Neidio i'r prif gynnwy

gemcitabine a capecitabine

Taflen wybodaeth ynghylch cemotherapi gemcitabine a capecitabine

 

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o'r enw gemcitabine a capecitabine. Bydd yn egluro beth yw hwn a phryd a sut mae’n cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am gemcitabine a capecitabine ar gael ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi gemcitabine a capecitabine?

Triniaeth cemotherapi yw hon sy'n cynnwys dau gyffur:

  • Gemcitabine
  • Capecitabine

 

Pam rydw i'n cael y cemotherapi hwn?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn am ei fod wedi’i weld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Bydd y cemotherapi gemcitabine yn cael ei roi trwy ddrip sydd wedi'i gysylltu â nodwydd fach sy’n cael ei gosod yn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw llinell PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach. 

 

Mae’r cemotherapi capecitabine yn cael ei roi ar ffurf tabledi.

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy nhriniaeth?

Fe gewch chi’r gemcitabine mewn drip unwaith yr wythnos am 3 wythnos ac yna wythnos o seibiant. Yr enw ar y cyfnod hwn o bedair wythnos yw cylch triniaeth. Byddwch chi’n cymryd y tabledi capecitabine ddwywaith y dydd am 3 wythnos, ac yna'n cael wythnos o seibiant. 

 

Pa mor hir fydd fy nhriniaeth yn ei gymryd?

Dylech chi ganiatáu tuag un awr ar gyfer pob apwyntiad cemotherapi. Fe gewch chi brawf gwaed cyn pob triniaeth. Unwaith y bydd y prawf gwaed hwn wedi'i wirio, bydd y fferyllfa yn gwneud eich cemotherapi. 

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch chi’n gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Fe gewch chi brofion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylai’r tabledi capecitabine gael eu cymryd ddwywaith y dydd (9-12 awr ar wahân).  Dylech chi gymryd y tabledi o fewn 30 munud ar ôl gorffen eich pryd.  Dylai’r tabledi gael eu llyncu'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ddylen nhw ddim cael eu cnoi na'u malu. 

 

Mae'n bwysig golchi'ch dwylo'n drylwyr ar ôl ichi gymryd eich tabledi.

 

Faint o dabledi fydd angen imi eu cymryd?

Bydd hyn yn amrywio ar gyfer pob person. Mae yna ddwy dabled â chryfder gwahanol ac sydd o wahanol feintiau. Mae'r tabledi mwyaf yn 500mg a'r tabledi lleiaf yn 150mg. Mae'n debyg y bydd rhaid ichi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach. Bydd y nifer mae angen ichi eu cymryd yn cael ei nodi'n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch i weld faint o dabledi sydd angen ichi eu cymryd.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw hyn o fewn dwy awr i'r amser arferol, cymerwch nhw nawr.
  • Os yw'n fwy na dwy awr yn hwyr, peidiwch â chymryd y dos hwn.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai’ch triniaeth chi fod wedi gorffen. Hyd yn oed os ydych chi wedi methu unrhyw ddosau, mae'n bwysig eich bod chi’n gorffen y driniaeth ar yr amser a drefnwyd.  

 

 

 

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi capecitabine?

Dylech chi storio’ch tabledi yn eu pecyn gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o blant. Dylen nhw gael eu cadw mewn lle sych ac oer. Dylai unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio gael eu dychwelyd i Fferyllfa'r ysbyty neu'ch fferyllydd lleol i'w gwaredu'n ddiogel. 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd gyda'r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Ddylech chi ddim colli’ch gwallt. Er hynny, fe all nifer fach o bobl weld rhywfaint o deneuo yn eu gwallt. 

 

Cyfogi

Mae cyfogi a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-gyfogi ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol. Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth wrth-gyfogi yn rheolaidd, peidiwch â chymryd eich tabledi capecitabine a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch chi’n datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Efallai y cewch chi ddolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth ichi ei chymryd os byddwch chi’n cael dolur rhydd. Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith:

  • os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi.
  • os cewch chi’ch deffro yn y nos gyda dolur rhydd.  

 

Dylech chi gysylltu â ni hefyd os cewch chi unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu os byddwch chi’n gorfod ysgarthu yn amlach dros gyfnod o fwy na 3 diwrnod.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer. Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn, neu os byddwch yn ei chael hi'n anodd bwyta ac yfed, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Dolur i'ch dwylo a'ch traed

Efallai y byddwch chi'n profi poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu'ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell defnyddio hufen neu eli heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu'ch traed yn mynd yn boenus.

 

Problemau calon

Yn anaml iawn bydd rhai pobl sy'n cael cemotherapi capecitabine yn cael problemau gyda'r galon.  Os oes gennych chi gyflwr ar y galon neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth i’r galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn ichi ddechrau cemotherapi.  Os cewch chi unrhyw boen yn y frest dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a gofyn am sylw meddygol ar fyrder.  Peidiwch â dechrau cymryd eich capecitabine eto nes eich bod wedi siarad â'r tîm yn Felindre.

 

Symptomau tebyg i ffliw

Mae rhyw 20% o gleifion yn profi symptomau tebyg i ffliw yn y 48 awr gyntaf yn dilyn triniaeth gemcitabine. Mae hyn fel arfer yn ysgafn ac yn fyrhoedlog. Gall y symptomau gynnwys twymyn, oerfel, poen yn y cyhyrau, cur pen a blinder. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os bydd eich tymheredd yn uwch na 37.5oC neu'n is na 35.5°.

 

 

 

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

Gyrru a Defnyddio Peiriannau

Gall gemcitabine weithiau wneud ichi deimlo'n gysglyd yn enwedig os ydych chi wedi yfed alcohol.  Peidiwch â gyrru na defnyddio peiriannau am ychydig oriau ar ôl ichi gael y gemcitabine.

 

Sgil-effeithiau eraill

Mae rhai cleifion yn profi anghysur ar hyd y wythïen pan fydd gemcitabine yn cael ei roi ar ffurf drip. Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd.

 

Gall gemcitabine achosi brech goslyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs.

 

Efallai y byddwch yn sylwi bod eich pigyrnau yn chwyddo. Mae hyn fel arfer yn ysgafn a bydd yn stopio pan fydd eich triniaeth wedi'i chwblhau.

Mae rhai cleifion yn profi llygaid dolurus neu lygaid llawn dagrau. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd hyn yn digwydd.

 

Weithiau mae menywod yn gweld bod cemotherapi yn effeithio ar eu mislif. Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed beidio yn gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul. Mae'n well osgoi heulwen gryf a gwisgo het a defnyddio eli atal haul pan fyddwch chi yn yr haul.

 

Ydy hi'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda capecitabine?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau eraill. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gall fod rhaid ichi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych chi’n cymryd tabledi warffarin.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • yn ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi
  • yn ysgarthu yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi dros gyfnod o fwy na thri diwrnod
  • â cheg ddolurus iawn
  • â dwylo neu draed poenus iawn
  • wedi gorfod rhoi'r gorau i capecitabine oherwydd poen yn y frest

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedi’i hadolygu Tachwedd 2019