Neidio i'r prif gynnwy

paclitaxel

Taflen wybodaeth am paclitaxel

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw paclitaxel. Mae paclitaxel hefyd yn cael ei adnabod fel Taxol. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Taxol ar gael ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi Taxol?

Mae Taxol yn gyffur cemotherapi sy’n deillio o risgl y goeden ywen Ewropeaidd. 

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi Taxol?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych. 

 

 

Pa mor aml fydda i’n cael cemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. 

 

Gellir rhoi’r driniaeth hon mewn dwy ffordd wahanol. Esbonnir y rhain isod. Bydd eich nyrs neu feddyg yn dweud wrthych ym mha ffordd bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi.

 

Triniaeth wythnosol

Byddwch yn cael Taxol unwaith bob wythnos. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi faint o gylchoedd y byddwch yn eu derbyn.

 

                           neu 

 

Triniaeth bob tair wythnos

Byddwch yn cael Taxol unwaith bob tair wythnos. Mae’n arferol cael hyd at 6 chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi faint o gylchoedd y byddwch yn eu derbyn.

 

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn bob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed cyn bob triniaeth cemotherapi. Byddwn yn gwirio sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Y rheswm dros hyn yw er mwyn i ni allu gwirio sut mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi’n cael ei ragnodi.

 

 

 

Sut bydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip wedi’i osod mewn gwythïen yng nghefn eich llaw neu fraich. Fel arall, efallai yr awgrymwn fod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei gosod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall hwn aros yn ei lle trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

Cyn eich cemotherapi, byddwn yn rhoi cyffuriau i chi trwy ddrip sy’n lleihau’r risg y byddwch yn chwydu neu’n datblygu adwaith alergaidd i’ch cemotherapi.  

 

 

Pa mor hir fydda' i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig. Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi yn un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Mae amserau’r driniaeth yn amrywio:

 

  • Os rydych yn cael triniaeth wythnosol, bydd yn cymryd hyd at 3 awr
  • Os rydych yn cael triniaeth bob tair wythnos, bydd yn cymryd tua 5 awr. 

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Ar gyfer cleifion sy’n cael triniaeth wythnosol: efallai y byddwch yn sylwi bod eich gwallt yn teneuo.

 

Ar gyfer cleifion sy’n cael triniaeth bob tair wythnos: yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar ôl i chi orffen y driniaeth. Gellir defnyddio dull o’r enw ‘oeri croen y pen’ neu ‘capio oer’ i atal colli gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn ag oeri croen y pen neu wigiau, siaradwch â’ch nyrs. 

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynglŷn ag ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn.  Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi o fewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Effeithiau ar eich nerfau

Gall Taxol effeithio ar y nerfau yn eich dwylo a’ch traed. Gall hyn arwain at ddiffyg teimlad, goglais neu binnau bach. Os yw hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig, gan efallai y bydd angen newid eich triniaeth.

 

Gall y symptomau hyn gynyddu wrth i chi gael mwy o gylchoedd o gemotherapi. Mae’n bwysig eich bod chi’n hynod ofalus wrth amlygu eich dwylo a’ch traed i dymereddau poeth neu oer. Mae’r symptomau hyn fel arfer yn peidio ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion ddioddef myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu gymalau. Gall hyn weithiau fod yn ddifrifol, ond bydd yn para am ychydig ddiwrnodau yn unig. Os oes gennych dabledi lladd poen adref, efallai y byddan nhw’n lleddfu’r boen. Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

 

Adwaith tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn dioddef adwaith tebyg i alergedd i Taxol.  Os yw hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n wrid, yn cosi, yn benysgafn neu’n anhwylus yn gyffredinol, wrth gael eich cemotherapi. Gellir trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os rydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau hyn.

 

Mae nifer fach o gleifion yn datblygu brech sy’n cosi rhwng triniaethau gyda Taxol. Os yw hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod chi’n dweud wrth eich meddyg neu nyrs yn ystod eich apwyntiad nesaf yn y clinig.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl. 

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni. 

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.