hon. Fodd bynnag, mae gwallt rhai pobl yn teneuo ychydig.

 

Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli’ch gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech chi gael copi.

 

Clotiau Gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest. 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgil-effeithiau eraill

Gall rhai cleifion ddatblygu llid yr amrannau.  Mae hwn yn haint yn y llygaid sy'n achosi llygaid dolur a gludiog.  Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen triniaeth arnoch y gallwn ni neu eich meddyg teulu ei darparu.

 

Gall rhai cleifion brofi problemau gyda phoen, chwyddo neu haint yng ngwely’r ewin.  Os bydd hyn yn digwydd, mae fel arfer ar ôl sawl mis o driniaeth.  Dywedwch wrth eich meddyg yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig os bydd hyn yn digwydd.

 

Efallai y byddwch chi’n cael cur pen tra byddwch chi ar y driniaeth hon.  Ceisiwch gymryd pa bynnag boenladdwyr y byddech chi’n eu cymryd fel arfer.  Os na fydd y rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu'ch Meddyg Teulu i gael cyngor.

 

Mae nifer fach o gleifion yn profi anhyblygrwydd yn eu gên yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl yr oxaliplatin.  Fel arfer dim ond am ychydig ddyddiau y mae hyn yn para.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrthon ni yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig.

 

Yn anaml, fe allai cleifion gael anhawster gyda’u lleferydd a/neu wrth symud eu breichiau a’u coesau, yn syth ar ôl y trwyth, neu ychydig oriau ar ôl y trwyth.  Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwn yn eich cadw ar yr uned i gael arsylwi arnoch; os ydych chi wedi gadael yr ysbyty bydd angen ichi ffonio'r galwr cemotherapi ar unwaith.

 

Mae rhai cleifion yn profi llygaid dolurus neu lygaid llawn dagrau.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu eich nyrs yn eich apwyntiad clinig nesaf.

 

Weithiau, mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed stopio’n gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn dod yn dad tra byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Yn anaml, gall pobl sy'n cael y driniaeth hon brofi diffyg anadl.  Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych chi broblem ysgyfaint yn barod.  Os hoffech drafod hyn ymhellach, siaradwch â'ch meddyg.

 

Yn anaml iawn, gall pobl ar y cemotherapi hwn brofi problemau gyda'r galon fel angina neu grychguriadau'r galon.  Os hoffech drafod hyn ymhellach, siaradwch â'ch meddyg.

 

 

 

Weithiau, gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn, sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi’n pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain ac am y sgil-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk.  Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth os ydych chi’n sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os fyddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd
  • â thyndra yn eich gwddf neu ni allwch ddal eich anadl ar yr un diwrnod â'r driniaeth
  • â dwylo neu draed poenus iawn
  • yn cael adwaith poenus ar y croen

 

 

Fferyllfa              029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau.

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

Mae'r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg hefyd.

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Mai 2019

plain-english (3)