Taflen wybodaeth ar driniaeth osimertinib
Mae'r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw osimertinib. Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y caiff ei rhoi. Bydd yn dweud wrthych chi hefyd am y sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu profi. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am osimertinib ar ddiwedd y daflen.
Beth yw osimertinib?
Mae osimertinib yn gyffur gwrth-ganser. Nid cemotherapi ydyw. Mae'n gweithio drwy arafu neu atal y canser rhag tyfu.
Mae osimertinib yn cael ei roi fel tabledi, sydd fel arfer yn cael eu cymryd bob dydd.
Pam ydw i'n cael osimertinib?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi osimertinib i chi, oherwydd canfuwyd ei fod yn effeithiol wrth reoli eich math o ganser.
Sut ddylwn i gymryd y tabledi osimertinib?
Dylid cymryd tabledi osimertinib unwaith y dydd gyda gwydraid o ddŵr. Ceisiwch gymryd y tabledi ar yr un pryd bob dydd. Gallwch gymryd y tabledi gyda bwyd neu heb fwyd. Dylech lyncu’r tabledi yn gyfan gyda dŵr llonydd (nid pefriog); peidiwch â malu, rhannu neu gnoi'r tabledi. Os nad ydych yn gallu llyncu tabledi, gallwch ollwng y tabledi mewn 50ml o ddŵr, eu cymysgu’n dda ac yna, eu hyfed, ychwanegu dŵr ychwanegol i rinsio'r gwydr, ac yfed hyn hefyd. Peidiwch â defnyddio unrhyw dabledi o ddeunydd pacio wedi'i ddifrodi.
Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?
Bydd faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd yn cael ei farcio'n glir ar y bocs. Os ydych chi'n cymryd gormod o dabledi, ffoniwch y pager cemotherapi ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Beth os byddaf yn colli dos?
Os byddwch chi'n colli dos, gallwch gymryd y dos a gollwyd, ar yr amod nad yw'n 12 awr cyn eich dos nesaf.
Sut ddylwn i storio'r tabledi osimertinib?
Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol mewn lle diogel i ffwrdd o afael plant. Dylid eu cadw mewn lle sych ac oer. Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi sydd ddim yn cael eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel.
A gaf i ddod â ffrindiau a pherthnasau gyda mi?
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Does dim llawer o le, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.
Beth yw'r sgîl-effeithiau posibl?
Mae yna nifer o sgîl-effeithiau posibl a allai godi gyda thriniaeth osimertinib. Gall y meddygon, y nyrsys a’r tîm fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dolur rhydd
Efallai y byddwch yn cael dolur rhydd gyda'r driniaeth hon. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr, sydd yn fwy na’r hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Blinder a lludded
Gall triniaeth osimertinib wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer. Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych chi'n teimlo fel eich bod chi’n gallu gwneud hyn. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol, yn ogystal â gorffwys.
Ceg ddolurus
Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus, neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi, i’ch helpu gyda hyn.
Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn neu os ydych chi’n cael trafferth bwyta ac yfed, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi, a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn tua diwedd y daflen.
Ewinedd bysedd ac ewinedd traed
Efallai y bydd rhai cleifion yn cael problemau gyda phoen, chwyddo neu haint yn yr ewinedd. Os bydd hyn yn digwydd, ffoniwch y pager cemotherapi, mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. Dywedwch wrth eich meddyg yn ystod eich ymweliad nesaf i’r clinig hefyd.
Adweithiau i’r croen
Adwaith i’r croen yw'r sgîl-effaith fwyaf cyffredin. Fel arfer, mae hwn yn frech tebyg i acne, sydd yn gallu bod yn sych ac yn goslyd, ac sy’n gallu achosi anghysur ysgafn. I nifer fach o bobl, gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, gall fod yn boenus, a gall gael ei heintio.
Er mwyn lleihau'r posibilrwydd o adweithiau difrifol i’r croen, rydym yn awgrymu eich bod:
Mae'r adwaith hwn i’r croen yn rhywbeth dros dro, a bydd yn diflannu’n llwyr ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Os byddwch yn datblygu adwaith difrifol i’r croen sy'n achosi poen i chi neu sy’n eich atal chi rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Cyfrif gwaed isel
Gall osimertinib effeithio ar eich cyfrif gwaed ac weithiau, gall hyn gynyddu eich risg o waedu. Os ydych chi’n sylwi ar gleisio neu waedu anarferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae'r rhifau ffôn tua diwedd y daflen.
Haint
Rydych chi mewn mwy o berygl o gael haint, oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn sy'n helpu i ymladd heintiau gael eu lleihau gan y driniaeth hon.
Os byddwch yn cael haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych chi mewn perygl o gael sepsis, sydd yn gallu peryglu bywyd.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i'r ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Problemau gyda’ch Calon
Os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau eich triniaeth. Gall rhai pobl sydd â chyflwr sylfaenol ar y galon ac sy’n cael osimertinib, brofi problemau'r galon. Os ydych chi’n cael crychguriadau’r galon neu’n mynd yn fyr eich anadl, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi osimertinib a ffonio'r pager cemotherapi. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. Os oes gennych boen yn y frest, ffoniwch 999. Peidiwch â dechrau cymryd eich tabledi osimertinib eto nes eich bod chi wedi siarad â'r tîm yn Felindre.
Clotiau gwaed
Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hon ymhellach. Mae'n bwysig eich bod chi’n dweud wrth eich meddyg ar unwaith os ydych chi’n cael symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych chi’n dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest.
Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed. Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.
Sgîl-effeithiau eraill
Anaml iawn y bydd pobl sy'n cael osimertinib yn dioddef o broblemau anadlu, gyda neu heb dwymyn, oherwydd eu bod yn cymryd y tabledi hyn. Os ydych chi’n sylwi eich bod chi’n cael problemau anadlu newydd, gyda neu heb dwymyn, cysylltwch â'r pager cemotherapi, mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon. Byddwch yn cael eich monitro mewn ymweliadau rheolaidd â’r clinig hefyd.
Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu’n dod yn dad tra byddwch yn cael y driniaeth hon, gan y gallai niweidio'r babi heb ei eni. Mae angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu tra byddwch yn cymryd y tabledi. Bydd angen i fenywod barhau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu am 2 fis ar ôl cwblhau'r tabledi a dynion, am 4 mis. Bydd y tabledi yn amharu ar ffrwythlondeb hefyd.
Mae'n bwysig peidio â bwydo ar y fron tra rydych chi’n cymryd y feddyginiaeth.
Ydy’n iawn i mi gymryd meddyginiaethau eraill gyda osimertinib?
Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau eraill, fitaminau neu feddyginiaethau llysieuol, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd. Mae yna nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Mae'r rhain yn cynnwys St John's Wort, warfarin a fentanyl, ymhlith eraill.
Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi'n poeni am unrhyw sgîl-effeithiau.
Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion
Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: os hoffech ragor o wybodaeth am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre, a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, gall cleifion gael trafferth yn darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.
Rhifau ffôn cyswllt:
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith arnoch ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os:
Fferyllfa 029 2061 5888 (est 6223)
Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell gymorth rhadffôn Macmillan 0808 808 0000
Llinell gymorth canser Rhadffôn Tenovus 0808 808 1010
Llinell gymorth ysmygwyr Cymru 0800 085 2219
.
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan dîm o feddygon, nyrsys a chleifion. Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.
|