Neidio i'r prif gynnwy

Gemcitabine 244 ac 81

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw gemcitabine.  Bydd yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y caiff ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am y sgil effeithiau cyffredin y gallwch eu cael.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion ar sut i gael rhagor o wybodaeth am gemcitabine ar ddiwedd y daflen.

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’.  Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi gemcitabine?

Triniaeth gemotherapi yw hon a roddir fel arllwysiad (neu ddrip).

Pam ydw i’n derbyn cemotherapi gemcitabine? 

Mae eich meddyg wedi rhagnodi gemcitabine am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

Pa mor aml byddaf i’n derbyn fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth fod ar ei mwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Cylchredau yw’r enw ar y rhain.  Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi'r union nifer o gylchredau y byddwch yn eu cael.  

Gellir rhoi gemcitabine mewn 2 ffordd: 

  1. Gemcitabine unwaith yr wythnos am saith wythnos, ac wedyn un wythnos o seibiant.  Wedyn gemcitabine unwaith yr wythnos am dair wythnos, ac wythnos o seibiant i’w ddilyn.  
    Neu
  2. Gemcitabine unwaith yr wythnos am dair wythnos, ac wythnos o seibiant i’w ddilyn. 

Bydd eich nyrs neu eich meddyg yn dweud wrthych ym mha ffordd y caiff eich triniaeth ei rhoi.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff y cemotherapi ei roi drwy ddrip sydd wedi’i gysylltu â nodwydd a roddir yn eich llaw neu yn eich braich. Fel arall  efallai awgrymir y caiff tiwb mân o’r enw llinell PICC ei roi i mewn i un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle drwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linellau PICC.  Gofynnwch os hoffech chi gael copi.

Am ba mor hir bydd fy nhriniaeth yn parhau?

Dylech chi neilltuo 2-3 awr ar gyfer pob apwyntiad cemotherapi.  Caiff prawf gwaed ei gymryd cyn pob triniaeth.  Ar ôl i’r prawf gwaed hwn gael ei wirio caiff eich cemotherapi ei wneud gan y fferyllfa.  

Os ydych yn ymweld â’r meddyg ac yn cael cemotherapi ar yr un diwrnod bydd rhaid i chi neilltuo 4-6 awr ar gyfer eich ymweliad.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth.  Mae lle’n gyfyng yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth felly fel arfer nid oes digon o le ar gyfer mwy nag un person.  Nid yw mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc. 

Beth yw’r sgil effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil effeithiau posibl a all ddigwydd gyda’r cemotherapi hwn.  Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Colli gwallt

Ni ddylech chi golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn.  Fodd bynnag, efallai y bydd eich gwallt yn teneuo rywfaint. 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych chi am ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i’ch nyrs am gopi. 

Salwch

Mae cyfogi a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn oherwydd byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch i chi sydd fel arfer yn effeithiol iawn.  Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith o fewn 24 awr er gwaethaf cymryd meddyginiaeth rhag salwch yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Haint

Mae’r risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o heintiau, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin yn achos cemotherapi gemcitabine.  Fodd bynnag os cewch eich corff i lawr bedair gwaith neu’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer.  Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen, ond gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo’n abl i wneud hynny.  Mae rhai pobl yn ei weld yn fuddiol i wneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Efallai bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol.  Efallai bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolchion neu feddyginiaeth er mwyn atal neu glirio unrhyw heintiau.

Symptomau sy’n debyg i’r ffliw

Mae tua 20% o gleifion yn cael symptomau sy’n debyg i’r ffliw yn ystod y 48 awr gyntaf ar ôl triniaeth gemcitabine. Fel arfer mae hyn yn  ysgafn ac nid yw’n parhau’n hir.  Efallai bydd symptomau’n cynnwys twymyn, oerni, cyhyrau poenus, cur pen a blinder.  Os yw eich tymheredd yn fwy na 37.5˚canradd cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Newidiadau i’r croen

Efallai bydd gemcitabine yn achosi brech goslyd i rai cleifion.  Mae meddyginiaeth ar gael i drin hyn.  Os bydd hyn yn digwydd cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Sgil effeithiau eraill

Mae rhai cleifion yn cael profiad o rywfaint o anghysur ar hyd y wythïen pan gaiff gemcitabine ei roi mewn drip. Bydd rhoi llinell PICC i mewn yn atal y broblem rhag digwydd.  Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth siaradwch â’ch nyrs neu â’ch meddyg.

Efallai byddwch chi hefyd yn sylwi bod eich pigwrn yn chwyddo rywfaint. Fel arfer mae hyn yn ysgafn a bydd yn dod i ben pan fydd eich triniaeth wedi’i chwblhau. 

Weithiau mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn cael effaith ar eu mislif.  Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu ddod i ben yn gyfan gwbl hyd yn oed.   

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn pan fyddwch yn cael triniaeth gemotherapi oherwydd gallai cemotherapi niweidio’r baban yn y groth.  

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau yw osgoi golau haul cryf, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion ar gael o fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk .  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol.  Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn oherwydd gallant fod yn anodd eu darllen.  Fodd bynnag, os hoffech gael copi, gofynnwch.

Rhifau ffôn  cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn anhwylus gartref a bod angen sylw brys arnoch unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft dylech ffonio os byddwch:

  • Yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Â thymheredd o 37.5˚ canradd neu’n uwch
  • Â dolur rhydd
  • Â brech goslyd

Yr Adran Fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau am eich meddyginiaeth

Llinell gymorth canser 0808 808 1010

Tenovus - rhadffôn

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol am ganser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae’r wybodaeth sydd yn y daflen hon wedi ei seilio ar dystiolaeth.  Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.