Taflen wybodaeth ar driniaeth entrectinib
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw entrectinib. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei rhoi. Bydd yn rhoi gwybod i chi hefyd, am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am entrectinib ar ddiwedd y daflen hon.
Mae eich 'tîm arbenigol' yn cyfeirio at eich tîm oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre sy'n cynnwys meddygon, nyrsys arbenigol a phresgripsiynwyr annibynnol anfeddygol a all fod yn nyrs neu'n fferyllydd.
Beth yw entrectinib?
Cyffur gwrthganser yw entrectinib, nid cemotherapi. Mae'n gweithio trwy arafu neu atal y canser.
Mae entrectinib yn cael ei roi fel tabledi, sy'n cael eu cymryd bob dydd fel arfer.
Pam ydw i'n cael entrectinib?
Mae eich meddyg wedi rhagnodi entrectinib gan ei fod yn effeithiol o ran rheoli'r math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Bydd tîm arbenigol yn adolygu'r driniaeth yn rheolaidd. Byddwch naill ai'n gweld eich tîm arbenigol mewn clinig neu byddwch yn siarad â nhw'n rhithwir.
Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae entrectinib yn effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich capsiwlau'n cael eu rhagnodi
Sut dylwn i gymryd entrectinib?
Dylid cymryd capsiwlau entrectinib unwaith y dydd gyda gwydraid o ddŵr. Ceisiwch ei gymryd tua'r un adeg bob dydd. Dylid llyncu'r capsiwlau'n gyfan ac ni ddylid eu hagor na'u toddi gan fod cynnwys y capsiwl yn chwerw iawn. Gellir eu cymryd gyda bwyd neu hebddo ond ni ddylid eu cymryd gyda grawnffrwyth na sudd grawnffrwyth. Dylech gymryd tabledi entrectinib unwaith y dydd gyda gwydraid o ddŵr. Ceisiwch gymryd y tabledi tua'r un amser bob dydd.
Faint o dabledi sydd angen i mi eu cymryd?
Bydd y nifer y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei nodi'n glir ar y blychau. Os ydych chi'n cymryd gormod o gapsiwlau, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. Bydd nifer y tabledi sydd angen i chi eu cymryd wedi cael ei nodi'n glir ar y bocsys.
Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn colli dos?
Os byddwch yn colli dos, gallwch gymryd y dos a chollwyd cyn belled â'i fod o fewn 12 awr i'ch amser arferol
Sut dylwn i storio fy nhabledi entrectinib?
Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol, mewn man diogel allan o afael plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd tabledi heb eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i'ch fferyllfa leol, er mwyn cael gwared arnynt yn ddiogel.
Beth yw'r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl yn gallu digwydd yn dilyn triniaeth entrectinib. Gall y meddygon, y nyrsys a'r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Sgil-effeithiau difrifol
Cysylltwch â'r llinell gymorth triniaeth os ydych yn sylwi ar unrhyw un o'r canlynol. Gall eich meddyg ostwng eich dos, stopio eich triniaeth am gyfnod byr neu atal eich triniaeth yn llwyr:
Sgil-effeithiau eraill
Mae'n hysbys bod y driniaeth hon yn achosi naill ai rhwymedd neu ddolur rhydd. Os ydych chi'n profi rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylifau rydych chi'n eu hyfed. Efallai y bydd angen moddion gweithio arnoch.
Os ydych chi'n profi dolur rhydd mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn ysgarthu bedair gwaith neu fwy mewn 24 awr, sy’n fwy na'r hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Byddwn yn rhoi tabledi gwrth-gyfog i chi eu cymryd os bydd eu hangen arnoch. Os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-gyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
Mae adweithiau i'r croen yn gyffredin gydag entrectinib. Fel arfer, gallech ddatblygu brech sydd yn sych, yn cosi ac yn achosi ychydig o anghysur. I nifer fach o bobl, gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, ac yn gallu bod yn boenus a throi'n heintus.
I leihau'r posibilrwydd o adwaith difrifol ar y croen, rydym yn argymell:
Rhywbeth dros dro ydy'r adwaith hwn, a bydd yn diflannu'n gyfan gwbl ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Os byddwch yn dechrau cael adwaith difrifol i'r croen sy'n achosi poen i chi neu sy'n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Gall triniaeth entrectinib wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer. Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau â'ch gweithgareddau arferol os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gallu gwneud hynny. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys
Gall entrectinib effeithio ar eich cyfrif gwaed. Ar brydiau, gall hyn gynyddu eich risg o waedu. Os ydych chi'n sylwi ar gleisio neu waedu anarferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae'r rhifau ffôn ar ddiwedd y daflen.
Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon..
Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd. Y rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.
Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach. Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest.
Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn ond fel arfer. Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed. Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.
A allaf yrru tra fy mod yn cymryd entrectinib?
Gall rhai pobl deimlo'n flinedig iawn, ychydig yn benysgafn, gael rhywfaint o olwg aneglur neu deimlo'n ddryslyd pan fyddant yn dechrau cymryd entrectinib ar y dechrau. Ni ddylech yrru os ydych yn profi unrhyw un o'r sgil-effeithiau hyn. Os bydd y rhain yn parhau neu'n achosi unrhyw broblemau, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs.
Beichiogrwydd, Atal Cenhedlu a Bwydo ar y Fron
Weithiau, mae menywod yn canfod bod triniaeth entrectinib yn effeithio ar eu mislif. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed yn peidio'n gyfan gwbl.
Mae'n bwysig nad yw menywod yn beichiogi am o leiaf 5 wythnos ar ôl rhoi'r gorau i driniaeth.
Mae'n bwysig nad yw dynion yn cenhedlu plentyn wrth gael y driniaeth hon a hyd at 3 mis ar ôl rhoi'r gorau i'r driniaeth hon. Y rheswm am hyn yw y gallai entrectinib niweidio'r baban heb ei eni.
Dylech ddefnyddio dull dibynadwy arall o atal cenhedlu fel dull rhwystr (e.e. condom).
Siaradwch â'ch meddyg am y dulliau cywir o atal cenhedlu ar eich cyfer chi a'ch partner.
Mae'n bwysig peidio â bwydo ar y fron wth gymryd y feddyginiaeth
A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gydag entrectinib?
Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau, fitaminau neu feddyginiaethau llysieuol eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd. Mae ychydig o feddyginiaethau y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi. Mae'r rhain yn cynnwys bendigeidlys, warffarin, fentanyl, statinau a meddyginiaethau a ddefnyddir i drin HIV, epilepsi, heintiau ffwngaidd, ymhlith eraill.
Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwr i gleifion
Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth y gwneithurwyr i gleifion, a gafwyd gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Adran fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell Gymorth rhadffôn Macmillan 0808 808 0000
7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ganser
Rhadffôn Tenovus 0808 808 1010
llinell gymorth canser
7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ganser
Llinell gymorth ysmygwyr Cymru ar 0800 085 2219
Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Gymraeg.
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe'i cymeradwywyd gan dîm o feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd
|