Taflen wybodaeth am gemotherapi 5-fluorouracil (5-FU)
a mitomycin ynghyd â radiotherapi
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw 5-fluorouracil (5-FU) a mitomycin ynghyd â radiotherapi. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y llyfryn hwn.
Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’a’r llyfryn am eich radiotherapi. Os nad ydych wedi cael y rhain, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi 5-fluorouracil a mitomycin ynghyd â radiotherapi?
Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys dau gyffur yw hon ynghyd â chwrs radiotherapi:
Pam ydw i’n cael y driniaeth hon?
Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r driniaeth hon gan ei bod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.
Gall triniaethau radiotherapi a chemotherapi roi canlyniadau gwell o’u rhoi gyda’i gilydd yn hytrach na’r naill driniaeth neu’r llall ar ei phen ei hun. Nod y driniaeth yw niweidio unrhyw gelloedd canser yn eich tiwmor neu’n agos ato ac unrhyw gelloedd canser a allai fod wedi symud i rannau eraill o’ch corff.
Pa mor aml fyddaf yn cael fy nhriniaeth?
Caiff eich radiotherapi ei roi bob dydd o’r wythnos am bum wythnos.
Caiff y 5-FU ei roi dros bedwar diwrnod yn wythnos gyntaf eich radiotherapi ac unwaith eto am bedwar diwrnod yn wythnos olaf eich radiotherapi.
Caiff y mitomycin ei roi unwaith yn ystod wythnos gyntaf eich triniaeth.
Pa mor aml fyddaf yn gweld meddyg?
Bydd eich meddyg yn esbonio pa mor aml bydd angen iddo eich gweld. Rhwng eich ymweliadau â’r meddyg, bydd un o’r nyrsys cemotherapi neu’r radiograffwyr yn eich gweld o leiaf bob wythnos. Byddwch yn cael profion gwaed wythnosol a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch.
Sut caiff fy radiotherapi ei roi?
Byddwch yn cael triniaeth radiotherapi o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ffracsiwn yw’r enw ar bob triniaeth ddyddiol ac mae’n cymryd ychydig funudau yn unig. Ni fyddwch yn teimlo dim yn ystod eich triniaeth, ond byddwch yn clywed sŵn hymian o’r peiriant.
Mae eich llyfryn radiotherapi’n cynnwys gwybodaeth am sut caiff eich triniaeth radiotherapi ei chynllunio, sut caiff ei rhoi a’r sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef. Os hoffech ragor o wybodaeth am eich radiotherapi, siaradwch â’ch radiograffwyr.
Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?
Er mwyn cael y cemotherapi hwn, bydd angen gosod tiwb mân i mewn i un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Llinyn PICC yw’r enw ar y tiwb hwn. Caiff eich llinyn PICC ei osod ryw wythnos cyn dechrau eich cemotherapi fel arfer. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn yn fanylach i chi.
Caiff y 5-FU ei roi mewn bag sy’n ffitio mewn pwmp cludadwy bach.
Ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth, bydd eich nyrs cemotherapi’n chwistrellu’r mitomycin yn eich llinyn PICC.
Sut ydw i’n gofalu am y pwmp cludadwy?
Byddwn yn esbonio popeth am y pwmp, sut mae’n gweithio a sut i ofalu amdano. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.
Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty?
Bydd pob apwyntiad cemotherapi’n cymryd rhyw 30 munud. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â’r cemotherapi?
Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn goddef y math hwn o gemotherapi heb anhawster ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn dioddef llawer o sgîl-effeithiau. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi unrhyw gyngor neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd nifer fach iawn o gleifion yn gweld bod eu gwallt yn teneuo rywfaint.
Salwch
Yn bur anaml y bydd y 5-FU yn achosi cyfog. Mae’r mitomycin yn fwy tebygol o achosi cyfog felly byddwn yn rhoi ychydig o feddyginiaeth wrthgyfog i chi cyn y pigiad. Byddwn hefyd yn rhoi cyflenwad o dabledi gwrthgyfog i chi eu cymryd am ychydig ddyddiau.
Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Heintiau
Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Dolur rhydd
Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Blinder a lludded
Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Ceg ddolurus
Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.
Dolur i’ch dwylo a’ch traed
Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth
Bydd llygaid rhai cleifion yn ddolurus neu’n ddyfrllyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig.
Bydd mitomycin yn afliwio eich wrin yn las yn gwbl ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para’n fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.
Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.
Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.
Sgîl-effeithiau anghyffredin
Gall nifer fach o bobl gael problemau ar eu hysgyfaint ar ôl triniaeth mitomycin. Os byddwch yn datblygu peswch sych neu’n sylwi eich bod yn fyr o wynt, dywedwch wrthym yn eich ymweliad nesaf â’r ysbyty.
Yn bur anaml, gall mitomycin niweidio eich celloedd gwaed a’ch arennau. Rydym yn cyfrifo dos y mitomycin yn ofalus er mwyn lleihau’r risg hon. Byddwch hefyd yn cael profion gwaed rheolaidd fel ein bod yn gallu gwirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio ar eich system waed.
Yn bur aml, bydd rhai pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau ar y galon. Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar eich calon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.
|