Neidio i'r prif gynnwy

Oxaliplatin and Capecitabine

Taflen wybodaeth am gemotherapi oxaliplatin a

capecitabine

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw oxaliplatin a capecitabine. Bydd yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

 

Beth yw cemotherapi oxaliplatin a capecitabine?

Cwrs triniaeth sy’n cynnwys dau gyffur yw hwn:

  • Oxaliplatin  
  • Capecitabine

 

 

Pam ydw i’n cael y cemotherapi hwn?

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff yr oxaliplatin ei roi drwy ddrip wedi’i gysylltu â nodwydd fach sy’n cael ei rhoi yn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn i chi yn fanylach. Mae gennym daflen hefyd sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC.

 

Caiff y capecitabine ei roi fel tabledi.

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nhriniaeth?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn gyfarwydd fel cylchoedd.

 

Mae modd rhoi’r driniaeth hon mewn dwy ffordd.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio sut caiff eich triniaeth ei rhoi.

 

Triniaeth bob pythefnos

Ym mhob cylch pythefnos, byddwn yn rhoi oxaliplatin i chi unwaith. Dylech gymryd y tabledi capecitabine ddwywaith y dydd am naw diwrnod, yn dechrau ar yr un diwrnod â’r oxaliplatin. Bydd angen i chi orffwys am bum niwrnod ar ôl eich triniaeth.

neu

 

Triniaeth bob tair wythnos

Ym mhob cylch tair wythnos, byddwn yn rhoi oxaliplatin i chi unwaith. Dylech gymryd y tabledi capecitabine ddwywaith y dydd am 14 diwrnod, yn dechrau ar yr un diwrnod â’r oxaliplatin. Bydd angen i chi orffwys am saith diwrnod ar ôl eich triniaeth.

 

 

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Er mwyn cael eich triniaeth cemotherapi, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos:

 

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwn yn cymryd samplau gwaed gennych a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

 

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio rhyw dair awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a’ch cemotherapi oxaliplatin i chi. Byddwn yn rhoi cyflenwad o dabledi capecitabine i chi fynd â nhw adref.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

 

 

 

 

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith yn y bore ar ôl eich brecwast a chyda’r nos ar ôl eich swper. Dylech eu cymryd o fewn 30 munud i orffen eich pryd bwyd. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu.

 

Mae’n bwysig golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

 

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Mae hyn yn amrywio. Mae tabledi o ddau gryfder gwahanol ar gael. 500mg yw’r tabledi mwy o faint a 150mg yw’r tabledi llai o faint. Bydd angen i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach, fwy na thebyg. Bydd y nifer y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch er mwyn gweld faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd.

 

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd nawr.
  • Os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr, dylech golli’r ddos honno.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig hyd yn oed os ydych wedi colli unrhyw ddosiau eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd. 

 

 

 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chyngor Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

 

Sut dylwn i gadw’r tabledi capecitabine?

Dylech gadw eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o blant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych.

 

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i adran fferyllol yr ysbyty neu’ch siop fferyllydd leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rywfaint.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog, rhowch y gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

 

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei chymryd os byddwch yn cael dolur rhydd.

 

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr.
  • byddwch yn deffro yn ystod y nos gyda dolur rhydd.

 

Dylech gysylltu â ni hefyd os bydd gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd yn nifer y troeon y byddwch yn agor eich perfedd sy’n para’n fwy na thridiau.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

 

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Os bydd eich ceg yn ddolurus iawn, neu os byddwch yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

Problemau ar y galon

Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cael cemotherapi capecitabine yn cael problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. Os oes gennych unrhyw boen yn eich brest, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a gofyn am sylw meddygol brys. Peidiwch â chymryd eich capecitabine eto hyd nes byddwch wedi siarad â’r tîm yn Felindre.

 

Poen yn y gwythiennau

Pan gaiff oxaliplatin ei roi mewn drip, bydd rhai cleifion yn cael anghysur ar hyd yr wythïen. Gall hyn ddigwydd ar adeg rhoi triniaeth a gall bara am nifer o ddyddiau wedi hynny. Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd yn ystod eich triniaeth. Os bydd hyn yn digwydd pan fyddwch adref, dylech geisio cymryd pa gyffuriau lleddfu poen bynnag y byddwch yn eu cymryd at ben tost fel arfer. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

Bydd gosod llinyn PICC yn atal y broblem hon rhag digwydd. Os hoffech ragor o wybodaeth, siaradwch â’ch nyrs neu’ch meddyg.

 

Niwed i’r nerfau yn eich dwylo a’ch traed

Gall oxaliplatin achosi goglais neu fferdod yn eich bysedd neu’ch bysedd traed. Mae rhwng 85% a 95% o bobl yn cael hyn i ryw raddau. Caiff hyn ei achosi yn aml gan amlygiad i oerni, er enghraifft, pan fyddwch yn agor yr oergell neu’n dal diod oer. Gall ei wneud yn anodd i chi gau botymau bach neu i afael mewn gwrthrychau bach.

 

Nid yw’r driniaeth hon yn para’n fwy na saith diwrnod rhwng triniaethau. Os bydd gennych y broblem hon a’i bod yn para’n fwy na saith diwrnod, dywedwch wrthym yn eich apwyntiad nesaf â’r clinig.

 

Teimlad annifyr yn eich gwddf

Mae oxaliplatin yn achosi synhwyriad annifyr yn y gwddf yn achos nifer fach o gleifion. Gallai hyn arwain at deimlad o dyndra yn y gwddf neu anallu i gael eich gwynt atoch. Bydd hyn yn digwydd ar adeg y driniaeth neu o fewn ychydig oriau i’r driniaeth. Mae’n bosibl y bydd yn dechrau gydag annwyd felly dylech osgoi diodydd oer iawn am 24 awr ar ôl  triniaeth.

 

Argymhellwn eich bod yn aros am rhwng 20 a 30 munud ar ôl eich triniaeth cyn gadael yr ysbyty. Ni ddylech yrru eich hun adref ac, mewn tywydd oer, argymhellwn fod ffrind neu berthynas yn gwresogi’r car cyn i chi fynd i mewn iddo.

 

Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd i chi tra eich bod yn cael eich triniaeth. Os bydd yn digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

 

Sgîl-effeithiau eraill

Mae rhai cleifion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd hyn yn digwydd.

 

Bydd nifer fach o gleifion yn cael anystwythder yn y safn yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl yr oxaliplatin. Mae hyn ond yn para ychydig ddyddiau fel arfer. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrthym yn ystod eich apwyntiad nesaf â’r clinig.

 

Weithiau bydd cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Gall cemotherapi gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

 

 

 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda capecitabine?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd tabledi warfarin.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • Os byddwch yn agor eich perfedd yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi ac sy’n para’n fwy na thridiau
  • Bod gennych geg ddolurus iawn
  • Bod gennych ddwylo neu draed dolurus iawn
  • Bod gennych dyndra yn eich gwddf neu anallu i gael eich gwynt atoch
  • Os ydych wedi gorfod rhoi’r gorau i capecitabine oherwydd poen yn y frest

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 Adolygwyd Rhagfyr 2011